Skip to content

Llafar - Ailgyflunio'r GIG

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn am ailgyflunio’r GIG. Heddiw, bwriadaf ganolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â’r De a’r Gorllewin. Neilltuwyd amser yn amserlen Cyfarfodydd Llawn yr wythnos nesaf ar gyfer datganiad mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag ailgyflunio ym Mhowys a gogledd Cymru.

Mae’r gair ailgyflunio’n cyfeirio at y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, ac at strwythurau gweinyddol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Yn y datganiad hwn, dechreuaf drwy ganolbwyntio ar wasanaethau, gan gyfeirio at y nifer mawr o gyfarfodydd a gynhaliais, a’r ymweliadau a gefais, ym mhob rhan o Gymru, gan drafod cynigion gyda staff a chleifion er mwyn ffurfio fy marn am ein cynlluniau a’n cynigion ar gyfer newid gwasanaethau. Gan fynd o’r gorllewin tua’r dwyrain, mae cynigion ar gyfer gofal eilaidd yng Ngheredigion, sir Gaerfyrddin a sir Benfro yn cael eu hyrwyddo gan fforwm cynllunio dan gadeiryddiaeth Dr Bruce Ferguson, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Mae’r fforwm hwn yn ystyried y modd gorau i rwydweithio gwasanaethau ledled y tair sir er mwyn rhoi gwell mynediad i’r cymunedau. Ar hyn o bryd mae’n ystyried y modd i ymgysylltu â’r cymunedau’n fwy effeithiol wrth gynllunio a dylunio gwasanaethau. Mae hefyd wedi sefydlu saith gr^wp gwasanaeth i ystyried nifer o wasanaethau, gan gynnwys iechyd

meddwl, ac mae’n sefydlu wythfed grwp ar hyn o bryd, dan gadeiryddiaeth awdurdod lleol, i edrych ar y modd i ddatblygu gwasanaethau cymunedol. Mae hyn yn unol â’m dymuniad i roi llawer mwy o bwyslais ar ddatblygu a gwneud y gorau o wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig yn ardaloedd llai poblog Cymru. Bydd y grwpiau’n adrodd yn ôl i’r fforwm ar gynnydd dros y 12 mis nesaf.


Gadewch imi ddweud ar goedd eto ein bod yn benderfynol y bydd dyfodol sicr a llwyddiannus i bob un o’r pedwar prif ysbyty yn yr ardal—ac edrychaf ymlaen at sôn eto am y penderfyniad hwnnw wrth gynrychiolwyr o ardal y Llwyn Helyg pan gyfarfyddaf â hwy yn y Cynulliad yr wythnos nesaf.

Un elfen allweddol yn y dull gweithredu y dymunaf ei ddilyn ar gyfer ailgyflunio gofal eilaidd yw’r hwb newydd i’n dull o ddatblygu ein gwasanaethau iechyd sylfaenol a chymunedol. Yng Ngheredigion, er enghraifft, mae £20 miliwn wedi’i neilltuo yn ein rhaglen gyfalaf ar gyfer ailddatblygu gwasanaethau o’r fath yn Aberaeron, Aberteifi a Thregaron. Mae’r rhain yn gynlluniau gwirioneddol bwysig i’r boblogaeth leol. Mae’r cynigion ar gyfer Aberaeron wedi’u cefnogi eisoes mewn ymgynghoriad lleol. Mae’r cynigion hyn a’r rhai ar gyfer Aberteifi wedi’u datblygu drwy waith ar y cyd a oedd yn cynnwys cyrff iechyd a llywodraeth leol, ac mae wedi cynnwys ymarferwyr cyffredinol a rhanddeiliaid eraill. Dymunaf weld y gwaith ar gyfer Tregaron yn mynd ymlaen yn y modd hwnnw hefyd. Yr wyf yn benderfynol y bydd pob un o’r tri’n mynd ymlaen mewn modd sy’n mwyhau’r synergeddau rhwng y buddsoddiad newydd yr ydym yn ei ddarparu, a’r gwasanaethau a geir yn y dyfodol yn ysbyty Bronglais. Yr wyf yn falch o gyhoeddi bod Dr Alan Axford, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion, wedi cytuno i ymgymryd â gwaith ar fyrder i sicrhau y cawn y cysondeb mwyaf posibl rhwng y cyfleusterau iechyd cymunedol newydd hyn a gwasanaethau a ddarperir gan Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Yr wyf yn gweld hyn yn gyfle i ddangos ein bod yn camu ymlaen yn fuan ar y cynllun iechyd gwledig y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddatblygu’n awr.

