Skip to content

Penodi Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog a Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Ruth Marks MBE wedi’i phenodi’n Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru - y cyntaf o’i fath.

Ar hyn o bryd Ruth yw Cyfarwyddwr RNIB Cymru - rôl sydd ganddi ers 2005 - a chyn hynny hi oedd Prif Weithredwr Chwarae Teg.  Dyfarnwyd MBE iddi yn 2007 am wasanaethau i O Fudd-dâl i Waith.

Bydd y Comisiynydd yn eiriolwr ac yn llais i Bobl Hŷn, yn yr un ffordd ag y mae’r  Comisiynydd Plant wedi bod ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn yr un modd â’r Comisiynydd Plant, mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn annibynnol, a’i rôl fydd sicrhau y caiff buddiannau Pobl Hŷn yng Nghymru, sy’n 60 a throsodd, eu diogelu a’u hyrwyddo, a’u bod yn cael llais.

Rydym yn hynod o falch bod Cymru unwaith eto yn arwain y ffordd ac yn gosod esiampl i eraill ei dilyn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisiynydd Plant i roi llais cryfach i blant a phobl ifanc a bellach ni yw’r cyntaf i fod â Chomisiynydd i hyrwyddo buddiannau Pobl Hŷn.

Cydnabyddir yn eang fod Cymru ar flaen y gad o ran rhoi llais cryfach i Bobl Hŷn wrth ddatblygu’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt. Bydd y Comisiynydd yn cydgyfnerthu ymhellach enw da Cymru o ran arloesi a gweithio mewn partneriaeth ym maes polisi Pobl Hŷn.

Bydd Datganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ionawr 2008.