Skip to content

Llafar - Y Gyllideb Ddrafft

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

 Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle hwn i wneud datganiad llafar ar gynigion cyllideb ddrafft 2007 Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r gyllideb yn gam hollbwysig yn y broses o gyflawni rhaglen 'Cymru’n Un’. Bydd y cynigion sydd ynddi yn darparu’r buddsoddiad angenrheidiol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru gyda’r gorau. Byddwn yn buddsoddi cyfanswm o £3.64 biliwn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, sy’n dod â chyfanswm ein gwariant i fwy nag £16 biliwn erbyn 2010-11. Mae hynny £2 biliwn yn fwy na chyllideb eleni ac yn fwy na dwbl y gyllideb o £7 biliwn yn 1999, pan grëwyd y Cynulliad.

Mae elfennau allweddol y gyllideb yn cynnwys: buddsoddiad ychwanegol o fwy nag £1.2 biliwn mewn gwasanaethau iechyd dros y tair blynedd nesaf; buddsoddiad o fwy na £100 miliwn i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd; buddsoddiad mewn dysgu am oes, yn cynnwys £15 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf i gyflwyno’r cyfnod sylfaen ar gyfer plant rhwng tair a saith oed, gydag arian ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd dilynol, a £25 miliwn ychwanegol i gynyddu nifer y prentisiaethau; ehangu darpariaeth gofal plant fforddiadwy gyda buddsoddiad o £120 miliwn dros y tair blynedd nesaf; ystod o fesurau eraill i hybu tegwch a chyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys cymorth ychwanegol i bensiynwyr dalu'r dreth gyngor a bond ychwanegol newydd i blant ar gyfer pob plentyn sy’n dechrau’r ysgol yng Nghymru; £155 miliwn ychwanegol i wella trafnidiaeth ranbarthol a chenedlaethol; ac ymagwedd fwy strategol tuag at fuddsoddi cyfalaf, gyda chyllid ychwanegol o fwy na £400 miliwn i ategu hynny dros y tair blynedd nesaf.

Dylwn egluro ar y dechrau na fwriadaf ddefnyddio’r cyfle hwn i ysgogi neu i gymryd rhan mewn dadl lawn am y gyllideb ddrafft. Ni fwriadaf drafod pethau a gaiff eu trafod gan fy nghyd-Weinidogion, a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am gynlluniau gwario yn eu portffolios eu hunain yn ystod y dyddiau nesaf.

Yr amser priodol i drafod y gyllideb ddrafft fydd unwaith y bydd Aelodau’r Cynulliad, y pwyllgorau craffu a’r Pwyllgor Cyllid, y byddaf fi’n cyflwyno adroddiad iddo ddydd Iau, wedi cael amser i ddeall cynigion y Llywodraeth, craffu arnynt a holi amdanynt. Bydd y broses ddyledus hon, yn ôl ein Rheolau Sefydlog, yn digwydd dros yr ychydig wythnosau nesaf ac yn arwain at ddadl lawn ar y gyllideb ddrafft yn Rhagfyr. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn heddiw i ychwanegu at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe a rhoi manylion pellach am nifer o feysydd.

Mae arnaf eisiau dweud yn gwbl glir fod y Llywodraeth yn benderfynol mai gwell gwerth am arian, nid toriadau, a fydd yn rhyddhau’r adnoddau angenrheidiol i barhau i wella gwasanaethau cyhoeddus ac i ganiatáu buddsoddi mewn blaenoriaethau newydd. Daw gwell gwerth am arian ac effeithlonrwydd wrth gyflenwi gwasanaethau drwy weithio’n fwy craff a gwneud gwell defnydd o’n hasedau, nid drwy dorri gwasanaethau. Sicrheir buddiannau arwyddocaol, er enghraifft, drwy fod yn graffach wrth gaffael. Mae gwasanaeth band eang newydd y sector cyhoeddus yn enghraifft wych o gydweithio rhwng gwahanol rannau o’r sector cyhoeddus i sicrhau gwasanaeth gwell am bris is. Enghraifft arall yw rhannu gwasanaethau: mae prosiect rhannu gwasanaethau’r GIG yn y gogledd wedi sicrhau arbedion gwirioneddol ar swyddogaethau cefn swyddfa, i’w hailfuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen.