Mae angen imi ddelio â mater penodol sy’n ymwneud ag Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli. Bydd Aelodau’n cofio bod Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin wedi gwneud penderfyniad, yn gynharach eleni, i derfynu gwasanaethau llawfeddygol brys yn yr ysbyty. Bu llawer o anesmwythyd yn leol, ynghylch y penderfyniad ei hun ac ynghylch y modd y’i gwnaed. O ganlyniad i hynny, gwnaeth fy rhagflaenydd, Dr Brian Gibbons, gychwyn adolygiad annibynnol i edrych yn benodol ar y broses ymgynghori, ac ar y broses a oedd yn sail i’r penderfyniad i derfynu gwasanaethau llawfeddygol brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Ymgymerwyd â’r adolygiad hwnnw gan Dr Neil Goodwin, ac mae bellach wedi’i gwblhau. Yn ei adolygiad, edrychodd yn fanwl ar y prosesau a ddefnyddiwyd gan ystyried cyd-destun ehangach y modd y gellid cynllunio a threfnu prosesau o’r fath yn well ar gyfer y dyfodol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion sy’n cynnig sylfaen ar gyfer y dyfodol. Fel rhan o’r datganiad hwn, gallaf gyhoeddi fy mod heddiw’n cyhoeddi testun llawn yr adolygiad. Yr wyf hefyd wedi gofyn i’m swyddfa ranbarthol fwrw ymlaen â’r ymgynghoriad ffurfiol ar yr argymhellion ar y cyd â’r cyngor iechyd cymuned. Edrychaf ymlaen at gael barn pawb yn ardal Llanelli sy’n ymddiddori yn y mater hwn. Bwriadaf gymryd camau mewn cysylltiad ag argymhellion yr adolygiad ac adrodd ar y camau hynny i Aelodau gyda hyn.

Gan symud tua’r dwyrain, mae’r gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ymysg y rhai mwyaf datblygedig yng Nghymru. Cymeradwyaf waith y bwrdd iechyd lleol wrth recriwtio cenhedlaeth newydd o ymarferwyr cyffredinol cyflogedig, ifanc, sydd, ar y cyd â staff gofal sylfaenol eraill, yn trawsnewid ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i’r boblogaeth leol. Mae’r diwygio ar wasanaethau cymunedol yn yr ardal hon wedi mynd rhagddo hefyd gyda llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd, ac mae’r ysbyty cwm Cynon newydd yn arwydd o’r hyn y gellir ei gyflawni wrth newid gwasanaethau iechyd. Neilltuwyd cyfalaf o £59 miliwn i wella’n sylweddol y gwasanaethau i’r cymunedau yn yr ardal hon.

Gan droi’n awr at ailgyflunio gwasanaethau yn y De-ddwyrain, mae’r ymgynghoriad ar brosiect Dyfodol Clinigol yng Ngwent newydd ddod i ben ac mae cyrff iechyd lleol yn adolygu’r sylwadau a ddaeth i law ar hyn o bryd. Fel y nodais yn gynharach, nid wyf yn bwriadu gweld unrhyw arafu ar y cynnydd ar gynlluniau sydd wedi’u derbyn yng Nghymru. Mae’r cynlluniau ar gyfer Caerffili, a fydd yn arwain at gau Ysbyty Glowyr Cylch Caerffili, Ysbyty Ystrad Mynach, Ysbyty Aberbargod, Ysbyty Oakdale a chlinig Coed-duon, ac at gael

ysbyty newydd yng Nglynebwy, gyda’r canlyniadau i’r gwasanaethau mân anafiadau yn Ysbyty Abertyleri ac uned Dan y Bryn, wedi’u cefnogi ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn mynd rhagddynt.

