Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu’r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Cyfalaf Strategol, a fydd yn cryfhau’r modd yr ydym yn mynd ati i reoli’r gwaith o fuddsoddi cyfalaf ac yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ymhellach i bobl ledled Cymru.
Mae’r Fframwaith yn cyfuno ystod lawn o fesurau i reoli’r gwaith o fuddsoddi cyfalaf yn effeithiol. Mae’r Bwrdd Gweinidogion yn ganolog i’r Fframwaith a hwn fydd yn penderfynu sut y caiff y gronfa gychwynnol gwerth £400 miliwn ei buddsoddi yn ystod y 3 blynedd nesaf.
Caiff y Bwrdd gymorth Panel Cynghori ar Fuddsoddi Cyfalaf Strategol, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol ac annibynnol ar gynigion buddsoddi, o’r dechrau’n deg nes i’r camau gael eu gweithredu.
Bellach rwyf wedi cwblhau’r gwaith o benodi’r Panel Cynghori ar Fuddsoddi Cyfalaf Strategol ac wedi penodi chwech o aelodau.
Rwyf wedi penodi’r Dr. Tim Stone yn Gadeirydd ar y Panel ynghyd â John Bevan, Alan Brown, David Goldstone, Shonagh Hay a Barry Williams yn aelodau’r Panel.
Bydd y penodiadau yn para am 3 blynedd i ddechrau, ac fe’u llywodraethir gan saith egwyddor bywyd cyhoeddus Pwyllgor Nolan.
Mae penodi chwe aelod y Panel yn dod ar ddiwedd proses drylwyr i recriwtio pobl a chanddynt y profiad, yr wybodaeth a’r doniau cywir i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r modd yr ydym yn mynd ati i fuddsoddi cyfalaf.
Byddaf yn ystyried y posibilrwydd o benodi aelodau panel newydd os bydd angen arbenigedd ychwanegol yn y dyfodol.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Panel dros y 3 blynedd nesaf. Er mai’r Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol fydd yn hawlio prif sylw’r Panel, byddaf yn cynnig gwasanaethau aelodau’r Panel i Adrannau os bydd angen cyngor arbenigol ar brosiectau eraill.
Dyma fywgraffiad byr o chwe aelod y Panel.
Dr. Tim Stone
Cemegydd yw Dr. Tim Stone ac mae ganddo brofiad helaeth yn y sector ariannol, a’r sectorau cyfalaf, buddsoddi a seilwaith.
Ef ar hyn o bryd yw Cadeirydd a sylfaenydd Grŵp Seilwaith a Phrosiectau Byd-eang KPMG. Mae’n Gyfarwyddwr anweithredol arbenigol ar Fanc Buddsoddi Ewrop, yn ogystal â bod yn Uwch Gynghorydd i Lywodraeth y DU ar y Rhaglen Newydd i Adeiladu Gorsafoedd Niwclear. Mae Tim hefyd yn Gynghorydd Annibynnol ar fuddsoddi mewn seilwaith i Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cyllid un o daleithiau Awstralia.
Tim oedd prif gynghorydd yr Weinyddiaeth Amddiffyn ar raglen Awyren Tancer Strategol y Dyfodol a oedd yn werth £13 biliwn.
Roedd ymhlith sylfaenwyr Cwmni Rheilffyrdd London & Continental a ddatblygodd gysylltiad rheilffyrdd cyflymder uchel rhwng Llundain a Thwnnel y Sianel.
Mae Tim yn byw yn Saffron Walden, Essex.
John Bevan
Mae John Bevan yn Beiriannydd Siartredig a chanddo 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi gwasanaethu ar fyrddau cwmnïau Prydeinig a rhyngwladol.
Mae wedi ennill ei blwyf wrth arwain busnesau a phrosiectau cyfalaf ar lefel strategol a gweithredol.
Daw John â gwybodaeth o brosesau adeiladu, caffael a chyflawni prosiectau i’r Panel.
Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar Laleston Partners, sy’n darparu cyngor arbenigol i’r sector adeiladu.
