Skip to content

Llafar - Datganiad Deddfwriaethol am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ar Ofal Cartref

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn falch o allu gosod y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn ger eich bron chi heddiw i chi ei ystyried. Bydd y Gorchymyn yn cyflwyno pŵer i’r Cynulliad basio Mesurau sy’n ymdrin â chodi tâl am ofal cymdeithasol amhreswyl. Mae hwn yn bwnc y mae llawer ohonoch wedi dangos diddordeb mawr ynddo dros y blynyddoedd diwethaf.
Fel y gwyddoch, pwrpas Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yw rhoi pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol basio ei ddeddfwriaeth ei hun, sef Mesurau’r Cynulliad. Bydd y Mesurau hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau, polisïau ac amserlenni Cymru.

Mae gweithdrefn y Gorchmynion yn rhoi cyfle inni ofyn bod y pŵer i ddeddfu mewn maes polisi penodol yn cael ei roi i’r Cynulliad. Unwaith y bydd y pŵer hwnnw wedi ei roi, bydd ar gael i’r Cynulliad yn barhaol, felly bydd modd cyflwyno rhagor o Fesurau’r Cynulliad yn y maes polisi hwnnw heb orfod troi at Senedd San Steffan bob tro.

Y prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu taliadau am ofal cymdeithasol amhreswyl yw adran 17 Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983. Mae adran 17 yn rhoi pŵer disgresiwn i awdurdodau lleol adennill unrhyw daliadau rhesymol oddi wrth oedolion sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol amhreswyl.

Yr unig gyfyngiad arnynt yw na ddylai’r awdurdodau lleol ofyn i’r defnyddwyr dalu mwy am wasanaethau na’r hyn sy’n ymddangos yn rhesymol ymarferol. Mae hyn wedi arwain at rai gwahaniaethau sylweddol ym mholisïau awdurdodau lleol yng Nghymru, a cheir amrywiaeth mawr yn y symiau sy’n cael eu codi ar ddefnyddwyr gwasanaethau mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Amlygodd adroddiad y Comisiwn Archwilio, 'Charging with Care’, a gyhoeddwyd yn 2000, yr amrywiaeth o daliadau a godwyd gan awdurdodau lleol ar y pryd. Amlygwyd yr amrywiadau hyn hefyd yn ystod arolwg a gynhaliwyd yn 2005, fel rhan o’r gwaith a wnaeth Prifysgol Stirling ar ein rhan i bennu cost y polisi gofal cartref am ddim i bobl anabl.

Mae’r wybodaeth sydd gennym yn dangos bod ystod eang o gyfraddau yr awr ac uchafsymiau wythnosol yn cael eu pennu gan awdurdodau lleol a gall awdurdodau gwahanol godi symiau gwahanol am wasanaethau tebyg. Mae gwahaniaeth hefyd yn y ffordd y caiff budd-daliadau a/neu wariant sy’n gysylltiedig ag anabledd eu trin mewn asesiad unigolyn. Mae hyn oll wedi arwain at anghydraddoldebau ac ansicrwydd ymysg defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’u cynrychiolwyr.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod bod hwn yn faes y mae angen ei ddiwygio, ac amlygwyd hyn yn ei dogfen 'Cymru’n Un’. Yr ydym yn ceisio sicrhau ymagwedd sy’n decach ac sy’n fwy cyson tuag at godi tâl am bob oedolyn sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol amhreswyl ledled Cymru. Mae’r nod hwnnw’n gysylltiedig â’n strategaeth 10 mlynedd ehangach ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, 'Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’, sy’n pwysleisio’r angen am foderneiddio er mwyn darparu gofal hygyrch, personol i bobl, sy’n eu galluogi i gadw rheolaeth dros eu bywydau, hyd yn oed pan fydd yn rhaid iddynt ddibynnu ar gymorth gan eraill.

