Skip to content

Ysgrifenedig - Grŵp Arbenigwyr ar Dlodi Plant

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Hoffwn roi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi cadarnhau’r penodiadau i’r Grŵp Arbenigwyr ar Dlodi Plant. Dyma gadw at yr ymrwymiad a wnaed yn ‘Cymru’n Un’ i sefydlu tîm o arbenigwyr ym maes tlodi plant a fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth y Cynulliad, wrth i ni ymdrechu i gyflawni’r her o gyrraedd ein targedau tlodi plant.

Mae profiad Huw Lewis AC o ymdrin â phroblemau sy’n ymwneud â thlodi plant yn hysbys i bawb, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i gadeirio’r grŵp pwysig hwn. Yn unol â phroses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth y Cynulliad, rwyf yn hynod o falch o gadarnhau penodiadau y pedwar aelod arall o’r Grŵp. Maent i gyd yn arbenigwyr uchel eu parch ym maes polisi cymdeithasol, ac mae ganddynt ddealltwriaeth ragorol o’r materion sy’n gysylltiedig â thlodi plant yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. Aelodau’r Grŵp yw:

  • Huw Lewis AC, Cadeirydd;
  • Caroline Kelham, Pennaeth Uned Tlodi Plant Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd / yr Adran Gwaith a Phensiynau/ (aelod ex-officio).
  • Ms Anne Crowley, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi ac Ymchwil, Achub y Plant (Cymru);
  • Dr Samantha Clutton, Swyddog Ymchwil a Pholisi, Barnardo’s Cymru;
  • Yr Athro David Gordon, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol, Prifysgol Bryste;
  • Dr Peter Kenway, Cyfarwyddwr, yr Athrofa Polisi Newydd (NPI);

Bydd swyddogion fy Adran yn darparu cefnogaeth Ysgrifenyddol i’r Grŵp, a bydd nifer o swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu at ei waith.

Cafodd y Grŵp ei sefydlu yn bennaf i roi cyngor i mi ar y gofynion pellach ac ehangach o ran polisi sydd eu hangen arnom i gyrraedd y cerrig milltir a’r nodau a osodir yn nogfen mis Hydref 2006, ‘Dileu Tlodi Ymhlith Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant’. Hefyd, o ystyried y pwyslais y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei roi ar fynd i’r afael â thlodi plant ac ar hybu eu lles, mae’n hanfodol, nawr ac yn y dyfodol, i fonitro’r gwelliannau a gyflawnir yma yng Nghymru. Felly yn ogystal, gofynnwyd i’r Grŵp roi cyngor ar ddatblygu Monitor Lles Plant i Gymru.

Bydd y Monitor, a fydd yn cael ei gynhyrchu ym mis Medi 2008, yn tracio ansawdd bywyd plant a phobl ifanc yng Nghymru mewn sawl dimensiwn, gan gynnwys tlodi plant. Bydd y Monitor yn canolbwyntio ar y saith maes craidd sy’n sail i’r Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc. Mae’r meysydd craidd fel a ganlyn: y blynyddoedd cynnar; cyfleoedd addysg a dysgu; iechyd, diogelwch rhag camdriniaeth ac erledigaeth; mynediad at weithgareddau hamdden, chwaraeon, diwylliannol a chwarae; parch; cael cymuned a chartref diogel sydd yn hybu lles emosiynol; a byw heb dlodi. Byddwn ni yng Nghymru yn defnyddio’r Monitor hwn fel dull i fesur i ba raddau yr ydym yn gwella cyfleoedd bywyd ein plant.

Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos ein bod, ers dechrau datganoli, wedi lleihau tlodi plant. Mae’r cyfraddau tlodi ar gyfer plant yng Nghymru wedi gostwng ac, am y tro cyntaf, maent yn is na’r cyfartaledd ym Mhrydain. Fodd bynnag, gwn nad oes achos i orffwys ar ein rhwyfau gan fod 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi lle mae’r incwm o dan 60% o’r canolrif. Rydym hefyd yn gwybod na fu cymaint o lwyddiant o ran gwella’r duedd ar i lawr yn ddiweddar iawn.

Felly, rwyf innau a’m cyd-aelodau o’r Cabinet yn gwbl ymwybodol o’r angen i barhau i adeiladu ar y cynnydd sy’n digwydd yma yng Nghymru. Eisoes mae gennym ystod o bolisïau a rhaglenni sydd â’r nod o fynd i’r afael â thlodi plant ar draws Llywodraeth y Cynulliad. Yn ogystal â hyn, bydd buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn parhau i gael lle amlwg yng ngweithgaredd trydedd Lywodraeth y Cynulliad. Wedi dweud hynny, mae angen i ni fod yn sicr fod y polisïau hyn yn gweithio a’u bod yn cael eu profi, er mwyn i ni ddarparu'r gwelliannau pellach sydd eu hangen. Rwyf yn wir obeithio ac yn disgwyl y bydd y Grŵp Arbenigwyr newydd yn rhoi cyngor anhepgor ar sut y gallwn ni sicrhau gwelliannau pellach wrth ddechrau mynd i’r afael â thlodi ymhlith y teuluoedd sydd fwyaf anodd eu cyrraedd a’r rhai sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Rydym yn gwybod bod mynd i’r afael â thlodi plant o bob math yn gymhleth iawn a chan nad yw llawer o’r materion wedi’u datganoli bydd angen partneriaeth gadarn â Llywodraeth San Steffan.

