Skip to content

Wasanaethau Eiriolaeth Plant

Jane Hutt, , Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Fel y Gweinidog â chyfrifoldeb dros blant gyda’r rôl arweiniol yn hyrwyddo hawliau plant, mae’n dda gennyf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am syniadau cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru am ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yr wyf yn cydnabod diddordeb Aelodau yn y pwnc pwysig hwn ac yn croesawu’r ffaith bod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wrthi’n adolygu gwasanaethau eiriolaeth ar hyn o bryd.

Nod y Llywodraeth yw gwneud darpariaeth eiriolaeth effeithiol i holl blant a phobl ifanc Cymru. Gall eiriolaeth fod yn hanfodol i ddiogelwch a lles plant ac mae’n fodd pwysig o ddatblygu cyfranogiad plant a chyflawni’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Ers dileu’r gwasanaethau eiriolaeth a ddarperid gan Gymdeithas y Plant yn 2002, bu’n her datblygu math a lefel priodol o wasanaeth. Fodd bynnag, cymerwyd camau bras i wella gwasanaethau eiriolaeth o ansawdd da, hawdd eu cael, yn y blynyddoedd diweddar yng Nghymru ac yn awr mae angen inni adeiladu ar y camau hynny.

Yr ydym wedi seilio’n dull o weithredu hyd yma ar gorff cynyddol o dystiolaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio i wneud eiriolaeth yn effeithiol. Yn ogystal â darparu modd o wneud iawn yn gyflym a, lle bo’n bosibl, yn lleol pan aiff rhywbeth o’i le, gall eiriolaeth gael effaith arwyddocaol ar ddiwylliant cyflenwi gwasanaethau, gan helpu i’w wneud yn fwy plentyn-ganolog a pharchus tuag at hawliau plant. Mae’n ymwneud ag ymyrryd yn gynnar i atal problemau rhag ymddangos, ac adeiladu hyder plant a phobl ifanc. Mae’r negeseuon hyn yn gyson â’r sylwadau a fynegwyd am eiriolaeth yng nghyfarfod llawn mis Gorffennaf.

Yn 2002, sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad grŵp gorchwyl i gynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau eiriolaeth. Cyflwynodd y grŵp gorchwyl hwn adroddiad yn 2005 a gweithiodd ail grŵp gorchwyl ar fanylion sut i symud ymlaen. Ar sail y cynigion hyn y bu i ni ymgymryd ag ymarferiad ymgynghori mawr yn gynharach eleni. Mae’n dda gennyf ddweud fy mod yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad y prynhawn yma i gyd-fynd â’m datganiad.

Yr oedd y cynigion a ddaeth o’r grwpiau gorchwyl yn gyson â’r argymhellion yn 'Ein Cadw’n Ddiogel’, adroddiad yr adolygiad ar ddiogelu plant agored i niwed a arweiniwyd gan Gwenda Thomas, ac â chanfyddiadau astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a ddefnyddiodd gyfraniadau gan 1,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae canlyniadau’r ymarferiad ymgynghori ac, yn arbennig, y neges gref bod potensial i bob plentyn a pherson ifanc fod yn agored i niwed, ac y dylent allu cyrchu at ryw lefel o eiriolaeth, wedi symud ein syniadau ymlaen. Yr wyf o’r farn ar hyn o bryd y dylai unrhyw fframwaith newydd i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth gynnig rhyw fath o ddarpariaeth i bawb, yn ogystal â darpariaeth fwy arbenigol i grwpiau sy’n neilltuol o agored i niwed. Drwy hynny, bydd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, lle bynnag y mae, a beth bynnag fo’i amgylchiadau, yn gallu cyrchu at gymorth eiriolaeth yn ddiogel ac yn ddirwystr.
Mae ymrwymiad a phenderfyniad asiantaethau sydd eisoes yn y maes, yn cynnwys awdurdodau lleol, i hyrwyddo llais y plentyn yn allweddol er mwyn darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol, hygyrch, o ansawdd uchel y gallwn i gyd ymddiried ynddynt. Yr wyf yn cydnabod, fodd bynnag, fod annibyniaeth yn ganolog wrth ddarparu gwasanaethau eiriolaeth, felly yr wyf o blaid sefydlu set gref o drefniadau llywodraethu.

