Skip to content

Llafar - Gwasanaethau Deintyddol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i wneud datganiad ynglŷn â gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg. Mae’r trefniadau newydd i gomisiynu gwasanaethau gofal deintyddol sylfaenol yn y gwasanaeth iechyd gwladol wedi bod ar waith ers rhyw 18 mis erbyn hyn. Mae’r contract newydd wedi helpu i sefydlogi’r ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol ar y GIG a gwella mynediad i gleifion. Mae’r byrddau iechyd lleol wedi gallu dod â gwasanaethau newydd i mewn os oes deintydd yn gadael neu’n lleihau ei ymrwymiad i’r GIG, ac maent wedi canfod nad oes fawr o brinder o ddeintyddion i ymgymryd â chontractau newydd neu rai wedi’u hehangu, pan gânt eu cynnig. Mae’r problemau mynediad wedi’u cyfyngu erbyn hyn i nifer fach iawn o ardaloedd ac mae’r gwaith yn parhau i wella’r sefyllfa. Yr ydym yn disgwyl cynnydd pellach dros y misoedd nesaf er mwyn cyrraedd sefyllfa gyson lle bydd pawb yng Nghymru sydd am gael mynediad at ofal deintyddol GIG yn gallu gwneud hynny. Fodd bynnag, yr wyf yn cydnabod hefyd fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i ddeintyddion a’r gwasanaeth iechyd gwladol. Yr wyf wedi gwrando ar y pryderon a fynegwyd gan y rhai sydd yn y proffesiwn deintyddol, y byrddau iechyd lleol a chleifion am rai agweddau gweithredol o’r contract. Mae datganiad heddiw yn deillio o’r pryderon hynny.

Yr wyf, felly, wedi penderfynu cynnal adolygiad o weithrediad y contract deintyddol ar ôl ei flwyddyn lawn gyntaf. Yr wyf yn cyhoeddi heddiw bod grŵp gorchwyl a gorffen i gael ei sefydlu, gan cynnwys cynrychiolwyr o’r proffesiwn deintyddol, y byrddau iechyd lleol a’r cynghorau iechyd cymuned, i gael ei wasanaethu gan staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, i edrych ar amryw o faterion i wella’r ffordd y mae’r contract deintyddol yn gweithio. Yr wyf wedi gofyn i’r Athro Wayne Richards gadeirio’r grŵp. Yn unigryw, mae’n cyfuno ymarfer deintyddol dan y GIG gyda swydd ran-amser fel athro gwadd mewn ymarfer deintyddol cyffredinol cymunedol ym Mhrifysgol Morgannwg. Credaf y bydd y cyfuniad hwn o arbenigedd ymarferol ac academaidd yn amhrisiadwy yn rôl y cadeirydd. Bydd y grŵp hefyd yn braenaru’r tir ar gyfer gwireddu amcan cyhoeddedig Llywodraeth Cynulliad Cymru o gyfnerthu a datblygu’r gwasanaeth deintyddol cymunedol yng Nghymru.

Mae a wnelo’r ail elfen yn fy natganiad ag iechyd y geg. Mae gan Gymru record wael o ran iechyd y geg. Mae gan rai o’n plant y dannedd gwaethaf yn Ewrop. Iechyd deintyddol plant pum oed yng Nghymru yw’r gwaethaf ym Mhrydain Fawr. Nid yw hynny’n dderbyniol o ran clefyd y mae modd ei atal yn gyfan gwbl bron. Felly, yr wyf yn cyhoeddi heddiw bod cynllun gweithredu cenedlaethol ar iechyd y geg i gael ei ddatblygu i Gymru. Bydd yn nodi ystod o gamau gweithredu a fwriedir i wella iechyd y geg. Bydd yn annog unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain o ran y geg yn well, yn arwain practisiau deintyddol i ganolbwyntio mwy ar ofal ataliol ac yn ein galluogi ni i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran iechyd y geg sydd wedi bodoli ers amser maith.

Mae strategaeth iechyd cyhoeddus i Gymru yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Wedi’u gosod yn y cyd-destun hwnnw, ein blaenoriaethau fydd sicrhau bod iechyd y geg yn cael ei integreiddio o ddifrif â’r agenda iechyd cyhoeddus ehangach a bod comisiynwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i gynlluniau gweithredu lleol ar iechyd y geg. Yr wyf am weld ffordd amlasiantaethol o ymdrin ag iechyd y geg yn cael ei mabwysiadu lle bydd ysgolion a rhieni’n chwarae rhan hanfodol. Yn ogystal, drwy waith grŵp adolygu’r contract deintyddol, byddwn yn gweithio tuag at wasanaethau deintyddol cyffredinol teuluol, gan newid y pwyslais i ofal ataliol. Drwy gynllun gweithredu cenedlaethol y gallwn oresgyn orau y gwahaniaethau o ran iechyd y geg rhwng plant o’r teuluoedd lleiaf cefnog ac o’r teuluoedd mwyaf cefnog.

Mae 'Cael Gware ar Dlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant’ yn nodi targedau a cherrig milltir Llywodraeth y Cynulliad er mwyn gostwng y lefelau pydredd dannedd ymysg plant. Ein nod cyntaf, erbyn 2020, yw y bydd iechyd deintyddol plant pump oed a phlant 12 oed yn yr un rhan o bump fwyaf difreintiedig o’r boblogaeth yn gwella i’r lefel a geir ar hyn o bryd yn yr un rhan o bump sydd yn y canol. Credaf fod y rheini’n dargedau realistig y mae modd eu cyrraedd neu hyd yn oed ragori arnynt. Bydd hynny’n mynd i’r afael ag ymdrechion amryw o asiantaethau cyhoeddus gwahanol a gweithwyr proffesiynol gyda’i gilydd a bydd yn annog ymdeimlad o gyfrifoldeb o’r newydd ymysg rhai cleifion a rhieni. Yr wyf yn falch fy mod wedi cael y cyfle i wneud y gyfres hon o gyhoeddiadau yn y Cyfarfod Llawn heddiw am yr egni newydd sy’n cael ei gyflwyno i’r broses honno.