Yn ei Chyllideb, mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi nifer o fesurau a fydd o gymorth i gyrraedd y targed, sef haneru tlodi plant erbyn 2010. Bydd y Budd-dal Plant am blentyn cyntaf yn codi i £20, ac ni fydd budd-dal plant yn cael ei ystyried wrth gyfrifo budd-daliadau tai a threth gyngor. Mae’r Gyllideb hefyd yn nodi mai teuluoedd di-waith yn enwedig sydd mewn perygl o ddioddef tlodi. Bydd mwy o gymorth ariannol ac ymarferol i deuluoedd nad ydynt yn gallu gweithio, a bydd mesurau yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau bod budd ariannol i deuluoedd di-waith sy’n dechrau gweithio – cyn belled â bod hynny yn ddewis realistig iddynt. Bydd hefyd mwy o gymorth ar gael i deuluoedd sy’n gweithio eisoes.

Er mwyn gweithredu’r holl fesurau sydd yn y Gyllideb, bydd Llywodraeth San Steffan yn buddsoddi £950 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â thlodi plant erbyn 2010/11. Mae’r Llywodraeth yn honni y bydd dros 500,000 o blant yn cael eu codi allan o dlodi o ganlyniad i’r mesurau hyn, a hefyd y diwygiadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y DU yn 2007, yr Adroddiad Cyn-Cyllideb 2007 a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. Fel rhan o gyhoeddiad y Gyllideb ddiweddaraf, mae Llywodraeth San Steffan yn datgan y bydd yn buddsoddi £125 miliwn dros y tair blynedd nesaf (£10m yn 2008/09; £35m yn 2009/10 a £80m yn 2010/11) ledled y Deyrnas Unedig er mwyn cyrraedd y targed 2020 ar gyfer tlodi plant.

Mae “Ending Child Poverty:Everybody’s Business”, a gafodd ei gyhoeddi ochr yn ochr â Chyllideb San Steffan, yn esbonio sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â thlodi plant. Bydd hynny’n seiliedig ar bedair egwyddor allweddol:

  • cynyddu nifer y bobl sydd mewn gwaith a chynyddu incwm, gan barhau i helpu rhieni sengl i gael gwaith, a gwella’r cyfle i gael gofal plant;
  • gwella’r cymorth ariannol ac ymarferol sydd ar gael i deuluoedd, gan barhau i wella cymhellion i weithio, a chynnig cymorth ychwanegol i’r rhai sydd ei angen fwyaf, a sicrhau bod y rhai sy’n gymwys yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl iddo;
  • mynd i’r afael ag amddifadedd mewn cymunedau, gan barhau i weithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant; a
  • gwella cyfleoedd bywyd plant tlawd, gan barhau i weithio gyda rhieni i godi uchelgais a chyrhaeddiad.

Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y Cynulliad, a gweinyddiaethau eraill sydd wedi’u datganoli, yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o fuddsoddi’r £125 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau bod polisïau tlodi plant yn y dyfodol yn briodol ar gyfer yr amgylchiadau yma yng Nghymru. Rwyf yn deall mai dim ond yn Lloegr y bydd llawer o’r gwaith peilot sydd wedi’i amlinellu yn “Ending Child Poverty: Everbody’s Business” yn digwydd, ac yno hefyd bydd y grantiau awdurdodau lleol a gofal plant. Serch hynny, bydd gwaith peilot yr Adran Gwaith a Phensiynau yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig. Bydd fy swyddogion yn manteisio ar y cyfle i godi’r materion hyn yn y cyfarfod nesaf o Fforwm y Pedwar Gwlad ar Dlodi Plant sydd i’w gynnal ym mis Mai. Byddant yn cadw mewn cysylltiad â’u cyd-aelodau yn Llywodraeth y Cynulliad am y goblygiadau polisi i Gymru, fel y bydd angen.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cydnabod yr angen i ymchwilio i natur ac amgylchiadau penodol y plant sy’n byw yn y tlodi mwyaf trwy gomisiynu Achub y Plant / Bevan i arwain prosiect ymchwil i’r sefyllfa yng Nghymru. Cafodd eu hadroddiad ei gyhoeddi ar 11 Mawrth. Mae Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y Cynulliad bellach yn ystyried ei ganfyddiadau’n ofalus er mwyn datblygu polisïau newydd ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Rwyf yn parhau i bryderu yn enwedig am y plant hynny sydd yn anodd i’w cyrraedd, ac sydd yn byw yn y tlodi mwyaf dwys a pharhaus, ac rwyf yn gwybod bod rhaid i ni wneud mwy i ddatblygu polisïau newydd i wella eu hamgylchiadau ac amgylchiadau eu teuluoedd. Rwy’n gobeithio y bydd y Grŵp Arbenigwyr ar Dlodi Plant yn gallu rhoi mwy o gyngor ar y mater hwn, ymhlith eraill.

I ddechrau, bydd y Grŵp yn parhau am dair blynedd, a disgwylir iddo gyfarfod deirgwaith y flwyddyn. Bydd y tâl yn unol â pholisi penodiadau cyhoeddus Llywodraeth y Cynulliad. Rwyf wedi cytuno y caiff y grŵp fod â’r hawl i wahodd arbenigwyr i roi arweiniad ychwanegol os bydd angen gwybodaeth a chyfraniad arbenigol ychwanegol arnynt i gyflawni eu cylch gorchwyl. Fodd bynnag, nid ystyrir bod y rhai a wahoddir yn cael eu hystyried yn aelodau o’r panel.

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp Arbenigwyr ar Dlodi Plant ar 7 Mai. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddatgan fy ngwerthfawrogiad i’r aelodau sydd wedi cytuno i gyfrannu at ei waith. Rwyf yn edrych ymlaen at gael trafodaeth fuddiol gyda’r Grŵp wrth iddynt fynd â’u hargymhellion yn eu blaen yn ystod y blynyddoedd nesaf, wrth i bawb ohonom ymdrechu i sicrhau llwyddiannau pellach yn y frwydr yn erbyn tlodi plant.