Skip to content

Ysgrifenedig - Ymateb i Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Mae’n bleser gennyf adrodd ar y cydweithio sy’n mynd rhagddo gydag Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru er mwyn gwella cyfleoedd bywyd ein plant a’n pobl anabl ac er mwyn sicrhau cyfle cyfartal ar eu cyfer. Fel y Gweinidog dros Blant a Chadeirydd y Pwyllgor Cabinet ar Blant, rwy’n cydgysylltu’r fenter bwysig hon sy’n berthnasol i bortffolios yr holl Weinidogion ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’n galonogol gweld bod amcanion yr ymgyrch yn cymeradwyo 7 Nod Craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, sy’n sail i holl ystod polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant. Bydd y Fframwaith hwn, drwy weithredu’r 201 o gamau gweithredu allweddol, yn sicrhau y bydd holl blant a phobl ifanc Cymru yn derbyn y gwasanaethau gorau posibl sydd eu hangen arnynt ar gyfer byw bywydau llawn.

Rwyf wedi gwahodd cynrychiolwyr o Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru i ymuno ag uwch swyddogion o fewn Llywodraeth y Cynulliad mewn tasglu. Swyddogaeth y tasglu hwn fydd fy nghynghori ynghylch rhoi blaenoriaeth i’w hamcanion a galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i flaengynllunio o safbwynt ein gwariant o fewn y maes hollbwysig hwn. Mae’r amcanion yn berthnasol i bortffolios yr holl Weinidogion ac rydym yn benderfynol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi ar gyfer y bobl ifanc hyn.


Caiff canfyddiadau archwiliad o hynt y gwaith o gyflawni amcanion y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaethau Mamolaeth eu hystyried fel rhan o’r trafodaethau hyn. Rwy’n hyderus y bydd y Partneriaethau lleol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn dymuno defnyddio’r wybodaeth hon ar gyfer pennu eu blaenoriaethau o safbwynt gwasanaethau plant.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn ystyried sut y gallwn hyrwyddo ymgyrch MENCAP ar gyfer ei gwneud yn haws i bobl anabl ddefnyddio lleoedd newid, sef mater sy’n berthnasol i’r holl bortffolios. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys darparu £225,000 ar gyfer 2 le newid symudol i’w defnyddio mewn digwyddiadau mawr, a 5 addasiad o adeiladau mawr ar draws Cymru. Rydym hefyd yn mynd i’r afael â’r materion cynllunio sydd ynghlwm â lleoedd newid a thoiledau mewn adeiladau cyhoeddus a rhaglenni adfywio y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gysylltiedig â hwy.

Cyhoeddaf heddiw yn ogystal fy mod wedi dyrannu miliwn arall eleni ar gyfer datblygu deunyddiau cymorth cynnar yng Nghymru. Bydd Cymorth Cynnar yn gwella ansawdd a chysondeb gwasanaethau ar gyfer plant anabl o dan bump oed a’u teuluoedd ac yn eu cydgysylltu’n well. Mae’n agwedd allweddol ar ein hagenda Gweithredu’r Hawliau ac ar y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol. Cadarnhaf yn ogystal fod miliwn wedi cael ei gynnwys yng nghyllideb Cymorth ar gyfer 2008 - 09 ymlaen er mwyn gwella mynediad a datblygiad gwasanaethau chwarae a hamdden ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.

Fel y nodais yn fy natganiad llafar yr wythnos diwethaf, mae ar bobl ifanc anabl eisiau, a dylent gael, yr un pethau ag unrhyw berson ifanc arall: mae angen iddynt allu manteisio ar gyfleoedd i chwarae ac ar gyfleusterau, cymorth ar eu cyfer hwy a’u teuluoedd, llais yn y ffordd y caiff y gwasanaethau eu cyflenwi, addysg, swydd, bywyd cymdeithasol, perthnasau, lle eu hunain a rhyddid i wneud y pethau y maent yn eu mwynhau. Mae angen inni lunio ein gwasanaethau fel eu bod yn helpu pobl ifanc i wireddu eu nod, a chyflawni eu potensial.

Wrth wahodd cynrychiolwyr o ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru i ymuno â Thasglu â Llywodraeth y Cynulliad, rwyf wedi pwysleisio pa mor bwysig yw dechrau ar y gwaith hwn cyn gynted â phosibl. Gobeithiaf y bydd cyfarfod cyntaf y Tasglu yn cael ei gynnal cyn y Nadolig ac edrychaf ymlaen at hysbysu’r Aelodau ynghylch hynt ei waith yn nes ymlaen.