Jane Hutt, Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Yr wyf yn falch iawn o wneud datganiad y prynhawn yma’n nodi canlyniadau ein hadolygiad cynhwysfawr o’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru. Bydd y cwricwlwm diwygiedig a sefydlir yn awr yn helpu i sicrhau bod disgyblion yn meithrin sgiliau, gwybodaeth a dysg, o’r cyfnod sylfaen drwodd i’r llwybrau dysgu 14-19. Yn wir, dyma’r tro cyntaf yng Nghymru y cwmpaswyd yr ystod oedran gyfan rhwng tair a 19 mewn un adolygiad. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n ganlyniad i bedair blynedd o waith yn monitro’r darpariaethau presennol, yn ymgynghori ag athrawon ac yn gweithio gydag athrawon, awdurdodau addysg lleol ac Estyn i greu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu ac addysgu effeithiol.
Mae’n hyrwyddo ein hymrwymiad yn ‘Cymru’n Un’ i ddatblygu rhaglen neilltuol ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n briodol i Gymru. Ymgymerwyd ag ymgyngoriadau manwl rhwng Ionawr a Mawrth eleni, a dychwelwyd mwy na 5,500 o holiaduron i ni a chynaliasom 25 o ddigwyddiadau ymgynghori. Mae hyn yn lefel uchel iawn o ymgysylltu â’r broses adolygu, sy’n rhoi pwys ac awdurdod ychwanegol at y canlyniadau yng Nghymru. Yr oedd yr
ymateb cyffredinol yn gadarnhaol dros ben, a diolchaf i bawb a achubodd ar y cyfle i ymateb.
Gan droi’n gyntaf at y cyfnod sylfaen, dangosodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad fod cefnogaeth eang i’r bwriad i roi cwricwlwm neilltuol ar waith sy’n canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer rhai rhwng tair a saith mlwydd oed yng Nghymru.
Yr oedd ymarferwyr sy’n ymwneud â darpariaeth addysgol ar gyfer y plant hyn a chyrff cysylltiedig wedi cyfrannu’n llawn i’r ymgynghoriad, ac yr oedd mwyafrif llethol ohonynt o blaid athroniaeth a nodau’r cyfnod sylfaen. Yr wyf yn dal yn gwbl ymrwymedig i’w roi ar waith ledled Cymru o fis Medi 2008.
Mae cwricwlwm y cyfnod sylfaen yn cynnwys saith maes dysgu, sy’n cwmpasu iaith, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu, ynghyd â datblygiad mathemategol, corfforol a chreadigol. Mae’r saith maes yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig dull gweithredu trawsgwricwlaidd sy’n arwain at greu cwricwlwm ymarferol a diddorol. Rhoddir pwyslais ar feithrin sgiliau plant yn y saith maes, gan ddatblygu eu profiadau, eu sgiliau a’u gwybodaeth flaenorol. Bwriad cwricwlwm y cyfnod sylfaen, fel y’i hategwyd drwy’r broses ymgynghori, yw sicrhau dilyniant drwy bedair blynedd o addysg i ddiwallu anghenion amrywiol yr holl blant, gan gynnwys y rheini sydd mewn cyfnod cynnar yn eu datblygiad, a’r rheini sy’n cyrraedd yr ysgol wedi’u paratoi ar gyfer dysgu eisoes.
