Brian Gibbons, Y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Yn erthygl 1 o’r Datganiad Hawliau Dynol nodir y canlynol “Mae pawb wedi’i eni’n rhydd ac yn gyfartal mewn urddas a hawliau. Maent wedi’u cynysgaeddu â rheswm a chydwybod a dylent ymddwyn tuag at ei gilydd mewn ysbryd o frawdgarwch”. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, ein hawliau dynol yw’r pethau hanfodol hynny y mae eu hangen arnom ni oll i ffynnu ac i gymryd rhan mewn cymdeithas. Mae’n golygu rhyddid oddi wrth driniaeth greulon a diraddiol, safon sylfaenol o fyw a chyfle i greu teuluoedd a pherthnasau cariadus.
Ein hymrwymiad yn “Cymru’n Un” yw creu cymdeithas deg a chyfiawn lle’r ydym yn ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion hynny yn ein cymdeithas lle mae her amlwg i’r hawliau sylfaenol hyn. Ein gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb yw creu gwlad sy’n serennu ar lwyfan y byd, lle dethlir cyfoeth ein diwylliant, lle mae cyfraniad unigryw pob unigolyn yn cael ei barchu; a lle mae’n ffordd o fyw yn seiliedig ar ryddid, dewis, urddas a pharch.
Mae Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006 yn ein rhoi mewn sefyllfa unigryw. Rhaid cynnwys cydraddoldeb yn ein holl waith ac mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn dangos y ffordd i ni.
Mae hawliau dynol yn seiliedig ar gyfres o werthoedd cyffredin sy’n cynnwys tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth. Mynegir y rhain mewn ystod o ddeddfau hawliau dynol sy’n gyfrwng ar gyfer gwireddu’r gwerthoedd hyn.
Yr ydym yn gyfrannog o’r gwerthoedd cyffredin hyn ac mae gennym ymrwymiad amlwg i barchu amrywiaeth ein poblogaeth a hyrwyddo cyfle cyfartal.
Yn unol â’r Ddeddf Hawliau Dynol mae cyfrifoldeb ar awdurdodau cyhoeddus i barchu hawliau dynol drwy drin pawb yn deg ac yn gyfartal a thrwy arddel eu hurddas, eu parch a’u hymreolaeth. Caiff ei defnyddio i ddiogelu pobl oedrannus rhag cael eu cam-drin mewn cartrefi gofal, i sicrhau bod plant anabl yn cael ysgol ac i ddiogelu pobl rhag camdriniaeth ddomestig.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Unigol i bawb yng Nghymru, p’un a ydynt yn gofalu am berthynas, yn berson anabl, yn rhieni sengl, yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig neu’n oedrannus. Caiff y cynllun hwnnw ei ategu gan bum piler y ddeddfwriaeth hawliau dynol: tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth.
Mae amddifadedd, gwahaniaethu ac anallu i gymryd rhan yn effeithio ar unigolion, ar gymunedau ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Dengys tystiolaeth bod grwpiau a dangynrychiolir yn fwy tebygol o ddioddef afiechyd a thlodi. Gall hyn effeithio ar eu cyfle i ragori ym maes addysg, a chyfle i gael gwaith yn y dyfodol. Gall sefyllfaoedd fel hyn barhau o genhedlaeth i genhedlaeth mewn cymunedau.
Credaf ein bod wedi cymryd camau mawr wrth hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, fodd bynnag, gan fod llawer i’w wneud eto. Rhaid i ni ystyried ein hymrwymiad i’r cynllun cydraddoldeb sengl a sicrhau bod sail gadarn iddo a’i fod yn dangos ein hymrwymiad i’r fframwaith hawliau dynol.
Ategir ein Cynllun Cydraddoldeb Unigol gan ein Strategaeth Hawliau Dynol. Ein strategaeth yw sicrhau bod holl staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn deall egwyddorion y Ddeddf Hawliau Dynol ac yn medru eu cymhwyso i bob rhan o’u gwaith. Bydd y Sefydliad Prydeinig dros Hawliau Dynol yn rhoi hyfforddiant i’n staff ynghylch yr hyn a olygir wrth hawliau dynol a sut y gallant effeithio ar eu bywydau beunyddiol. Bydd gan yr holl staff adnoddau hwylus wrth law i’w helpu i wneud penderfyniadau pwysig am eu gwaith i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu diogelu a’u cyfoethogi.
Bydd y Strategaeth yn ymgorffori egwyddorion hawliau dynol i’r gwaith o ddatblygu polisïau a chynllunio strategol. Mae’n sail gadarn i’n dull o weithredu wrth lunio polisïau cynhwysol. Golyga hyn ein bod, pan fyddwn yn ystyried datblygu polisïau, rhaglenni neu strategaethau, er enghraifft y Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid, yn gosod prawf i ni’n hunain ar y dechrau’n deg ac ar gyfnodau penodol ar hyd y ffordd. Rhaid ni ofyn cwestiynau allweddol i ni’n hunain: pe byddem yn cymryd y llwybr hwn a fydd hynny’n sicrhau tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth i bob unigolyn? A fydd yn sicrhau bod pob un, ni waeth beth yw ei oed, rhyw, hil, crefydd neu gred, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol yn cael cyfle cyfartal i gael y gwasanaeth dan sylw? A rhaid i ni fynd hyd yn oed ymhellach.
Mae’r Strategaeth Ceiswyr Lloches yn mynd y tu hwnt i ofynion y ddeddfwriaeth gyfredol ar wahaniaethu a chydraddoldeb ac yn dechrau mynd i’r afael â’r materion hawliau dynol sylfaenol.
Er mwyn i gymunedau gyfranogi, rydym yn cydnabod bod angen iddynt wybod eu hawliau a sut i gael yr hawliau hynny. Wrth ddatblygu Strategaeth Cydlyniant Cymunedol bydd yr Uned Cydlyniant Cymunedol yn sicrhau, pan fydd yn ymwneud â chymunedau, bod yr unigolion a’r grwpiau hynny sydd anoddaf i wrando arnynt yn medru lleisio barn. I sicrhau bod pobl Cymru yn deall eu hawliau dynol byddwn yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth yng Nghymru y flwyddyn nesaf, gan geisio cyrraedd pob cymuned.
Mae gennym oll gyfrifoldeb i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb personol i sicrhau bod ein ‘gwneud’ yn fwy na’n ‘dweud’ a’n bod yn arddel yr egwyddorion sy’n sail i hawliau dynol yn ein bywydau preifat a phroffesiynol. Mae hyn yn bwysig i ni gan fod gennym, fel Aelodau’r Cynulliad, rym i newid y dyfodol ar gyfer pobl Cymru.
Bydd agwedd gydlynus at hawliau dynol yn rhoi cyfle i ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy pwrpasol i bobl Cymru. Rhaid i ni fel Llywodraeth Cynulliad Cymru ymateb yn gadarnhaol a chroesawu’r her hon.
Rhaid i ni gymryd yr awenau a bod yn enghraifft dda i weddill Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o’n holl waith a’n prosesau gwleidyddol. Rhaid i’n penderfyniadau adeiladu ar hawliau dynol a rhaid i’n gwasanaethau fod yn seiliedig arnynt. Gadewch i ni beidio â cholli’r cyfle hwn i gyflawni’n hymrwymiadau yn ‘Cymru’n Un’ fel y gallwn oll fyw mewn Cymru lle dethlir cyfoeth ein diwylliant; Cymru fodern, sydd ag economi ffyniannus; a Chymru gynhwysol, lle mae rhyddid, dewis, tegwch a pharch yn gonglfeini ein ffordd o fyw.