Skip to content

Ysgrifenedig - Settliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llwodraeth Leol 2008-09

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer 22 awdurdod unedol Cymru ar gyfer 2008-09.

Y Setliad Cyffredinol

Yflwyddyn nesaf, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 2.4% ar gyfartaledd ar setliad refeniw'r flwyddyn flaenorol.

O ganlyniad i'r £4.7 miliwn ychwanegol, bydd y setliad yn sicrhau na fydd unrhyw gyngor yng Nghymru yn cael llai na 2% o gynnydd trwy gyllid allanol.

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ar y setliad dros dro. Rwyf hefyd wedi cwrdd â chynrychiolwyr yr awdurdodau hynny oedd yn dymuno cyflwyno'u sylwadau'n bersonol.

Grantiau Refeniw Penodol

Fel ag yn achos y setliad dros dro, rwyf hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y grantiau penodol eraill y gallant ddisgwyl eu derbyn y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi darlun ehangach i'r awdurdodau o'r cyllid y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2008-09, er mwyn iddynt allu paratoi’u cyllidebau'n effeithiol. Mae'r wybodaeth yr wyf yn ei rhyddhau yn dangos y bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn y £3.8 biliwn drwy'r setliad, hefyd yn derbyn mwy na £642 miliwn mewn grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys y grantiau addysg ôl-16.

Wrth gyfri'r arian sydd heb ei neilltuo a'r arian sydd wedi'i neilltuo gyda'i gilydd, maent yn cynrychioli cynnydd o 3.3% o arian parod ar gyfer yr awdurdodau unedol.

Dyrannu rhwng Awdurdodau

Mae Tabl 1 amgaeedig yn cynnwys manylion dyrannu'r setliad refeniw. Yr arian sy'n ychwanegol i'r setliad ar gyfer ariannu'r mecanwaith gwaelodol (£4.7 miliwn) a'r symiau ychwanegol ar gyfer elfen gofal plant y grant Cymorth (£1.1 miliwn) a chyfrifoldebau dros gŵn strae (£0.236 miliwn) sy'n bennaf gyfrifol am y cynnydd i'r dyraniadau. Mae cyflwyno ffigurau gwirioneddol y sylfaen drethi, gafodd eu darparu gan awdurdodau, a diweddariadau a newidiadau eraill i ddata wedi arwain at rai newidiadau i'r dyraniadau i awdurdodau unigol o'i gymharu â'r setliad dros dro.

Setliad Cyfalaf

O ran y setliad cyfalaf ar gyfer 2008-09, £648 miliwn fydd y dyraniad cyfalaf, gan gynnwys cyfalaf penodol. Mae hynny'n gynnydd o 2.6% o gymharu tebyg â'i debyg ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

£217.4 miliwn yw Cyfanswm y Gronfa Gyfalaf Gyffredinol. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn. Caiff £54 miliwn ohono ei dalu fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £163.4 miliwn, fel cymorth i fenthyca (cymeradwyaethau credyd gynt).


I gloi, credaf fod hwn yn setliad teg a rhesymol i awdurdodau lleol. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ar y setliad dros dro. Rwy'n hyderus y bydd yr awdurdodau unedol yr un mor rhesymol wrth bennu eu cyllidebau ag y maent wedi bod dros y tair blynedd ddiwethaf. Yn fy marn i, ni ddylai codiadau treth cyngor fod yn uwch na 5% yn 2008-09. Byddaf yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa, ac yn gweithredu'n briodol er mwyn cadw codiadau treth cyngor yn rhesymol, os bydd angen.

Byddaf yn awr yn cyflwyno adroddiad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2008-09 i'w gymeradwyo gerbron y Cynulliad ar Ionawr 29.