I hyrwyddo unrhyw ddatblygiadau pellach, ac i sicrhau bod y strwythurau cymorth wedi cael eu sefydlu i wireddu’r agenda bwysig hon, yr wyf o blaid sefydlu uned datblygu eiriolaeth a pherfformiad newydd yn y Cynulliad. Ei rôl allweddol fydd datblygu’r gwasanaeth cenedlaethol, sefydlu bwrdd craffu annibynnol, a darparu fframwaith ac arweinyddiaeth strategol i roi eiriolaeth ar waith yn genedlaethol ac yn lleol. Byddai’r uned yn comisiynu, yn rheoli ac yn monitro unrhyw adnodd eiriolaeth cenedlaethol, a byddai’n monitro gweithrediad gwasanaeth integredig arbenigol.

Pa ffordd bynnag y byddwn yn symud ymlaen, fy mwriad, i’r dyfodol, yw y dylai gwasanaethau eiriolaeth gael eu rheoleiddio a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac y dylai eiriolwyr sy’n cynnig y gwasanaethau mwy arbenigol fod yn gofrestredig gyda Chyngor Gofal Cymru. Yr wyf hefyd yn ystyried sefydlu bwrdd annibynnol o aelodau anweithredol, yn cynnwys plant a phobl ifanc, i gael rôl gref yn craffu ac yn sicrhau ansawdd. Gallai’r bwrdd gyflwyno adroddiad yn flynyddol i Lywodraeth y Cynulliad, a gallai gael ei alw i gyfrif gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad, fel y mae’n dymuno.

Ar hyn o bryd, mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i blant sy’n agored i niwed, ac mae’r adnoddau i wneud hynny wedi cael eu darparu drwy’r cyfrwng arferol. Fodd bynnag, mae’n ofynnol drwy ganllawiau statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn wahanol i’r rhai yn Lloegr, gomisiynu gwasanaethau o’r fath oddi wrth ddarparwyr annibynnol. Mae angen inni adeiladu ar sylfeini cadarn y trefniadau presennol, ond i drosglwyddo’r cyfrifoldeb am gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth integredig i’r partneriaethau plant a phobl ifanc. Byddai hynny’n unol â’n polisi o annog cyflenwi gwasanaethau mewn modd cydlynol ar lefel leol a rhanbarthol, ac o gefnogi dulliau amlasiantaethol o ddelio â materion plant ar draws rhychwant eang.
Fe’m calonogir hefyd gan y diddordeb y mae’r partneriaethau plant a phobl ifanc wedi’i ddangos. Yr ydym am iddynt i gyd ddod ynghyd i gomisiynu a chyflenwi darpariaeth ranbarthol o eiriolaeth integredig dan fodel siop un stop integredig yn eu hardaloedd. Mae hyn yn dangos eu hymrwymiad i 'Greu’r Cysylltiadau’ er mwyn gwella’r gwasanaethau cyhoeddus i blant a phobl ifanc.

Gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n gweld bod ôl meddwl ar safbwynt y Llywodraeth hyd yma, a’i bod wedi llunio’r safbwynt hwnnw ar ôl proses casglu tystiolaeth helaeth a chynhwysfawr. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod bellach yn cymryd trafodaethau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ystyriaeth, felly byddaf yn oedi cyn penderfynu’n derfynol ar y ffordd orau o fwrw ymlaen nes bydd y pwyllgor wedi cwblhau ei drafodaethau. Byddwn wedyn yn cynnig adolygiad cynhwysfawr ac annibynnol o’r holl drefniadau hyn ar ôl uchafswm o bum mlynedd.