Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllideb Flaengar I Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Am 3pm heddiw, cyhoeddais gynigion Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2007. Mae'r cynigion hyn yn cyflwyno ein cynlluniau gwariant manwl ar gyfer y tair blynedd nesaf: o 2008-09 i 2010-11.

Mae'r gyllideb hon yn nodi cam hollbwysig yn natblygiad Llywodraeth  Cymru'n Un. Mae cyflawni’r agenda radical a blaengar a gyflwynwyd gennym yn y cytundeb Cymru'n Un yn dibynnu ar set o gynlluniau gwariant cadarn a realistig y gellir eu gweithredu. Rhaid iddynt - ac fe fyddant - yn darparu'r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru ymhlith y goreuon.

Mae Cymru'n Un  yn ddatganiad cadarn o'r hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei gyflawni dros bobl Cymru. Byddwn yn parhau â'r broses o weddnewid Cymru i fod yn genedl hunan-hyderus, ffyniannus ac iach. Byddwn yn dwysáu ein hymdrechion i greu cymdeithas sy'n deg i bawb. Mae'r uchelgais hon yn seiliedig ar ymrwymiad i egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, cynaliadwyedd a bod yn gynhwysol. A gallwn ategu'r uchelgais hwnnw gyda buddsoddiad newydd o £3.64 biliwn mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy'n golygu y bydd ein gwariant yn fwy na £16 biliwn erbyn 2010-11. Mae hynny £2 biliwn yn fwy na'r gwariant ar gyfer eleni ac yn fwy na dwywaith y gyllideb o £7 biliwn a gafwyd ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad ym 1999.

Bydd gwariant Llywodraeth y Cynulliad yn cynyddu ar gyfartaledd o 1.8% y flwyddyn mewn termau real yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae’r twf hwn yn arafach na’r hyn a gafwyd yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'n anghyson â thueddiadau hirdymor cyfraddau twf mewn gwariant cyhoeddus. Mae hefyd yn uwch na'r twf o ran gwariant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond un o'r prif ystyriaethau yw'r modd y caiff y twf hwn ei ddosbarthu ar draws y tair blynedd: y flwyddyn nesaf bydd rhaid i ni ymdopi â thwf o 0.7% mewn termau real, wedyn 2.1% yn 2009-10 a 2.6% yn 2010-11. Mae'n amlwg fod y dosbarthiad hwn wedi dylanwadu ar y dyraniadau rydym wedi'u gwneud yn y gyllideb.

Dylai'r gyllideb hon hefyd nodi ffordd newydd o edrych ar effaith ein gwariant. Nid edrych ar y swm rydym yn ei wario yn unig y byddwn; byddwn hefyd yn canolbwyntio ar y canlyniadau fydd yn deillio o'n gwariant. Felly, nid dadansoddiad moel o  faint o arian sydd wedi'i fuddsoddi mewn maes penodol fydd llinyn mesur ein llwyddiant i gyflawni amcanion Cymru'n Un ond yn hytrach, yr hyn rydym wedi'i gyflawni dros bobl Cymru o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw.

Mae bod yn greadigol ac yn arloesol yn hanfodol i'r gwaith o gyflawni mwy a sicrhau'r gwerth gorau am arian. Ni fydd gwneud mwy o’r un peth yn ddigon i ateb yr heriau rydym yn eu hwynebu. Fel Llywodraeth, mae angen i ni gadw golwg fanwl ar ein gweithgarwch a blaenoriaethu ein hadnoddau cyfyngedig, a'u defnyddio lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf a lle y byddant yn cyflawni ein nodau strategol orau. Dyma'r peth iawn i'w wneud mewn hinsawdd ariannol anodd ac mae'n adlewyrchu parodrwydd y Llywodraeth i wneud penderfyniadau anodd lle bo angen.

Byddwn ni'n gweithredu’n fwy effeithlon ac effeithiol er mwyn sicrhau bod y bunt Gymreig yn gweithio'n galetach ac yn cyflawni mwy dros bobl Cymru. Byddwn yn buddsoddi cymaint â phosibl mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y tair blynedd nesaf drwy wneud y defnydd gorau o gronfeydd strwythurol yr UE ac o asedau cyhoeddus a thrwy ddenu buddsoddiad o'r sector preifat. A byddwn yn gwneud mwy i gydgysylltu gwaith rhwng rhannau gwahanol Llywodraeth y Cynulliad a rhwng Llywodraeth y Cynulliad a'i phartneriaid.