Mae angen inni ddal ati o hyd i adolygu a herio ein gweithgaredd hefyd, a bod yn barod i symud adnoddau pan fo’n amlwg y gellid gwario arian yn well yn rhywle arall. Yn wyneb twf arafach mewn gwariant, mae’n anochel y bydd yn rhaid inni wneud dewisiadau anodd ynghylch sut i wario ein harian. Yr ydym wedi bod yn barod i wneud y penderfyniadau anodd hynny a blaenoriaethu ein gwariant mewn modd a fydd yn cyflawni fwyaf i bobl Cymru. Bydd rhai llinellau cyllideb yn lleihau wrth inni symud ymlaen: mae hyn yn rhan anochel o’r cylch ariannol wrth i gyllidebau newydd gael eu sefydlu ac i eraill gael eu dirwyn i ben. Mae’n adlewyrchu blaenoriaethau newidiol y Llywodraeth dros amser hefyd, yn ogystal ag anghenion proses ddynamig gwella’r modd y cyflenwir gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n afrealistig disgwyl i bob cyllideb barhau i dyfu’n ddiddiwedd. Ni ellir fforddio hynny a byddai’n arwain at werth eithriadol o wael am y bunt yng Nghymru. Hawdd gofyn, 'Pam nad ydych wedi gwario mwy ar y maes hwn?’. Y cwestiwn anodd, na chlywaf nemor ddim atebion iddo o unman, yw 'O ble y deuai’r arian ychwanegol hwnnw?’.

Mae arnaf eisiau sôn ychydig mwy hefyd am gyllid i lywodraeth leol. Hoffwn wneud tri phwynt bras. Yn gyntaf, nid yw twf yng nghyfanswm cyllid llywodraeth leol yn anghyson â thwf cyffredinol yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Bydd y setliad drafft i lywodraeth leol, a gyhoeddir ar 14 Tachwedd, yn cadarnhau ffigurau terfynol ar gyfer twf cynlluniedig yn y cyllid a ddarpara’r Cynulliad i lywodraeth leol-bydd fy nghyd-Weinidog, Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw yr wythnos nesaf. Yr hyn y gallaf ei ddweud, ar hyn o bryd, yw y bydd cyfanswm y cyllid a ddarpara Llywodraeth y Cynulliad i lywodraeth leol-ac ni ddylem ystyried y grant cynnal refeniw ar ei ben ei hun-yn tyfu fwy na 3.2 y cant yn 2008-09, nid 2.2 y cant fel a ddyfynnwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r ffigur hwnnw’n agos iawn at ein twf gwariant cyffredinol o 3.4 y cant. Mae’r cyllid hwnnw i lywodraeth leol, er enghraifft, yn cynnwys dros £90 miliwn o gyllid ychwanegol i ddelio â gwastraff, a enwyd yn brif flaenoriaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y maniffesto a gyhoeddodd yn yr haf. Mae’n cynnwys dros £45 miliwn hefyd i gefnogi gweithredu’r cyfnod sylfaen.

Yn ail, yn sicr nid yw’n wir dweud y cafodd llywodraeth leol ei hesgeuluso ers ffurfio’r Cynulliad. Rhwng 1999 a 2007, bu cynnydd o 8.7 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd yng nghefnogaeth y Llywodraeth ganolog i awdurdodau lleol, y rhan fwyaf yn dod oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad. Yn yr un cyfnod, bu cynnydd o 8.4 y cant y flwyddyn yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth y Cynulliad. Yn gyfanswm, mae cefnogaeth y Llywodraeth ganolog erbyn hyn i gyfrif am fwy na 70 y cant o wariant llywodraeth leol yng Nghymru, sydd i fyny o 67 y cant yn 1999.

