Skip to content

Ysgrifenedig - Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y cynigion ar gyfer symud ymlaen â’r nodyn cyngor technegol ar gyfer glo, sydd ar hyn o bryd ar ffurf drafft.

Yr wyf wedi ystyried yr ymatebion i’r Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) drafft ar lo a chanfyddiadau’r ymchwil ar adnoddau glo ac effeithiau gweithio gyda glo yng Nghymru.

Cafwyd tri chant a deugain o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad yng ngwanwyn 2006. Hefyd cafwyd 4 deiseb oedd â dros dri chant o lofnodion a dwy ddeiseb arall, ac roedd y mwyaf o’r ddwy â phum mil pum cant o lofnodion. Parthau clustogi oedd yn hoelio’r sylw pennaf.

Comisiynwyd gwaith ymchwil, yn bennaf i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau cynllunio ond hefyd i edrych ar y ffordd yr oedd gwaith glo brig yn effeithio ar gymunedau lleol. Yr oedd i’w gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2006 yn unol â’r bwriad i orffen yr MTAN Glo cyn diwedd 2006. Roedd dwy ran i’r adroddiad ac ni chafwyd y rhan olaf tan fis Hydref diwethaf (2007). Y rheswm pennaf am yr oedi oedd anhawster yr ymchwilwyr i gael yr wybodaeth, yn dilyn preifateiddio’r diwydiant glo.

Mae canlyniadau’r ymchwil wedi fy ngwneud yn ymwybodol iawn o’r gwahaniaeth rhwng y ffordd y caiff effeithiau glo brig eu mesur a chanfyddiadau pobl leol.

Yr wyf yn llwyr ymwybodol o’r materion sensitif sy’n gysylltiedig â gwaith glo brig. Mae hollbwysig bod cymunedau’n cael eu diogelu ond mae’n hanfodol hefyd bod gennym gyflenwad digonol o ynni i gynnal ein heconomi ac i ddiogelu ein safon o fyw yn awr ac yn y dyfodol. Rôl cynllunio yw cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y galwadau hyn ac nid oes unrhyw atebion hawdd.

Yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ar waith ymchwil diweddar yr wyf wedi cyfarwyddo swyddogion i gynnal ymgynghoriad penodol arall ar nifer cyfyngedig o faterion. Bydd dogfen ymgynghori ar gael cyn bo hir fydd yn gofyn am safbwyntiau i helpu i wneud y penderfyniadau terfynol am gynnwys yr MTAN Glo, yn enwedig yn achos parthau clustogi a’r asesiad o’r effaith ar iechyd.

Y cais cyhoeddus mwyaf cyson oedd i’r MTAN gynnwys parthau clustogi o 500m. Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn bosibl, yn amodol ar amgylchiadau penodol y safle, i ddiogelu cymunedau rhag gweithfeydd glo brig drwy ddefnyddio’r arferion gorau. Ond mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r ohebiaeth a ddaeth i law yn dangos nad oes gan rai aelodau o’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt hyder y bydd yr addewidion yn cael eu cadw, ac na chedwir at yr amodau. Ni ellir datrys cwynion oni fydd problem wedi codi yn y lle cyntaf. Y pryder hwn yw’r rheswm pam ei bod yn briodol ymgynghori ar ganiatáu 500m rhwng datblygiadau sensitif fel tai ac ysgolion a ffin safleoedd pyllau glo brig.

Bydd sylwadau’n cael eu gwahodd ar barth clustogi o 500m, er fy mod yn cydnabod y bydd angen darparu ar gyfer amgylchiadau lleol. Gall gweithfeydd glo bas dan ddaear a thomenni’r pyllau glo dwfn wneud tir yn ansefydlog ac yn anniogel. Mae creu pyllau glo brig yn un o’r dulliau o adfer y tir a gall gyfrannu tuag at y gost. Gallai fod datblygiadau eraill hefyd fel ffyrdd neu ddarnau o goetir sy’n gwneud parth clustogi llai yn briodol.

Mae ymrwymiad yn Cymru’n Un i wneud asesiadau o’r effaith ar iechyd yn orfodol ar gyfer gweithfeydd glo brig. Mae gronynnau llwch o weithfeydd glo brig, a’r modd y gall effeithio ar iechyd, yn poeni pobl. Hyd yma mae tystiolaeth yn dangos cysylltiad ond nid yw wedi clustnodi effeithiau clir. Gall rhai elfennau o’r gymuned fod yn fwy agored i niwed ac mae angen ystyried iechyd o fewn cyd-destun cymdeithasol penodol maes glo De Cymru. Mae pobl o’r farn bod y risg yn uchel am ei fod wedi’i ddosbarthu’n annheg, am nad oes modd dianc rhagddo ac am fod iddo berygl penodol i blant.

Hyd yma, mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd sy’n adlewyrchu pryderon y gymuned am gynigion glo brig wedi cael eu cynnal gan arbenigwyr iechyd, drwy Brifysgol Caerdydd a gyda chymorth Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru. Er eu bod wedi ennyn ymddiriedaeth y gymuned nid ydynt wedi cymryd y cam nesaf, sef gwerthuso’r risg mewn cyd-destun sy’n helpu’r awdurdod lleol i wneud penderfyniad cynllunio. Yn amodol ar gyngor gan weithwyr iechyd proffesiynol, bydd proses fwy penodol yn cael ei phennu yn yr ymgynghoriad arfaethedig.

Cyfnod yr ymgynghori fydd 12 wythnos. Rwyf yn awyddus iawn i symud ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl a bydd papur ymgynghori yn cael ei gyhoeddi y mis hwn.