Skip to content

Ysgrifenedig - Academi Hyfforddiant Amddiffyn, Sain Tathan

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog
Yn gynharach heddiw, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn bwrw ymlaen â Phecyn 1, sef prif ran contract yr Adolygiad o Hyfforddiant Amddiffyn yn Sain Tathan. Caiff copi o’i ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd heddiw ei gyhoeddi ar wefan Tŷ’r Cyffredin bore yfory. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gobeithio y gall y gwaith adeiladu ar safle Sain Tathan ddechrau yn 2009, gyda’r bwriad o’i gwblhau erbyn 2013.

O’r dechrau’n deg yr agwedd amlycaf ar y cysyniad o academi oedd canolfan hyfforddiant TGCh (Systemau Cyfathrebu a Gwybodaeth) ar gyfer y tri gwasanaeth. Bydd yr academi hon yn cael ei sefydlu yn awr. Golyga hyn y bydd miloedd o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru ac y bydd miloedd o hyfforddeion yn dod i Gymru. Bydd y rhain yn cyfrannu at economi’r ardal ac yn dysgu’r holl sgiliau cynnal a chadw allweddol ar gyfer yr holl gyfarpar a ddefnyddir gan y tri gwasanaeth – sgiliau a fydd yr un mor ddefnyddiol iddynt mewn swyddi ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.

Croesawaf y cyhoeddiad hwn sy’n galluogi pob partner i fynd ati i roi Pecyn 1 ar waith, gan ystyried ar yr un pryd gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Canolfan Rhagoriaeth mewn Awyrofod ar gyfer gwaith cynnal a chadw awyrennau yn Sain Tathan.

Golyga’r cynlluniau y bwriedir manteisio ar weithlu crefftus yr ardal a hefyd ategu’r cynigion ynghylch Academi Hyfforddiant ar safle Sain Tathan. Mae parhad y parc awyrofod hefyd yn allweddol i ddyfodol VC10 yn Sain Tathan ac i ddiogelu swyddi 350 o weithwyr crefftus DARA. Bydd maes awyr prysur hefyd yn hwyluso ymdrechion i ddenu buddsoddiad milwrol a buddsoddiad masnachol arall i Sain Tathan.  

Mae gan ddarpar gwmnïau awyrofod gryn ddiddordeb yn Sain Tathan o hyd. O’r herwydd mae’r parc awyrofod yn rhan o strategaeth awyrofod gyffredinol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo un o’n sectorau busnes allweddol.

Ar hyn o bryd mae’r camau ynghylch Pecyn 2 yn mynd rhagddynt yn arafach. Rydym wedi gwybod o’r dechrau’n deg fod fforddiadwyedd parthed Pecyn 2 yn fwy o her a phwysleisiwyd hyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn pan gyhoeddwyd y cynigydd a ffefrir yn gynharach eleni. Mae’r gwaith i bontio’r bwlch hwnnw yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn parhau i bwyso a mesur gwahanol opsiynau ar gyfer Pecyn 2. Amrywia’r opsiynau hyn o addasu cynigion gwreiddiol Metrix i gynnal proses gaffael gonfensiynol a chynhwysfawr.  

Er ein bod yn parhau’n gymharol ffyddiog y bydd yr ail becyn llai hefyd yn dod i Sain Tathan yn y pen draw, y peth pwysig yw sicrhau bod prif ran y cynllun yn dechrau, yn unol â chyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn fore heddiw.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gydweithio â’r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau bod yr Academi Hyfforddiant Amddiffyn yn Sain Tathan yn cael ei sefydlu’n llwyddiannus a bod Cymru’n elwa i’r eithaf ar y cyfleoedd ehangach sydd ynghlwm â phrosiect o’r maint hwn.  

Bydd y Grŵp Llywio Gweinidogol yr wyf wedi’i sefydlu, ac sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weinidog, yn sicrhau bod y prosiect hwn yn mynd rhagddo mewn ffordd mor drefnus â phosibl ac yn unol ag egwyddorion Tîm Cymru. Bydd y Grŵp yn cyfarfod ym mis Tachwedd er mwyn trafod hynt y prosiect.