Skip to content

Llafar - Datganiad ar Benodi Comisiynydd Plant Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, , Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Mae’n bleser gennyf wneud datganiad ar benodi comisiynydd plant nesaf Cymru.

Cafodd swydd Comisiynydd Plant Cymru ei chreu’n wreiddiol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001—y darn cyntaf o ddeddfwriaeth sylfaenol dan nawdd y Cynulliad a gafodd ei basio drwy’r Senedd wedi datganoli, ac arwydd o’r pwys a roddwn ni yng Nghymru ar ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc.

Yr ydym yn dal yn haeddiannol falch o’r gamp hon, ac o waith y diweddar Peter Clarke yn sefydlu’r swyddfa ac yn hyrwyddo rôl y comisiynydd fel lladmerydd annibynnol ac effeithiol i blant a phobl ifanc am bron i saith mlynedd cyn ei farwolaeth annhymig. Bydd y comisiynydd newydd yn gallu adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan Peter.

Prif Weinidog Cymru fydd yn penodi’r comisiynydd newydd, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000, fel y’u diwygiwyd. Mae’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol iddo ystyried barn plant a phobl ifanc, a chyngor unrhyw banel dethol a benodwyd i’r diben hwnnw.

Yr wyf yn falch inni allu cynnull panel o bobl ifanc, o blith aelodau’r Ddraig Ffynci, Rhwydwaith y Gofalwyr Ifanc a grwpiau cynghori’r comisiynydd plant yn y gogledd a’r de, i gyflawni ein hymrwymiad i ymgynghori â phlant a phobl ifanc ynglŷn â’r penodiad hwn. Mae’r ffaith inni allu dewis o blith grŵp o bobl ifanc mor dalentog ac ymroddedig yn deyrnged i’r strwythurau cynrychioliadol y mae Llywodraeth y Cynulliad a swyddfa’r comisiynydd plant wedi’u cyflwyno. Yr wyf yn hynod o falch o’r modd y gweithredodd panel y bobl ifanc, a gwn fod yr ymgeiswyr o’r farn bod y profiad yn un teg yn ogystal ag un heriol.

Hoffwn ddiolch hefyd i Aelodau’r Cynulliad ar draws ein pleidiau gwleidyddol, ynghyd â’r ddau aelod o banel y bobl ifanc, a fu’n rhan o’r panel cyfweld ffurfiol yr oeddwn i’n gadeirydd arno. Argymhellodd y ddau banel mai’r un ymgeisydd ddylai fod yn gomisiynydd plant nesaf Cymru.

Yr wyf yn falch bod Keith Towler wedi derbyn swydd Comisiynydd Plant Cymru. Keith yw cyfarwyddwr rhaglen Achub y Plant yng Nghymru, a hynny ers mis Mai 2006. Yn ei swydd bresennol, ef sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am waith Achub y Plant yng Nghymru, gan gynnwys polisi, eiriolaeth, ymgyrchoedd, ymchwil a gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc ynghylch tlodi, diogelu, addysg, hawliau plant a chyfranogi.

Mae Keith hefyd yn gadeirydd grŵp monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Cynhyrchodd y grŵp monitro yr adroddiad amgen trawiadol am hawliau plant yng Nghymru, a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl.

Cyn iddo ymuno ag Achub y Plant, bu Keith yn gweithio ym meysydd cyfiawnder pobl ifanc, diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol am dros 20 mlynedd. Arferai fod yn gyfarwyddwr gostwng troseddu NACRO.

Edrychwn ymlaen at weld Keith yn cychwyn ar ei waith ym mis Mawrth 2008.