Skip to content

Ysgrifenedig - Y Mesur Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Hoffwn groesawu cyhoeddi'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd heddiw.

Mae'r Mesur yn gam cadarnhaol iawn ymlaen yn y frwydr i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a bydd yn golygu mai'r DU fydd y wlad gyntaf ledled y byd i greu fframwaith hirdymor sy'n gyfreithiol rwymol er mwyn gostwng gollyngiadau CO2 ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd.

Ar 29 Hydref, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Hilary Benn AS, y Gweinidog Gwladol dros yr Amgylchedd, Bapur Gorchymyn o dan y teitl 'Taking Forward the UK Climate Change Bill', a oedd yn cynnwys ymateb Llywodraeth y DU i'r broses graffu a'r ymgynghoriad cyhoeddus cyn y broses ddeddfu ar y Mesur.  

Mae'r prif newidiadau i'r Mesur drafft, a oedd yn destun proses graffu ac ymgynghoriad cyhoeddus cyn y broses ddeddfu, yn cynnwys:

  • Atgyfnerthu swyddogaeth a chyfrifoldebau’r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth gael cyngor y Pwyllgor cyn diwygio’r targedau ar gyfer 2020 neu 2050 yn y Mesur;
  • Atgyfnerthu annibyniaeth y Pwyllgor ar y Llywodraeth, trwy gadarnhau y bydd yn penodi ei brif weithredwr a'i staff ei hun, a chynyddu ei adnoddau dadansoddol:
  • Mwy o dryloywder, trwy ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor gyhoeddi ei ddadansoddiad a'i gyngor i'r Llywodraeth ar bennu cyllidebau carbon bob pum mlynedd, wedi eu cynllunio i sicrhau bod llwybr y DU tuag at ei thargedau lleihau yn glir;
  • Atgyfnerthu gallu’r Senedd i wneud y Llywodraeth yn atebol, trwy ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth egluro ei rhesymau i'r Senedd os nad yw'n derbyn cyngor y Pwyllgor ar lefel y gyllideb carbon, neu os nad yw'n cadw o fewn cyllideb neu’n cyrraedd targed;
  • Darparu gwybodaeth well a symleiddio'r trefniadau adrodd, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth roi adroddiad blynyddol i'r Senedd ar ollyngiadau o awyrennau a llongau rhyngwladol, yn unol â Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd; a

Atgyfnerthu gallu’r wlad i fod yn fwy parod ar gyfer y newid yn yr hinsawdd trwy ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth fynd ati’n rheolaidd i asesu’r risgiau i’r DU yn sgil y newid yn yr hinsawdd, ac i roi adroddiad i'r Senedd ar ei chynigion a'i pholisïau ar gyfer addasu'n gynaliadwy i'r newid yn yr hinsawdd.

Hefyd, fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd gofyn i'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ddweud a ddylai targed y Llywodraeth i leihau gollyngiadau CO2 60 y cant, o leiaf, erbyn 2050 gael ei gryfhau eto, ac i edrych ar oblygiadau cynnwys nwyon tŷ gwydr eraill a gollyngiadau o awyrennau a llongau rhyngwladol yn nhargedau'r DU.

Bu Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar ddatblygu'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd, ac mae'r Mesur yn ei gwneud yn haws i Lywodraeth y Cynulliad weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.    

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar eu hamcanion, eu gweithredoedd a'u blaenoriaethau mewn perthynas â gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, ac effaith y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, ac i roi adroddiad ar hynt y datblygiadau hynny.

Bydd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 yn cael ei diwygio i sicrhau mai Gweinidogion Cymru, yn hytrach na'r Ysgrifennydd Gwladol, fydd yn gyfrifol yn y dyfodol am gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru ar y newid yn yr hinsawdd.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad, gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn penodi ac yn noddi’r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd.  Bydd yn bosibl i Lywodraeth y Cynulliad ofyn am gyngor arbenigol y Pwyllgor wrth ddatblygu ei thargedau lleihau gollyngiadau ei hun, ac wrth geisio cyrraedd y targedau hynny.

Rhoddir pwerau hefyd i Weinidogion Cymru wneud cynlluniau masnachu mewn perthynas â gweithgareddau a allai achosi llygredd amgylcheddol, a hawl penodol i ganiatáu prynu credydau i wneud yn iawn am ollyngiadau.

Mae gan Lywodraeth y Cynulliad a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill swyddogaeth allweddol pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn pennu'r gyllideb carbon, ac wrth adolygu'r targedau.  Mae'r Mesur yn sicrhau y bydd gan y gweinyddiaethau datganoledig dri mis i gyflwyno eu sylwadau ac y bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi datganiad sy'n nodi a ydyw wedi ystyried safbwyntiau'r gweinyddiaethau datganoledig, a sut y gwnaeth hynny.  

Mae hwn yn gynnig deddfwriaethol cadarn i helpu i ddelio â'r newid yn yr hinsawdd, a bydd yn helpu Cymru i chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â’r her allweddol hon.