Dull gweithredu’r Llywodraeth Cynulliad hon yw trysori pob plentyn i’r un graddau, a rhoi’r cyfle gorau posibl i bob un ohonynt wneud y gorau o’i ddoniau a’i alluoedd. Ni cheir budd mwy o arian cyhoeddus nag o’r buddsoddiad yr ydym yn ei roi ym mlynyddoedd cyntaf bywyd, ac mae’r cyfnod sylfaen yn enghraifft ymarferol dros ben o’r ymrwymiad hwnnw yng Nghymru. Mae’r ymrwymiad hwnnw’n ymestyn i gamau i sicrhau bod gennym weithlu sydd wedi’i baratoi a’i hyfforddi’n llawn i gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Drwy ‘Iaith Pawb’, yr ydym eisoes wedi buddsoddi £7 miliwn i hyfforddi ymarferwyr cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Dros y pedair blynedd diwethaf, yr ydym wedi darparu tua £3 miliwn i hyfforddi staff yn y cynllun peilot mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Eleni, yr ydym hefyd wedi darparu bron £1 filiwn i alluogi pob awdurdod lleol i benodi swyddog hyfforddi a chefnogi ar gyfer y cyfnod sylfaen. Yr ydym yn cydnabod y bydd angen rhaglen hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y staff presennol i’w galluogi i ennill cymwysterau ar lefel 3 o leiaf yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol ar gyfer gofal plant y blynyddoedd cynnar. Gyda golwg ar y
cynllun unigryw Gymreig hwn, y mis diwethaf, yr oeddwn wrth fy modd o gael lansio ymgyrch genedlaethol y gweithlu Chwarae Dysgu Tyfu.
Gan droi at ddysgwyr o saith oed ymlaen, mae’r gofynion mewn cysylltiad â 12 pwnc statudol y cwricwlwm cenedlaethol wedi’u hailstrwythuro. Newidiwyd y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru ddiwethaf yn 2000.
Mae’r adolygiad ger ein bron heddiw yn adeiladu ar y gorau o’r hyn a gyflawnwyd ers hynny, ac yn edrych ymlaen at ateb anghenion dysgwyr yn y dyfodol. Mae’r cynnwys wedi cael ei ddiweddaru a’i leihau, lle bo angen, i sicrhau ei fod yn berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain a’i fod yn fwy hwylus i ddysgwyr ac athrawon. Mae’r sgiliau arbennig y mae eu hangen ar gyfer pob pwnc wedi cael eu nodi o’r newydd a ffocws newydd wedi’i roi ar yr ystod o gyddestunau, cyfleoedd a gweithgareddau y dylid datblygu a chymhwyso’r sgiliau hyn drwyddynt. Bydd y diwygiadau hyn yn hybu datblygiad personol a lles dysgwyr, ac yn eu paratoi ar gyfer dinasyddiaeth, bywyd yn y gymuned a chael gwaith mewn Cymru ddwyieithog.
Bydd y gofynion diwygiedig hyn yn hybu dwyieithrwydd drwy gydnabod bod sgiliau disgyblion ar draws ieithoedd yn cael eu datblygu, a’u hyder wrth ddefnyddio ieithoedd yn cynyddu, pan anogir hwynt i ddefnyddio’u gwybodaeth am y Gymraeg, y Saesneg ac ieithoedd eraill. Mae ieithoedd tramor modern yn cadw eu lle ymhlith 12 pwnc y cwricwlwm cenedlaethol. Hoffwn weld cynifer â phosibl o’n pobl ifanc yn paratoi eu hunain ar gyfer Cymru sy’n edrych tuag allan ac sy’n hyderus o’i lle yn y byd ehangach. I ychwanegu ymhellach at hynodrwydd y cwricwlwm yng Nghymru, mae’r gofynion pwnc diwygiedig i gyd yn cofleidio’r Cwricwlwm Cymreig, cwricwlwm sydd wedi’i osod yng nghyd-destun Cymru ac sy’n delio â materion sy’n berthnasol i gymdeithas, diwylliant ac economi Cymru, ac, ar yr un pryd, yn sicrhau bod iddo bersbectif rhyngwladol ehangach. O ganlyniad i’r ymgynghori, gallaf hefyd gyhoeddi heddiw yr amserlen gweithredu ar gyfer y rhan hon o’r cwricwlwm newydd.
Bydd newidiadau i bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol yn dechrau o fis Medi 2008 ymlaen ym mlynyddoedd 3, 4, 5, 7 ac 8. Penllanw’r broses fydd cyflwyno newidiadau ym mlwyddyn 11 mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg ym Medi 2011. Mae’r amserlen yn adlewyrchu’r agwedd esblygol yr ydym wedi’i mabwysiadu at newid, sy’n ystyried y llwyth gwaith a materion trefniadaethol eraill.
