Skip to content

Ysgrifenedig - Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Nesaf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Ddirprwy Weinidog Dros Adfywio

Yn y ddogfen Cymru'n Un, gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymo i fynd â Chymunedau yn Gyntaf i'r cam nesaf gan ddefnyddio profiad y mudiad datblygu cymunedau ehangach yng Nghymru a chanfyddiadau gwerthusiad interim y rhaglen.

Cyhoeddwyd Datganiad gennym ar 3 Awst 2007 am ein bwriad i wireddu'r ymrwymiadau hynny a symud ymlaen at Cymunedau Nesaf.  Fel rhan o'r broses hon, rwyf wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i sicrhau bod Cymunedau Nesaf yn adeiladu ar ganfyddiadau gwerthusiad interim y rhaglen, yr arferion da cyfredol, a safbwyntiau pobl broffesiynol sydd â phrofiad helaeth o'r rhaglen a mentrau perthnasol.

Dyma restr o aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen:

  • Dave Adamson (Rhaglen Adfywio Prifysgol Morgannwg, bu ynghlwm â pholisi gwreiddiol Cymunedau yn Gyntaf)
  • Barbara Castle (Ymgynghorydd ym maes Adfywio Cymunedol, bu ynghlwm â pholisi gwreiddiol Cymunedau yn Gyntaf)
  • Roger Tarling (Cambridge Policy Consultants, prif gontractwyr y gwerthusiad o raglen Cymunedau yn Gyntaf)
  • Anne Delaney (Ymgynghorydd Preifat, â chefndir yn Swyddfa Archwilio Cymru, ymgynghorydd y Gwerthusiad o raglen Cymunedau yn Gyntaf)
  • Tim Williams (cynghorydd Llywodraeth San Steffan ar adfywio a thai)

Hefyd bydd y swyddogion canlynol o Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r cynghorwyr arbennig hyn yn aelodau o'r grŵp.

  • Caroline Turner
  • Mike Harmer
  • Paul Dear
  • Gareth Thomas
  • Simon Thomas
  • Mike Sullivan
  • Ceri Williams

Ein bwriad yw cyhoeddi dogfen ymgynghorol yn y Flwyddyn Newydd, a byddwn hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru er mwyn sicrhau y caiff pob rhanddeiliad y cyfle i gyfrannu at ddyfodol y rhaglen.