Skip to content

Ysgrifenedig - Codi Tâl Am Ofal Cymdeithasol Dibreswyl – Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (Gofal Cartref)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ym maes codi tâl am ofal cymdeithasol dibreswyl yn cael ei gyflwyno heddiw.  

Cafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei ddatblygu fel ymateb i'r angen i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau sylweddol yn y tâl, gan gynnwys y tâl fesul awr a'r tâl fesul wythnos, a godir gan awdurdodau lleol Cymru am wasanaethau gofal dibreswyl cymharol.  Mae gwahanol awdurdodau yn cael codi tâl gwahanol am wasanaethau tebyg.  O ganlyniad i hynny, mae defnyddwyr y gwasanaethau, gofalwyr a'u cynrychiolwyr yn wynebu anghydraddoldebau ac ansicrwydd.  

Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn dymuno cael gwared ar hawl awdurdodau lleol i godi tâl, ond mae'n rhaid sicrhau y bydd awdurdod lleol sy'n penderfynu codi tâl yn gwneud hynny yn unol â set benodol o ofynion.

Prif bwrpas y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, felly, yw rhoi'r pŵer i'r Cynulliad basio Mesurau'r Cynulliad o dan ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fydd yn sicrhau tegwch a chyfiawnder ledled Cymru wrth godi tâl.  

Byddaf yn gwneud Cyhoeddiad Llafar am hyn yn ystod Cyfarfod Llawn 27 Tachwedd.