Mae’r strategaeth yn rhagweld newid o ofal preswyl i gefnogi annibyniaeth yn y cartref a newid tuag at ymyrryd yn gynharach a gwasanaethau mwy ataliol. Felly mae angen inni sicrhau bod trefniadau codi tâl gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ategu’r weledigaeth hon. Er y gall Llywodraeth y Cynulliad ddarparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol dan adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 ar sut i weithredu eu trefniadau codi tâl, gall awdurdodau lleol wyro oddi wrth ganllawiau o’r fath. Felly cyfyngedig fu ei effaith.

Gan ddefnyddio’r pwerau yn adran 7, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau codi tâl tecach i awdurdodau lleol yn 2002 mewn ymgais i fynd i’r afael â rhai o’r problemau gyda’r amrywiadau eang mewn polisïau codi tâl yng Nghymru. Fodd bynnag, erys hyn yn arfer da yn bennaf ac eithrio pedair elfen allweddol statudol, sydd wedi’u bwriadu i sicrhau y caiff defnyddwyr gwasanaethau swm gwarantedig o incwm ar ôl i’r tâl gael ei dynnu ohono. Mae adran 7 felly yn gyfrwng ar gyfer cyhoeddi canllawiau statudol cyffredinol yn y maes hwn. Fodd bynnag, petai Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr eraill dan adran 7 mewn perthynas â chodi tâl am ofal cymdeithasol amhreswyl, byddai angen iddi sicrhau na fyddai’n cyfyngu ar ddisgresiwn awdurdodau lleol i godi tâl am rai gwasanaethau ac i adennill taliadau yr ystyriant eu bod yn rhesymol, fel y nodir yn adran 17 Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983.

Felly ni ellid gweithredu unrhyw bolisi a geisiai sicrhau mwy o unffurfiaeth, er enghraifft, drwy godi’r taliadau uchaf neu daliadau safonol, drwy ddefnyddio pwerau adran 7. Os ydym am sicrhau’r gwelliannau yr ydym am eu gweld i’r oedolion hynny sy’n cael gwasanaethau cymdeithasol amhreswyl, mae angen inni wneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni ofyn am y pŵer i’r Cynulliad ddeddfu yn gyntaf.

Mae’r Gorchymyn yn gyfyngedig i’r taliadau a godir gan awdurdodau lleol mewn perthynas â gofal cymdeithasol amhreswyl. Ni fyddai’n galluogi i’r Cynulliad ddeddfu ar daliadau a godir gan ddarparwyr gofal preifat am ofal cymdeithasol amhreswyl. Mae hefyd yn cwmpasu’r trefniadau codi tâl ar gyfer y defnyddwyr gwasanaethau hynny sy’n cael taliad uniongyrchol, i’w galluogi hwy neu’r bobl sy’n gofalu amdanynt i gael gofal cymdeithasol amhreswyl er mwyn diwallu eu hanghenion.

Mae’n rhy gynnar i drafod manylion yr hyn a allai gael ei gynnwys mewn Mesur y Cynulliad, ond mae’n bwysig bod y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn rhoi digon o hyblygrwydd i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno’r Mesur dilynol. Er enghraifft, mae’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol wedi cael ei ddrafftio mewn ffordd sy’n caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar lefel ac/neu ystod y taliadau am wasanaethau penodol neu ar gyfer grwpiau penodol o gleientiaid, petai’n dod i’r casgliad ei bod yn briodol gwneud hynny mewn Mesur Cynulliad.

Felly, prif ddiben y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yw rhoi pŵer i’r Cynulliad basio Mesurau’r Cynulliad dan Ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a fydd yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i barhau â’i bolisi o wella bywydau rhai o’n pobl sydd fwyaf agored i niwed. Bydd hyn yn rhoi ffordd inni gefnogi eu hannibyniaeth ymhellach drwy reoleiddio’r broses o bennu taliadau a dileu’r gwahaniaethau sylweddol sy’n bodoli ar hyn o bryd. Diolch yn fawr.