Skip to content

Ysgrifenedig - Camau tuag at gynyddu Tai Fforddiadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies , Y Dirprwy Weinidog dros Dai

Ym mis Mehefin, adroddais wrthych fy mod wedi derbyn yr adroddiad llawn ar dai fforddiadwy a gomisiynwyd gan Sue Essex. Soniais hefyd fod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi nodi pum argymhelliad interim a fyddai’n ein helpu i gyrraedd ein hamcanion ym maes tai, sydd wedi’u mynegi yng nghytundeb Cymru’n Un. Rydym wedi ymgynghori â phob carfan a oedd yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau tenantiaid, cynrychiolwyr o’r sector preifat a chymdeithasau tai, ac roedd yr ymateb yn aruthrol o gadarnhaol.

Rwy’n falch o gyhoeddi’r canlynol felly:

  • Bydd gan gymdeithasau tai, drwy addasu eu fframwaith rheoleiddio, yr hyblygrwydd i wneud defnydd mwy o’u hasedau i fuddsoddi mwy mewn tai a chymunedau.
  • Ceir llai o fiwrocratiaeth drwy symleiddio ein prosesau sy’n rhoi caniatâd i fenthyca.Caiff y rhaglen ar gyfer lleihau allyriadau carbon a chynyddu effeithlonrwydd ynni ei phrysuro drwy hyrwyddo’r gwaith o adeiladu cartrefi newydd i safon uwch, gyda chymorth grant.
  • Bydd yn llawer haws a chyflymach i gymdeithasau tai gael Grant Addasiadau Ffisegol. Bydd y rhai y mae angen help arnynt yn ei gael yn gyflymach ac, unwaith eto, byddwn yn lleihau biwrocratiaeth.
  • Bydd gan Gymdeithasau Tai sy’n gweithio gyda’u Hawdurdodau Lleol fwy o hyblygrwydd i brynu eiddo, gan roi arf arall inni ddiwallu anghenion ein cymunedau.Byddwn yn ystyried gweddill Adroddiad Essex, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r argymhellion allweddol drwy gydol y flwyddyn. Fe roddaf wybod yn rheolaidd ichi am unrhyw ddatblygiadau.

Yn y cyfamser, mae’r argymhellion a gyhoeddwyd heddiw yn gyson â’r cyfeiriad rydym am ei gymryd. Maent yn gwella pethau ar gyfer tenantiaid a’n cymunedau, yn ffrwyth gwaith partneriaeth, yn lleihau biwrocratiaeth ac yn hyrwyddo arloesi. Rwy’n eu cymeradwyo ichi.