Skip to content

Ysgrifenedig - Darpariaethau Cymru yn y Mesur Addysg a Sgiliau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Gynaliadwyedd A Datblygu Gwledig

Cyflwynwyd y Mesur Addysg a Sgiliau gerbron Senedd y DU ar 28 Tachwedd a'i gyhoeddi ar 29 Tachwedd 2007.

Diben y Mesur Addysg a Sgiliau yw codi'r oedran gofynnol pan gaiff pobl ifanc adael addysg neu hyfforddiant i 18, yn Lloegr, a chyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i weithredu prif elfennau Adolygiad Leitch er mwyn diwallu anghenion hirdymor y DU o ran sgiliau.  

Er na fydd codi’r oedran cyfranogi mewn addysg yn gymwys yng Nghymru, ceir nifer o ddarpariaethau yn y Mesur a fydd yr un mor berthnasol i Gymru ag i Loegr. Hefyd, bydd dau bŵer gwneud Mesurau yn y Mesur Seneddol, y naill mewn perthynas ag arolygiadau cyn 16, a'r llall mewn perthynas â chofrestru ysgolion annibynnol. Mae’r pŵer cyntaf i wneud Mesur yn cael ei gynnwys wrth gyflwyno’r Mesur Seneddol tra disgwylir i'r ail gael ei gyflwyno'n ddiweddarach trwy gyfrwng diwygiad.

Mae'r darpariaethau cyfredol ar gyfer Cymru a Lloegr yn ymwneud â fforymau ysgol, rhannu data, cymwysterau a'r cwricwlwm.

Y Pwerau Gwneud Mesurau Arfaethedig

Arolygu Addysg a Hyfforddiant ar gyfer y rheini sy'n 16 oed ac yn iau


Mae'r ddarpariaeth arfaethedig yn ychwanegu'r broses o arolygu addysg a hyfforddiant ar gyfer y rheini sy'n 16 oed ac yn iau at y Materion a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 o dan Maes 5 (addysg a hyfforddiant). Byddai hyn yn ategu'r pŵer gwneud Mesur yn Neddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 mewn perthynas â'r broses o arolygu'r addysg bellach a'r hyfforddiant a ddarperir mewn sefydliadau a nodir yn adran 28(2) o Ddeddf Addysg 2005.  

Byddai'r pŵer gwneud Mesur yn caniatáu, fel y lleiaf o’r gofynion, i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn perthynas â phroses arolygu'r addysg a'r hyfforddiant a ddarperir mewn sefydliadau a nodir yn adran 28(2) o Ddeddf Addysg 2005, sef:

  • Ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol;
  • Ysgolion arbennig cymunedol a sefydledig;
  • Ysgolion meithrin a gynhelir; a
  • Ysgolion arbennig nad ydynt yn ysgolion arbennig cymunedol neu sefydledig ond sydd wedi'u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwaith Rheoleiddio, Cofrestru ac Arolygu Ysgolion Annibynnol yng Nghymru

Bydd y ddarpariaeth arfaethedig yn ychwanegu prosesau rheoleiddio, cofrestru ac arolygu ysgolion annibynnol yng Nghymru at y Materion a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru o dan Faes 5 (addysg a hyfforddiant). Byddai hyn yn ategu'r pŵer gwneud Mesur a geisir yn y Mesur Addysg a Sgiliau mewn perthynas â phroses arolygu addysg a hyfforddiant ar gyfer y rheini sy'n 16 oed ac yn iau, yn ogystal ag yn Neddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 mewn perthynas ag arolygu addysg bellach.    

