Skip to content

Alphasteel Cyf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Aeth cwmni Alphasteel Cyf. o Gasnewydd i ddwylo’r gweinyddwyr ar 20 Rhagfyr 2007 ac yr oedd y newyddion yn ergyd aruthrol i dros 400 o weithwyr, yn enwedig ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.

Yn 2003, prynwyd Alphasteel gan Satico Cyf, cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y Swistir sydd â buddiannau busnes dur sylweddol yn y dwyrain canol. Ddiwedd 2003, cyfarfu swyddogion Llywodraeth y Cynulliad â chynrychiolwyr y cwmni i drafod eu cynlluniau buddsoddi, a chyfarfu’r Prif Weinidog â hwy yn 2004. Cafodd y cwmni wybodaeth lawn am y modd y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru gefnogi’r cynlluniau hynny. Er gwaethaf y cynlluniau uchelgeisiol hyn, aeth y cwmni i drafferthion ac arweiniodd hynny at y penderfyniad i’w roi yn nwylo’r gweinyddwyr. Ein cyfrifoldeb cyntaf fel Llywodraeth oedd sicrhau y byddai’r rheini yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i roi Alphasteel yn nwylo’r gweinyddwyr yn gallu cael cyngor ac arweiniad ar daliadau diswyddo a budddaliadau. Er bod cyfnod y gwyliau wedi arafu pethau, yr wyf yn falch o ddweud bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar hynny dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Ar 3 Ionawr, trefnodd Canolfan Byd Gwaith gyfarfod ar y cyd â Gyrfa Cymru a Communitas, is-gorff addysg a hyfforddiant Undeb Community, i gwblhau cynllun i gynnig cyngor a dewisiadau cymorth i’r rheini y mae’r penderfyniad i gau’r gwaith wedi effeithio arnynt. Maent yn parhau i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau bod pawb yr effeithiwyd arno’n cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf o ran cyngor a chefnogaeth. Dros benwythnosau 5 Ionawr a 12 Ionawr, bu canolfan waith Casnewydd ar agor i helpu’r rheini yr effeithiwyd arnynt gyda cheisiadau am fudd-daliadau ac i gynnig cyngor. Yr wyf yn deall bod y taliadau diswyddo yn cael eu trafod yn gyflym ac mae’r undebau wedi croesawu hynny. Ar 5 Ionawr, cynhaliodd Communitas gyfarfod i aelodau yng Nghasnewydd a rhoddodd fwy o fanylion am y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael. Sicrhawyd adeilad ar safle gwaith dur Orb, yn agos i waith Alphasteel, a rhwng 10 a 18 Ionawr bydd yn cael ei redeg fel cyfleuster i roi gwybodaeth a chefnogaeth. Bydd staff Communitas, Gyrfa Cymru a Canolfan Byd Gwaith ar gael yno drwy gydol y cyfnod hwn.

Bydd cyllid Redundancy Action, a ariannir yn rhannol gan gronfa gymdeithasol Ewrop a’i weinyddu gan Lywodraeth y Cynulliad, ar gael i gyn-weithwyr Alphasteel. Amcan cyllid ReACT, sydd â’r bwriad o ategu’r gwasanaethau a gynigir gan Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru i weithwyr sydd wedi’u diswyddo, ac ychwanegu atynt, yw diwallu anghenion pobl sydd wedi’u diswyddo drwy gyfres o fesurau sydd â’r amcan o ddileu’r ffactorau sy’n eu rhwystro rhag cael swyddi newydd. O dan ReACT, mae cymorth recriwtio cyflogaeth yn cyfrannu hyd at £2,080 tuag at gostau cyflogi unigolyn cymwys. Taliad hyfforddiant yw cymorth hyfforddiant y cyflogwr sy’n darparu hyd at 70 y cant o’r costau hyfforddi cymeradwy hyd at uchafswm o £1,000, ar yr amod bod y gweithiwr newydd yn dal i gael ei gyflogi ar ôl 20 wythnos. Mae cymorth arall, fel cymorth i baratoi curriculum vitae a thechnegau cyfweliadau, ar gael hefyd. Fodd bynnag, un cyfrifoldeb pellach sydd gennym sydd yr un mor bwysig yw sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y gwaith yng Nghasnewydd yn ailddechrau cynhyrchu dur.