Y trydydd pwynt cyffredinol yr hoffwn ei wneud yw er bod cynnyrch y dreth gyngor yng Nghymru ryw 20 y cant yn is nag yn Lloegr, a bod cynnyrch ardrethi busnes dros draean yn is, mae awdurdodau lleol yng Nghymru’n gwario mwy y pen-rhywbeth fel 2 y cant y pen yn fwy-nag awdurdodau lleol yn Lloegr. Nid yw hynny ond yn bosibl oherwydd bod cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i lywodraeth leol yng Nghymru’n llawer uwch na chefnogaeth y Llywodraeth ganolog i lywodraeth leol yn Lloegr, a hynny o fwy na £500 miliwn.

Yn olaf, ymdriniaf â honiadau bod y Llywodraeth yn esgeuluso amcanion craidd, megis mynd i’r afael â thlodi plant, er mwyn talu am fentrau polisi penodol. Gwrthodaf yr honiad hwnnw’n gyfan gwbl. Mae’n hysbys y gall magwraeth dlawd wneud niwed difrifol i gyfleon plentyn mewn bywyd. Dyna pam y mae mynd i’r afael â thlodi plant yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Ers datganoli, mae Cymru wedi cymryd camau sylweddol ymlaen. Mae canran y plant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi wedi syrthio o 35 y cant yn 1999 i 28 y cant yn y cyfnod diweddaraf. Dros yr un cyfnod, cwympodd y gyfradd ym Mhrydain yn ei chyfanrwydd o 33 y cant i 29 y cant. Mae gan Gymru bellach gyfradd tlodi plant sy’n is na chyfradd y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n gryn gamp. Fodd bynnag, mae rhaglen 'Cymru’n Un’ yn ein rhwymo i fynd yn llawer pellach. Ein nod yw haneru tlodi plant erbyn 2010 a’i ddiddymu erbyn 2020. Ategir y nod uchelgeisiol hwnnw gan ymrwymiadau penodol, fel cael bond plant ychwanegol o 2009 ymlaen, a chael undebau credyd ar gael ledled Cymru, gyda mynediad i ddisgyblion ym mhob ysgol uwchradd, gan helpu i sicrhau bod cyfleon i gynilo ar gael iddynt.

Mae angen i’n gwaith yn y maes hwn ddibynnu ar gyngor arbenigol a chael ei seilio ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Felly byddwn yn adolygu ein rhaglenni gwrthdlodi ac yn sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ynghylch sut orau i gyrraedd ein nod o ddiddymu tlodi plant yng Nghymru.

Problem gymhleth yw hon sy’n galw am weithredu gan y Llywodraeth ar draws amrediad eang o feysydd a holl adrannau’r Llywodraeth. Mae gwella sgiliau, helpu pobl i ddychwelyd i waith a chefnogaeth ychwanegol i ofal plant yn flaenoriaethau i’n dull cydlynol o fynd ati. Er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cyd-dynnu, gosodwn ddyletswydd ar bob asiantaeth gyhoeddus yng Nghymru i ddangos ymrwymiad i roi terfyn ar dlodi plant.

Methu’r pwynt yw canolbwyntio ar wariant ar ymrwymiadau penodol. Mae 'Cymru’n Un’ yn fwy na rhestr o fentrau penodol; mae’n amlinellu rhaglen gynhwysfawr i barhau i drawsnewid Cymru’n genedl a chymdeithas hyderus, ffyniannus ac iach, gyda chwarae teg i bawb. Mae’r rhaglen hon wedi’i hadeiladu ar amcanion craidd, megis gwella iechyd pobl Cymru, mynd i’r afael â thlodi, ateb anghenion tai, gwella gwasanaethau cyhoeddus, cynyddu cyflogaeth a gwella sgiliau, ac adfywio cymunedau difreintiedig.

Bydd holl wariant Llywodraeth y Cynulliad dros y tair blynedd nesaf wedi’i anelu at gyflawni 'Cymru’n Un’, a nod 'Cymru’n Un’ yw gwneud Cymru’n lle gwell i weithio a byw ynddo i holl bobl Cymru, yn enwedig y rhai mwyaf bregus a difreintiedig.