Mae’r cwricwlwm diwygiedig hefyd yn darparu fframweithiau ar gyfer tri maes penodol. Ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol, mae’r diwygiad yn cynnig strwythur symlach ac eto’n cadw holl elfennau’r fframwaith presennol a oedd, yn ôl ymarferwyr, o werth. Mae hyn yn cynnwys meysydd mor amrywiol â chysylltiadau personol, deiet ac iechyd, rheoli arian, byw’n gynaliadwy, cymorth cyntaf a dinasyddiaeth weithredol. Ar gyfer addysg grefyddol,cynhyrchwyd fframwaith enghreifftiol i’w fabwysiadu neu ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’u cynadleddau maes llafur cytunedig, fel sail ar gyfer eu meysydd llafur cytunedig lleol. Ar gyfer gyrfaoedd a’r byd gwaith, cynigir un fframwaith yn lle’r ddau bresennol. Ar gais nifer o ymarferwyr, yr ydym wedi cyfuno addysg a chyfarwyddyd gyrfaoedd ag addysg gysylltiedig â gwaith, ac wedi ymestyn y fframwaith i gynnwys dysgwyr rhwng 11 a 19 oed. Bydd hyn, ymhlith pethau eraill, yn annog ein pobl ifanc i ystyried yn gliriach eu llwybrau dysgu unigol cyn gwneud eu dewisiadau yn 14 oed, ac yn eu helpu i ddewis llwybrau gyrfa priodol.
Bydd aelodau eisoes yn ymwybodol o’r gwaith helaeth sydd wedi ei wneud ar ddiwygio’r cwricwlwm ôl 14 oed ac ar ddatblygu’r llwybrau dysgu 14-19 yng Nghymru. Yn union fel y mae’r cyfnod sylfaenol yn ceisio rhoi’r cychwyn addysg gorau posibl i blant, wrth i bobl ifanc symud tuag at fyd gwaith, yr ydym am sicrhau bod gan bob myfyriwr le teilwng yn ein system ysgol a choleg. Dyfeisiwyd y dull llwybrau dysgu fel model hawliau, lle bydd y system addysg yn addasu i anghenion dysgwyr, ac nid fel arall. Mae angen sgiliau hyblyg y medrant eu trosglwyddo ar ein pobl ifanc, lle mae cymwysterau academaidd a galwedigaethol o werth cyfartal.
Dyna pam, drwy’r datganiad hwn, yr wyf wedi tanlinellu pa mor bwysig yw datblygu sgiliau inni. Am y rheswm hwn, yn ychwanegol at y newidiadau eraill yr wyf wedi eu cyhoeddi prynhawn heddiw, bydd y cwricwlwm diwygiedig yn cael ei angori gan fframwaith sgiliau anstatudol yng Nghymru.
Mae’r fframwaith hwn yn disgrifio datblygiad plant rhwng tair a 19 oed o ran datblygu sgiliau rhif, TGCh, meddwl a chyfathrebu—sgiliau sy’n hanfodol os yw dysgwyr am lwyddo, boed yn yr ysgol, yn y gweithle, yn y cartref neu yn rhywle arall, ac a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i wneud cyfraniadau teilwng a gwerthfawr at fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ein gwlad.
Mae’r cwricwlwm diwygiedig yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, ac a fydd yn cael ei
weithredu o fis Medi’r flwyddyn nesaf ymlaen, yn cynnal traddodiad gorau ein model presennol drwy gadw ystod eang o bynciau a meysydd dysgu, ac eto’n rhoi pwyslais pendant a chlir ar y sgiliau y mae angen i’n dysgwyr eu datblygu os ydym am ehangu cyfleoedd addysgol a helpu ysgolion i wella’u safonau cyflawni. Mae’n gwricwlwm sy’n cael ei gefnogi gan y proffesiwn, fel a welsom o’r ymgynghoriad. Bydd yn ennyn diddordeb ac yn ysgogi dysgwyr a bydd hynny, yn ei dro, yn gwella cyrhaeddiad. O ganlyniad, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyflogadwyedd a rhagolygon gyrfaol ein pobl ifanc i gyd. Yn gryno, mae hwn yn gwricwlwm neilltuol sy’n iawn i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain.