Skip to content

Ysgrifenedig - Canolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Glyn Thomas ,Y Gweinidog dros Dreftadaeth

Ar 7 Tachwedd cyhoeddais yn y Cyfarfod Llawn fod Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i Ganolfan Mileniwm Cymru er mwyn sicrhau ei sefydlogrwydd ariannol. Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr hyn a wnaed ers y dyddiad hwnnw.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud dau daliad i Ganolfan Mileniwm Cymru ddiwedd mis Tachwedd. Ddydd Mercher, 21 Tachwedd gwnaed taliad o £1m i’r Ganolfan. Dyma’r rhandaliad cyntaf o’r £3.7m yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno i’w roi i’r Ganolfan yn ystod y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2009. Bwriad y taliad oedd lleihau gofynion benthyca’r Ganolfan.

Roedd nifer o amodau ynghlwm wrth yr arian hwn gan gynnwys datblygu cytundeb cyllido newydd a fydd yn cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol newydd a thargedau masnachol ynghyd ag adolygiad o drefniadau llywodraethu’r Ganolfan.

Ddydd Gwener, 23 Tachwedd rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad grant i Ganolfan Mileniwm Cymru i’w galluogi i dalu’n ôl ei benthyciad masnachol gwerth £13.5m i HSBC. Mae’r Ganolfan bellach wedi talu’n ôl y benthyciad ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i rhyddhau o’r warant a roddodd mewn perthynas â’r benthyciad.

Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wrthi yn awr yn gweithio ar ddatblygu trefniadau cyllido diwygiedig a dull o adolygu trefniadau llywodraethu’r Ganolfan. Mae gwaith ar droed hefyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar lunio gweledigaeth ddiwylliannol newydd sy’n cwmpasu’r holl sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan.