Skip to content

Datganiad Deddfwriaethol am y Cynigion ar gyfer Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
John Griffiths, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Mae heddiw’n garreg filltir bwysig yn y broses o weithredu’n polisi arbennig ac arloesol ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed—y llwybrau dysgu 14-19. Mae’n gwbl briodol y dylai un o Fesurau cyntaf y Cynulliad ymwneud â gweithredu polisi sydd wedi cael ei ddatblygu o brofiad ac arbenigedd ymarferwyr o bob sector perthnasol yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc. Â hynny, yr wyf yn datgan bod cynigion drafft yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Mesur Dysgu a Sgiliau
(Cymru) 2008.

Mae llwybrau dysgu wedi cael eu trafod yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ac mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn, ac mae’r canllawiau wedi datblygu er 2002. Mae’r cynigion drafft yr wyf yn eu cynnig heddiw yn ategu’r polisi hwnnw, a byddant yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr ifanc yn cael dewis gwell ac ehangach nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd hyn yn hybu cyfle cyfartal. Mae’r broses wedi bod yn un dryloyw o’r dechrau, gydag ystod eang o weithgorau’n adeiladu ar arferion gorau’r hyn sy’n gweithio i ddysgwyr yng Nghymru. Mae’r gweithgorau hyn wedi cynnwys cynrychiolwyr o bob sector perthnasol. Gofynnwyd i bob un o’r cynrychiolwyr hyn yn ei dro ymgynghori â’i gydweithwyr er mwyn sicrhau bod y cynigion, yr un pryd, wedi’u seilio’n gadarn ar dystiolaeth o arferion da a’u bod yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau darpariaeth o’r safon uchaf i bobl ifanc Cymru. Yr wyf yn credu’n gryf bod y cynigion sydd yn y Mesur hwn gan y Cynulliad yn meddu ar y potensial i gyflawni hyn. Mae’r llwybrau dysgu 14-19 yn cynnwys chwe phrif elfen sydd, gyda’i gilydd, yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion ein holl ddysgwyr. Y chwe phrif elfen yw: llwybr dysgu unigol; rhagor o ddewisiadau o safon uchel; craidd dysgu; cymorth anogwr dysgu; cyfle i gael cymorth personol; a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol, diduedd a gwell am yrfaoedd. Un o’r agweddau mwyaf arbennig ar lwybrau dysgu 14-19 yw’r sylw i ddysgu ehangach; thema sydd wedi dod i’r amlwg drwy ddatblygu bagloriaeth Cymru.

Bydd hyn yn cydnabod y profiadau gwell y bydd llawer o’n dysgwyr mwyaf difreintiedig yn eu mwynhau, a bydd hefyd yn sicrhau gwell profiadau i’r rhai hynny sydd efallai’n llai ffodus, gan eu galluogi i feithrin y sgiliau, yr agweddau a’r gwerthoedd y mae arnynt eu hangen er mwyn cyflawni eu potensial. Bydd datblygu sgiliau o’r fath, gan gynnwys sgiliau sylfaenol, yn helpu i gynyddu cyfranogiad a gwella cyrhaeddiad. Mae’n bolisi cydraddol a fydd yn rhoi sylw i dangyflawni ym mhob un o’n cymunedau.

Mae’r rhwydweithiau 14-19, sy’n seiliedig ar bob ardal awdurdod lleol ac sy’n cynnwys partneriaid o bob sector, eisoes yn gweithio’n galed er mwyn gweithredu llwybrau dysgu 14-19. Mae £32.5 miliwn wedi cael ei ddarparu eleni i helpu i weithredu’r polisi hwn. Os bydd i’r cynigion ar gyfer y Mesur dysgu a sgiliau hwn fynd rhagddynt, byddant yn sicrhau y bydd llwybrau dysgu 14-19 ar gael yn deg ar draws Cymru, drwy bennu hawl i ddarpariaeth ddysgu ac i gymorth dysgu a chymorth personol.

Bydd y Mesur hwn hefyd yn rhoi dyletswydd ar ysgolion, sefydliadau addysg bellach, ac awdurdodau lleol i gydweithredu â’i gilydd, ac â phartneriaid eraill, fel ffordd o sicrhau hawl dysgwyr i’r cwricwlwm lleol eang ei gwmpas. Byddwn yn defnyddio ein trefniadau cyllido a chontractio ni gyda darparwyr hyfforddiant i roi dyletswyddau cyffelyb arnynt hwythau i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar ei hawl. Mae’r cynigion hefyd yn cydnabod y rôl gyd-drefnu bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yn rhoi llwybrau dysgu ar waith ac yn ‘Ymestyn Hawliau’.

Nod y llwybrau dysgu 14-19 yw creu cyfnod dysgu cydlynol a pharhaus, sy’n cydnabod y datblygiadau a’r newidiadau sylweddol sy’n digwydd i ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn yn eu bywydau. Eu nod yw annog pob person ifanc i fanteisio ar addysg a hyfforddiant, ac i aros ym myd addysg ar ôl 16 oed. Credaf y bydd ein cynigion, gan gynnwys ein cyfuniad unigryw o fecanweithiau cymorth, yn ffordd effeithiol o sicrhau cyfranogiad ar sail wirfoddol.

Yn gefn i’r cynigion yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw bydd pwerau i wneud rheoliadau, i roi cyfarwyddiadau ac i gyhoeddi canllawiau a fydd yn ychwanegu at ganllawiau presennol y llwybrau dysgu 14-19, a byddant yn gymorth i weithredu’r Mesur. I grynhoi, bydd y Mesur yn ei ffurf ddrafft yn sylfaen er mwyn gweithredu’r llwybrau dysgu 14-19 i sicrhau cyfle cyfartal i ddysgwyr 14-19 yng Nghymru; i sicrhau hawl dysgwyr i ddethol o blith ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys opsiynau academaidd a galwedigaethol, a chyda phob un o’r pum parth dysgu ar gael; a byddant yn darparu pŵer llunio rheoliadau a fydd yn diffinio’r ystod o opsiynau a gaiff eu arparu er mwyn gwireddu hawl dysgwyr.

Caiff rheoliadau eu cyflwyno i nodi manylion hawl dysgwyr i ddethol cyrsiau astudio sy’n cyfrannu at elfen ffurfiol llwybr dysgu unigol. Bydd y rhain yn nodi’r isafswm o gyrsiau y mae gofyn eu darparu, a faint o’r rhain ddylai fod yn alwedigaethol eu natur. Nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw sefydliad dysgu unigol yn gallu cynnig yr ystod lawn o ddarpariaeth o 14 i 19. Felly, mae’r Mesur yn cynnwys dyletswydd i ystyried cydweithredu â sefydliadau dysgu eraill i sicrhau bod y nifer a’r ystod ofynnol o opsiynau ar gael.

O ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg, byddwn yn gweithio’n agos gydag addysgwyr a hyfforddwyr cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i sicrhau rhaglen meithrin gallu fel y bydd modd, o flwyddyn i flwyddyn, cynnig rhagor o ddarpariaeth mewn dewis o ieithoedd. Yn 2008-09, mae datblygiadau peilot mewn darpariaeth alwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu rhoi ar waith ar draws Cymru.

I gloi, hyderaf y bydd yr Aelodau’n astudio’r cynigion hyn yn ofalus. Byddant yn destun trafodaeth helaeth gyda rhwydweithiau 14- 19, ymarferwyr a phobl ifanc. Credaf y byddant yn cefnogi ac yn cyfnerthu’r datblygiadau sylweddol sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Bydd y Mesur hwn yn sicrhau cyfle cyfartal i ddysgwyr, bydd yn codi lefel sgiliau a chymwysterau yng Nghymru, a bydd yn gefn i’n twf cymdeithasol ac economaidd.