Mae John yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Alan Brown
Syrfëwr Siartredig ac Arbenigwr ar Adfywio yw Alan Brown a chanddo 25 mlynedd o brofiad o ddarparu prosiectau cyfalaf pwysig sy’n cynnwys y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.
Mae wedi bod yn gysylltiedig iawn â’r gwaith o adfywio Cymru yn economaidd ac yn gymdeithasol a bu gynt yn Brif Weithredwr Datblygiad D’Arcy BP - is-gwmni sy’n eiddo’n llawn i gwmni olew BP yn y DU.
Ar hyn o bryd mae Alan yn gysylltiedig â phrosiect i adfywio tref Yeovil yng Ngwlad yr Haf.
Mae’n byw ym Masaleg, Casnewydd.
David Goldstone
Mae’n Gynghorydd di-dâl i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal â bod yn Gynghorydd Ystadau i Undeb Rygbi Cymru.
Ef oedd sylfaenydd Regalian Properties PLC ac roedd yn Brif Weithredwr ac yn Gadeirydd ar y cwmni rhwng 1971 a 2001.
Roedd yn Aelod o Fwrdd Canolfan Mileniwm Cymru rhwng 1998 a 2006 ac mae bellach yn Is-Lywydd Oes.
Roedd yn aelod o Gyngor Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1984 a 1989, ac mae’n Is-Lywydd er anrhydedd Neuadd y Royal Albert er 2007.
Mae David yn ffigwr amlwg ym marchnad datblygu eiddo’r DU, ac mae wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu adeiladau enwog ac adfywio cymunedau trefol. Ymhlith y datblygiadau y mae David wedi’u cwblhau mae Pencadlys MI6, Tŵr y Marble Arch, a 3a Palace Green ar Kensington Palace Road sy’n cael ei gyfrif yn un o adeiladau preswyl harddaf Llundain.
Mae wedi bod yn Gadeirydd ar dimau pêl-droed Dinas Caerdydd ac Abertawe fel ei gilydd ac mae wedi cael swyddi uchel ym Mhrifysgol Llundain, Amgueddfa Teuluoedd a Phlant Coram. Mae David yn gymrawd er anrhydedd yn yr LSE.
Mae David yn byw yn Llundain.
Shonagh Hay
Mae Shonagh Hay wedi hanner ymddeol a than yn ddiweddar roedd yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Busnes yn y cwmni rhyngwladol ar gyfer rheoli asedau, Currie and Brown.
Bu Shonagh gynt yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes Grŵp a Rheolwr Gyfarwyddwr yr Alban dros y cwmni adeiladu a gwasanaethau chynorthwyol Amey plc. Mae ganddi fwy nag 20 mlynedd o brofiad ym maes y sectorau adeiladu, rheoli asedau a’r sector gwasanaethau cynorthwyol.
Shonagh yw sylfaenydd a gwesteiwr y Fforwm Menywod Hŷn mewn Iechyd, ac mae’n aelod o’r grŵp cyfeirio ym maes adeiladu SIDA yn Swyddfa Llywodraeth a Masnach. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Menywod yn Arwain.
Mae Shonagh yn byw yn y Fenni.
Barry Williams
Mae Barry Williams yn weithiwr proffesiynol ym maes cyllid a chanddo dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector seilwaith.
Mae wedi cael swyddi rheoli uwch yn Land Securities Trillium, Secondary Market Infrastructure Fund lle bu’n un o’r partneriaid a sylfaenodd y cwmni, a Babcock and Brown. Gweithiodd hefyd i Drysorlys EM ac roedd yn gysylltiedig â’r gwaith o ddatblygu’r Fenter Cyllid Preifat / Partneriaeth Cyhoeddus-Preifat.
Ar hyn o bryd mae Barry yn Rheolwr Bartner yn Aleltho Limited sy’n gwmni cyllid seilwaith sy’n arbenigo mewn ynni adnewyddadwy a’r Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat.
Mae Barry yn byw yn Kingston-Upon-Thames, Surrey.