Daeth yn amlwg, wrth i’r ymgynghoriad fynd ymlaen, o ran y ganolfan gofal critigol newydd arfaethedig, fod gwahaniaeth barn sylweddol yn ardal Gwent mewn cysylltiad â mater holl bwysig y data amseroedd teithio. Oherwydd hynny, yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion adolygu’r holl dystiolaeth sydd ar gael sy’n ymwneud â’r mater hwn ac adrodd ar eu canfyddiadau i mi. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau llawn yr ymgynghoriad ar Ddyfodol Clinigol, sy’n ymwneud ag un o’r setiau drutaf a mwyaf cynhwysfawr o gynigion a ystyriwyd erioed yng ngwasanaeth iechyd gwladol Cymru. Fel Gweinidog, bydd angen imi gael fy modloni bod y prosiect yn hollol gydlynol, a’i fod yn cynnig gwerth priodol am arian cyhoeddus. Cymeradwyaf y gwaith a wnaed ar y cynigion hyd yma, ac adroddaf arno eto i Aelodau, wrth i’r broses ddatblygu.

Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i derfynu’r hyn sy’n weddill o’r farchnad fewnol yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Mewn cysylltiad â’r ymrwymiad hwnnw, mae newid gwasanaethau a diwygio gweinyddol yn mynd law yn llaw, gan ei bod yn holl bwysig lleihau nifer yr ymddiriedolaethau GIG er mwyn cyflawni ein bwriadau. Mae byrddau ymddiriedolaethau GIG Abertawe a Bro Morgannwg wedi cyflwyno cynigion ar gyfer cyfuno ac yr wyf wedi cytuno y dylent fynd ymlaen i ymgynghori â staff a thrwy’r cynghorau iechyd cymuned ar y cynigion hynny. Os bydd y cyfuno’n mynd ymlaen, bydd un ymddiriedolaeth wedyn yn gwasanaethu poblogaeth o 600,000, gan gyflogi 16,000 o staff. Mae’r amserlen ar gyfer ymgynghori’n awgrymu y gellid creu un ymddiriedolaeth erbyn Ebrill 2008.

I’r dwyrain o Abertawe, mae cynigion ar gyfer creu un corff, drwy gyfuno ymddiriedolaethau GIG Pontypridd, Rhondda a gogledd Morgannwg, yn agos iawn at ddwyn ffrwyth. Yma, mae ymgynghori â staff a chynghorau iechyd cymuned wedi’i gwblhau, ac yr wyf heddiw wedi cytuno i ddiddymu Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg ac i sefydlu un ymddiriedolaeth GIG sy’n uno’r ddau gorff. Mae bwrdd cysgodol i fod i gael ei sefydlu erbyn Rhagfyr 2007 a chwblheir y gwaith o gyfuno’r ymddiriedolaethau erbyn 1 Ebrill 2008.

O gael un ymddiriedolaeth newydd ar gyfer yr ardal, yr wyf yn benderfynol y cawn set o wasanaethau cadarn a chwbl gyson ar gyfer poblogaeth Merthyr. Yr wyf wedi gofyn i’r Athro Mansel Aylward fy nghynghori ar y modd gorau i gyflawni hyn rhwng yr ysbyty newydd yng nghanol y dref a’r gwasanaethau a geir yn y dyfodol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Yr wyf yn ffyddiog y gellir ailadrodd y cynnydd a gafwyd yn Rhondda Cynon Taf ym Merthyr, ac y bydd yr ymddiriedolaeth newydd a sefydlir o Ebrill 2008 yn cynnig strwythur y gellir ei ddefnyddio i wneud y newidiadau pwysig hyn.

Dyna ddiwedd yr hyn sydd gennyf i’w ddweud am sefyllfa bresennol y gwaith ailgyflunio yn y De a’r Gorllewin. Talaf deyrnged i’r gwaith aruthrol a wnaed eisoes, a’r ymdeimlad gwych o ymrwymiad i’r gwasanaeth iechyd, sydd mor nodweddiadol o boblogaethau lleol yng Nghymru. Fel y dywedais o’r blaen, nid yw hyn yn ymwneud â chael newid neu beidio, gan fod newid yn anorfod ac yn nodwedd gyson mewn unrhyw wasanaeth sy’n ceisio ei orau glas i wasanaethu ei boblogaeth. Y mater i’w ystyried gennym ni, gan staff a chan gleifion, yw sut i sicrhau’r newid mwyaf effeithiol posibl. Credaf ein bod yn bell ar y ffordd at gyflawni hynny.