Mae agenda Cymru'n Un yn un uchelgeisiol a radical ond mae hefyd yn agenda y gellir eu gwireddu a'i chyflawni o fewn yr arian sydd ar gael i ni dros y blynyddoedd nesaf. Bydd fy nghyd-Weinidogion yn darparu mwy o fanylion ynghylch eu cynlluniau gwariant eu hunain yn eu meysydd hwy yn ystod y dyddiau nesaf. Ymhlith prif elfennau pecyn y gyllideb mae:

  • buddsoddi o leiaf £1.2 biliwn ychwanegol yn y gwasanaethau iechyd, adeiladu ar y twf mewn ariannu gwasanaethau a pharhau i wella safonau gwasanaeth a chanlyniadau o ran iechyd;
  • cadw at ein hymrwymiad i ddysgu i fyw, nid yn unig drwy sicrhau gwelliannau i blant  –  cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen i blant 3 i 7 oed  –  ond hefyd drwy greu cyfleoedd i bobl barhau i ddysgu y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol, drwy gynyddu nifer y prentisiaethau'n sylweddol;
  • darparu arian ychwanegol i gadw at ein hymrwymiad o sicrhau cartrefi fforddiadwy i fwy o bobl;
  • darparu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes gwell ac un gronfa fuddsoddi newydd  i hybu menter a thwf busnesau;
  • buddsoddi llawer mwy mewn trafnidiaeth i wella trafnidiaeth ranbarthol a chenedlaethol;
  • amrywiaeth o gamau gweithredu ar degwch a chyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys:
    • help ychwanegol i bensiynwyr o ran talu'r Dreth Gyngor;
    • Bond Plant ychwanegol newydd i bob plentyn sy'n dechrau’r ysgol yng Nghymru;
    • mwy o leoedd ar raglenni i adsefydlu pobl sy'n cam-ddefnyddio alcohol a chyffuriau;
    • darparu mwy o ofal plant fforddiadwy; a
    • rhoi cyfle i bob ysgol uwchradd yng Nghymru gael ymuno ag  undebau credyd.
  • mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys buddsoddi'n sylweddol mewn gwell gwasanaethau ailgylchu a dulliau amddiffyn rhag llifogydd;
  • sefydlu confensiwn Cymru Gyfan i baratoi ar gyfer refferendwm, a chomisiwn annibynnol ar ariannu a chyllid y Cynulliad;
  • buddsoddi arian cyfalaf mewn ffordd fwy strategol i sicrhau y caiff ei wario ar y prif flaenoriaethau, wedi'i ategu gan fuddsoddiad newydd sylweddol mewn prosiectau cyfalaf, sef mwy na  £400 miliwn dros y tair blynedd nesaf;
  • buddsoddi mwy yn yr iaith Gymraeg, chwaraeon a'r celfyddydau, gan gynnwys rhoi argymhellion Adolygiad Stephens ar waith; a
  • rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg.

Bydd agenda strategol y Llywodraeth hon yn cael ei chyflawni ar sail y cynigion hyn: bellach, mae angen amser ar Aelodau'r Cynulliad i ddeall, cwestiynu a chraffu ar y cynigion hyn. Bydd y broses newydd, a fydd yn dechrau bellach yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn rhoi cyfle i'r Aelodau ystyried y cynigion hyn mewn ffordd gytbwys ac ystyriol, yn ogystal â chynnig cyfle iddynt holi pob Gweinidog ynghylch eu cynlluniau.

Rwyf yn croesawu'r cyfraniad hwn a byddaf yn gwneud datganiad i'r Cynulliad brynhawn fory ac yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid ddydd Iau, 8 Tachwedd. Yn ogystal, bydd y pwyllgorau craffu yn cael cyfle i ystyried y cynigion ar gyfer pob portffolio yn ystod y pythefnos nesaf ac i fwydo'u sylwadau i'r Pwyllgor Cyllid fel y bo'n briodol. Bydd y Pwyllgor Cyllid wedyn yn paratoi adroddiad ar y gyllideb ddrafft ddechrau mis Rhagfyr, a'r adroddiad hwnnw fydd yn llywio dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Ddrafft hon cyn toriad y Nadolig. Bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno gerbron y Cynulliad ym mis Ionawr.