Ysgrifennais at Begbies Traynor, gweinyddwyr Alphasteel, ar 9 Ionawr i ddweud bod Llywodraeth y Cynulliad yn barod i gydweithio â hwy ac un rhyw brynwr posibl i sicrhau dyfodol y gwaith. Yr ydym, wrth gwrs, yn ymwybodol o fyngiadau caeth yr UE ar y cymorth a roddir i’r sector dur, ond mae’r gweinyddwyr wedi mynegi diddordeb mewn cydweithio â ni ar ôl canfod prynwyr posibl.

Cam cynnar yw hwn yn y broses weinyddu, ac mae’r gweinyddwyr yn dal i baratoi’r gwaith sy’n angenrheidiol cyn dosbarthu’r wybodaeth i’r rhai sydd â diddordeb. Maent yn gobeithio y gwneir hynny mor gynnar â’r wythnos nesaf. Er ei bod yn rhy fuan i ddyfalu ynghylch prynwyr posibl ar gyfer Alphasteel, mae’n galonogol clywed bod y gweinyddwyr yn hyderus y gallant werthu’r safle fel busnes gweithredol, a’r adroddiadau bod diddordeb rhyngwladol mawr mewn prynu’r gwaith fel busnes gweithredol.

Mae potensial mawr i’r safle. Gall gynnig cyfleusterau cynhyrchu a rholio dur o’r radd flaenaf yn ogystal â nifer o gymhellion ychwanegol i brynwyr posibl. Mae Alphasteel yn berchen ar lanfa ar lan afon Wysg sy’n gallu derbyn llongau o hyd at 20,000 o dunelli. Mae’r safle mewn lle delfrydol yn agos at goridor yr M4 ac mae cysylltiad preifat rhyngddo a’r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae’r gwaith hefyd yn agos i orsaf drydan Aber-wysg. Mae cynhyrchu dur yn dal yn elfen hanfodol ym mywyd Cymru, gan ddarparu swyddi o ansawdd da, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac mae’r diwydiant yn cyfrannu’n sylweddol i economi Cymru.

Gall Cymru fod yn falch o’i sector diwydiannol a’i hasedau dur sylweddol. Yr ydym ni, y Llywodraeth, yn barod i gydweithio â’r gweinyddwyr, yr undebau, ac eraill sydd â diddordeb mewn gweld y busnes yn cael ei werthu er mwyn caniatáu i Alphasteel ailddechrau cynhyrchu dur yn ddiweddarach eleni. Werthu’r safle fel busnes gweithredol, a’r adroddiadau bod yna ddiddordeb rhyngwladol mawr mewn prynu’r gwaith fel busnes gweithredol. Mae yna botensial mawr i’r safle – gall gynnig cyfleusterau cynhyrchu a rholio dur o’r radd flaenaf yn ogystal â nifer o gymelliadau ychwanegol i brynwyr posibl. Mae Alphasteel yn berchen ar Lanfa ar lan afon Wysg sy’n gallu derbyn llongau o hyd at 20K tunnell. Mae mewn safle delfrydol yn agos at goridor yr M4 ac mae ganddo gysylltiad preifat â’r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae’r Gwaith hefyd yn agos at Orsaf Bŵer Aber-wysg.

Mae cynhyrchu dur yn parhau i fod yn elfen hanfodol ym mywyd Cymru, gan ddarparu swyddi o ansawdd uchel, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac mae’r diwydiant yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru.

Gall Cymru fod yn falch o’i sector diwydiannol a’i hasedau dur sylweddol. Rydym ni’n barod i gydweithio â’r Gweinyddwyr, yr Undebau ac eraill sydd â diddordeb mewn gweld y busnes yn cael ei werthu er mwyn caniatáu i Alphasteel ailddechrau cynhyrchu dur yn ddiweddarach eleni.