Skip to content

Llafar - Polisi Amaethyddol Cyffredin Yr Undeb Ewropeaidd: Archwiliad Iechyd 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones , y Gweinidog dros Faterion Gwledig
Ar 20 Tachwedd, fe gyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i newid cyfundrefn Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Comisiwn i adolygu effaith y camau y cytunwyd arnyn nhw yn 2003 i ddiwygio’r Polisi, ynghyd â diwygiadau eraill yn y cyfamser. Yn Saesneg mae’r cynigion hyn yn fwy adnabyddus fel yr ‘Health Check 2008’ neu, o’i gyfieithu, ‘Archwiliad Iechyd 2008’.

Ar y cychwyn fel hyn, fe ddylwn i egluro bod cynigion y Comisiwn yn rhan o ymgynghoriad ar yr opsiynau i newid y ffordd y mae’r Polisi yn gweithio. Y disgwyl yw na fydd yr archwiliad iechyd yn diwygio’r Polisi yn sylweddol. Hefyd, mae’n werth nodi nad yw’r archwiliad iechyd yn ymwneud ag elfennau cyllidebol y Polisi.

Fe gyflwynodd y Comisiwn y cynigion i’r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 26 Tachwedd. Fe fues i yn y Cyngor fel rhan o dîm Gweinidogion y Deyrnas Unedig. Bu’n rhaid i’r tîm gytuno ymlaen llaw ar y safbwynt y byddai’r Deyrnas Unedig yn ei gyfleu yn ei hymatebion cychwynnol a gwleidyddol. Yn gyffredinol, roedd y Deyrnas Unedig yn croesawu’r newid cyfeiriad sydd yn yr arfaeth gan y Comisiwn.

O ran yr amserlen, mae’r Comisiwn yn cychwyn ar broses ymgynghori a fydd yn helpu â’r broses o lunio’r ddeddfwriaeth ddrafft y mae’r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu ei chyhoeddi ym mis Mai 2008. Bydd y ddeddfwriaeth ddrafft wedyn yn destun proses graffu drylwyr yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r bwriad o ddod i gytundeb gwleidyddol erbyn diwedd 2008.

Yng Nghymru, dw i’n bwriadu cyhoeddi papur ymgynghori fis nesaf yn gofyn am sylwadau ar gynigion y Comisiwn gan y byd ffermio a gan y rheini sydd â diddordeb mewn materion ehangach sy’n ymwneud â chefn gwlad. Fe fydden i hefyd yn croesawu sylwadau gan Aelodau’r Cynulliad. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i benderfynu beth yw ein barn er mwyn dylanwadu ar safbwynt y Deyrnas Unedig wrth inni agosáu at ddiwedd y trafodaethau ar fesurau’r archwiliad iechyd.

Dw i’n ymrwymo y bydda i fel y Gweinidog yn parhau i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau yn Llundain ac yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gwneud yn siŵr na fydd Cymru, na ffermwyr Cymru, o dan anfantais yn sgil canlyniad archwiliad iechyd y Polisi.

Gan droi at gynigion y Comisiwn, y neges glir yw y dylid datgysylltu taliadau’r Polisi i ffermwyr yn llwyr oddi wrth lefelau cynhyrchiant. Rydyn ni yng Nghymru wedi gwneud hyn ers 2005 pan gyflwynwyd Cynllun y Taliad Sengl. Nid dyna’r sefyllfa yn achos pob un o 27 o Aelod-wladwriaethau’r Undeb. Achos hynny, dw i’n ddigon parod, mewn egwyddor, i gefnogi’r cyfeiriad y mae’r Comisiwn eisiau ei gymryd.

Ar y llaw arall, os yw Aelod-wladwriaethau, neu ranbarthau fel Cymru yn achos Prydain, yn rhedeg Cynllun y Taliad Sengl yn ôl y model hanesyddol, mae’r Comisiwn yn cynnig y gallan nhw newid i fodel o daliadau ar sail arwynebedd, neu fodel o daliadau “mwy gwastad”, o 2009 ymlaen. Fe fyddwch chi’n cofio, o dan becyn diwygiadau 2003 i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, mai’r bwriad oedd y byddai model Cynllun y Taliad Sengl a gyflwynwyd yng Nghymru yn para tan 2013.

O ran y cynnig mae’r Comisiwn bellach wedi ei gyflwyno, dw i ddim yn gwbl argyhoeddedig y dylen ni yng Nghymru fod yn cymryd y cam hwn ar hyn o bryd. Ond dw i ddim eisiau llunio barn derfynol nes fy mod i wedi cael cyfle i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad y bydda i’n ei gynnal yng Nghymru.

Elfen allweddol arall yng nghynigion y Comisiwn yw cynyddu 2 y cant ar gyfradd y modiwleiddio gorfodol bob blwyddyn o 2010 ymlaen, nes cyrraedd cyfradd o 13 y cant erbyn 2013. 5 y cant yw’r gyfradd ar hyn o bryd. Byddai’r arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i roi hwb i’r gwariant o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.

Ar y llaw arall, dyw’r Comisiwn ddim wedi dweud dim am y drefn fodiwleiddio genedlaethol sy’n cael ei gweithredu yn y Deyrnas Unedig a Phortiwgal. Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth y bydd pob gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yn holi amdano. Dw i’n credu y bydd yn bwysig bod Cymru’n cadw’r hyblygrwydd y mae’r drefn fodiwleiddio bresennol yn ei roi ar hyn o bryd.

I droi at faterion eraill, mae’r Comisiwn yn cynnig rhagor o ostyngiadau mewn mecanweithiau i ymyrryd yn y farchnad, gan gynnwys cymorthdaliadau allforio. Mae’r Comisiwn hefyd yn cynnig lleihau’r baich gweinyddol ar ffermwyr drwy symleiddio’r drefn drawsgydymffurfio ac maent yn cynnig dileu cwotâu llaeth yn 2015. Does dim manylion wedi dod i law oddi wrth y Comisiwn ynghylch hyd a lled y cynigion hyn eto.

Mae’r Comisiwn hefyd yn codi’r posibilrwydd o osod terfynau ar daliadau unigol o dan y Polisi i ffermwyr. Mae’r Comisiwn yn cynnig y byddai unrhyw arbedion yn sgil hynny yn cael eu cadw yn yr Aelod-wladwriaeth neu’r rhanbarth. Mae’r wasg a’r cyfryngau wedi dangos diddordeb mawr yn y cynnig hwn. Safbwynt y Deyrnas Unedig yw ei bod yn gwrthwynebu rhoi cap o’r fath ar daliadau. Bydd gyda fi ddiddordeb clywed beth yw’r farn yng Nghymru ar hyn er mai cymharol fach, o bosib, fyddai’r swm a fyddai’n deillio o system o’r fath yng Nghymru, ar gyfer ei ddefnyddio o dan gynlluniau eraill.

Dw i’n bwriadu parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau wrth i’r Comisiwn gwblhau’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r ddeddfwriaeth ddrafft. Fe fydda i hefyd yn rhoi’r diweddaraf am y camau allweddol sy’n cael eu cymryd yn yr Undeb Ewropeaidd wrth i’r trafodaethau manwl fynd rhagddynt, cyn i’r trafodaethau hynny ddod i ben ddiwedd 2008.