Byddai'r pŵer gwneud Mesur yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru wneud cyfraith ynghylch unrhyw un o'r canlynol:

  1. y modd y caiff ysgol annibynnol ei rhedeg yng Nghymru. [At y diben hwn, dylid cymryd bod hyn yn cyfeirio at bob agwedd ar redeg ysgol, boed yn addysgol neu’n ymwneud yn fwy cyffredinol â lles disgyblion, a pha un a ydynt yn digwydd ar safle'r ysgol ai peidio.  Dylid fod yn gallu llywio’r modd y caiff yr ysgol ei rhedeg drwy reoliadau neu drwy'r cyfarwyddiadau unigol a roddir i ysgol annibynnol gan yr awdurdod cofrestru];
  2. cofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru, gan gynnwys creu hawliau i apelio'n erbyn penderfyniadau gan awdurdod cofrestru;
  3. arolygu ysgolion annibynnol yng Nghymru;
  4. gwahardd a chyfyngu ar gyfranogi yn y broses o reoli ysgolion annibynnol

Darpariaethau eraill

Fforymau Ysgol  -  byddai'r ddarpariaeth hon yn darparu pŵer gwneud rheoliad a fydd yn caniatáu diwygio adran 47A(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgol 1998, er mwyn ei gwneud yn orfodol i aelodaeth o fforymau ysgolion gynnwys aelodau nad ydynt yn ysgolion.  Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud newidiadau, yn ôl y gofyn, ar ôl cwblhau adolygiad o rôl fforymau ysgol.

Rhannu data  -  mae'r ddarpariaeth hon yn cynnig bod yr un pwerau ar rannu data yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ag yn Lloegr.

Bydd y pwerau hyn yn ein galluogi i fonitro effeithioldeb y dulliau newydd o integreiddio sgiliau a gwasanaethau cyflogi er mwyn helpu pobl i fynd oddi ar fudd-daliadau ac i mewn i waith, gan gefnogi'r targed, sef cyfradd gyflogaeth o 80%, a nodir yn y ddogfen Cymru'n Un.

Ni fydd y pwerau newydd yn gwrthdaro â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998. Bydd y data a rennir gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru at y dibenion a amlinellwyd uchod yn anhysbys a chânt eu hagregu.

Newidadau i gylch gwaith yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm - mae dwy ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer newid cylch gwaith yr Awdurdod yn y Mesur Seneddol, a cheisir yr un pwerau ar gyfer Gweinidogion Cymru, sef

  1. Diwygio Adran 30 o Ddeddf Addysg 1997 – Rhoi cydnabyddiaeth statudol i gyrff sy'n dyfarnu neu'n dilysu cymwysterau achrededig
    Arfaethir newid cylch gwaith yr Awdurdod hwn (a phwerau Gweinidogion Cymru) drwy wneud darpariaeth ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth statudol i gyrff sy'n cynnig neu'n dilysu cymwysterau  achrededig neu sydd am gyflwyno unedau ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau arfaethedig sydd ar hyn o bryd yn cael ei dreialu a'i brofi.
  2. Diddymu Adran 99(4) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000
    Mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn darparu na all cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau allanol gael eu darparu mewn ysgolion (mewn perthynas â phobl o dan 19 oed)  neu na allant gael eu hariannu o bwrs y wlad (mewn perthynas â phobl ifanc o dan 19 oed ac yn hŷn) heb gael cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol (yn Lloegr) neu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (yng Nghymru).

    Mae Adran 98 yn darparu, ymhlith pethau eraill, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol, neu gorff a ddynodir ganddo, roi cymeradwyaeth o'r fath, yn Lloegr, yn amodol, yn achos y corff a ddynodir, yn sgil Adran 98(4), bod cymeradwyaeth a roddir gan gorff a ddynodir yn aneffeithiol oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i’r gymeradwyaeth.

    Mae Adran 99 o'r un Ddeddf yn darparu bod gan Weinidogion Cymru yr un swyddogaeth gymeradwyo a’r un swyddogaeth gydsynio i roi cymeradwyaeth mewn perthynas â Chymru.  Diwygiad technegol yw hwn i gael gwared ar yr hyn sy'n ymddangos yn anghysonder yn y ddeddfwriaeth gyfredol.

Gellir gweld y Mesur Addysg a Sgiliau ar wefan y Senedd yn http://services.parliament.uk/bills/ (Saesneg yn unig)