Skip to content

Datganiad - cyllideb terfynol 2009-10

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Rwyf wedi cyflwyno’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2009/10 yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, ac rwy’n hyderus y bydd yn rhoi sylfaen gadarn i Lywodraeth Cynulliad Cymru barhau i ddatblygu agenda Cymru’n Un.  

Dros y blynyddoedd nesaf, rydym yn wynebu’r sefyllfa o weithredu mewn cyfnod economaidd llawer mwy heriol nag rydym wedi’i gweld ers sefydlu’r Cynulliad.  Yng Nghynigion y Gyllideb Ddrafft, a gyhoeddwyd ddechrau’r Hydref, defnyddiwyd dull strategol o ryddhau’r cyllid cyfyngedig sydd ar gael o gronfeydd  2009-10 a 2010-11, i fwrw ymlaen â Cymru’n Un ac i helpu pobl lle y mae ei angen fwyaf.  

Cadarnhaodd y craffu a’r trafod adeiladol a ddilynodd hyn fod y Gyllideb Ddrafft wedi mynd ar y trywydd iawn, ac mae’r Gyllideb Derfynol a gyflwynwyd heddiw yn cyfateb yn agos i’r Gyllideb Ddrafft.  Mae rhai adrannau wedi gwneud newidiadau bychain o fewn eu cyllidebau, ac mae nifer o drosglwyddiadau technegol bychain wedi’u gwneud rhwng adrannau.  Mae lefelau’r gronfa yn debyg iawn i’r rhai a osodwyd yn y Gyllideb Ddrafft.  

O dan yr amodau economaidd anodd hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad, wrth ddarparu’r Gyllideb Ddrafft derfynol hon, yn canolbwyntio ar barhau i gynorthwyo pobl lle y mae’r angen mwyaf.  Mae’r Gyllideb Derfynol yn ei gwneud hi’n bosibl bwrw ymlaen ag ystod eang o weithgareddau, sydd wedi’u hanelu at helpu busnesau, teuluoedd ac unigolion yn ystod y cyfnod anodd hwn.  

Yn benodol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio defnyddio ei buddsoddiad cyfalaf i helpu i gynnal cyflogaeth o fewn economi Cymru, a thrwy hynny ddarparu ysgogiad cyllidol gwrthgylchol.  Mae hyn yn cynnwys dwyn gwariant cyfalaf ymlaen a chanolbwyntio’r gwariant ar brosiectau buddsoddi llafurddwys.  

Roedd Adroddiad Rhag-gyllidebol Llywodraeth y DU yn rhoi’r cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddwyn ymlaen £140 miliwn o wariant cyfalaf o 2010/11, yn bennaf i 2009/10, ond hefyd, i ryw raddau, 2008/09. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu defnyddio’r cyfle hwn, sy’n cynnal gwaith ar ddwyn prosiectau cyfalaf ymlaen, a oedd eisoes wedi dechrau, o ganlyniad i Uwchgynadleddau Economaidd Cymru Gyfan ym mis Hydref a Tachwedd.

Mae union broffil y gwariant sy’n cael ei ddwyn ymlaen yn ystod 2008/09 a 2009/10 yn adlewyrchu dadansoddiad o gyfleoedd ac anghenion ar draws y ddwy flynedd ariannol.  Bydd y dyraniadau ychwanegol yn 2008/09 a 2009/10 felly’n cael eu gwneud trwy Gyllidebau Atodol yn ystod y flwyddyn.  Rwyf am ddweud mwy ynghylch sut y bydd dwyn buddsoddiad cyfalaf ymlaen o fudd i economi Cymru yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos, yn yr Uwchgynhadledd Economaidd sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd Gwener nesaf.  

Yn ogystal â dyraniadau adrannol uniongyrchol, mae’r Gyllideb Derfynol hefyd yn darparu’r cyllid sy’n sail i’r Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF).  Mae’r SCIF yn deillio’n uniongyrchol o agenda Cymru’n Un, a bydd yn cyflwyno cam newydd yn null Llywodraeth y Cynulliad o gynllunio a darparu buddsoddiad cyfalaf yn strategol.  Cafodd cyllideb o £400 miliwn ei neilltuo yn ystod y cyfnod  2008/09 i 2010/11 er mwyn bwrw ymlaen â phrosiectau cyfalaf arloesol, trawsbynciol a strategol.

Mae’r dull o weithredu’r SCIF yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Cabinet penodol ar Fuddsoddi Cyfalaf Strategol, gyda chyngor gan banel arbenigol annibynnol a sefydlwyd gennyf.  Mae gan aelodau’r panel cynghori gyfoeth o brofiad o gynllunio, datblygu, cyllidebu a chyflawni prosiectau a rhaglenni cyfalaf mawr, ac maent eisoes wedi llwyddo i ychwanegu gwerth sylweddol i ddatblygiad ein hagenda fuddsoddi.  Mae’r SCIF hefyd yn sefydlu dull newydd cadarn o arfarnu buddsoddiad, a fydd o gymorth i sicrhau bod y gwerth gorau i’w gael o’n gwariant cyfalaf.    

Mae llawer o waith wedi ei wneud i nodi a chwilio am gyfleoedd posibl i fuddsoddi, a heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r tranche cyntaf o brosiectau a fydd yn cael eu datblygu o dan yr SCIF.  

Mae’r tranche cyntaf yn cynnwys 19 o brosiectau neu raglenni cyfalaf a fydd yn helpu i gyflawni gwelliannau mawr i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.  Maent wedi eu rhannu’n chwech o themâu strategaethol, sydd wedi llywio’r broses o flaenoriaethu’r prosiectau.    

Adfywio – prosiectau sy’n helpu i greu dyfodol positif i gymunedau difreintiedig, gyda chyfraniadau SCIF hyd at:

  • £42 miliwn i ddarparu 400 yn ychwanegol o dai fforddiadwy ledled Cymru;
  • £12 miliwn i drawsnewid Blaenau’r Cymoedd yn rhanbarth carbon isel, trwy gynorthwyo’r broses o ddatblygu, cynhyrchu a gosod technoleg a mesurau carbon isel; 
  • £10 miliwn i ddatblygu gwasanaethau sy’n cael eu rhannu ar gyfer awdurdodau lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, a fydd yn darparu gwasanaethau gwell, mwy effeithiol, a thrwy hyn yn cynorthwyo i ryddhau adnoddau i’w buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen; a 
  • £2 filiwn ar gyfer menter treftadaeth ddiwylliannol newydd i Gymru gyfan i ysgogi twristiaeth ddiwylliannol.

Dull o fyw Positif – prosiectau i gynorthwyo i wella iechyd pobl ledled Cymru, gyda chyfraniadau SCIF hyd at:

  • £70 miliwn o fuddsoddiad mawr i wella gwasanaethau ysbyty yn Abertawe;  
  • £16 miliwn am raglen newydd i wella gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru; ac
  • £8m i adeiladu canolfan iechyd a lles newydd yn Merthyr Tudful.

Y Newid yn yr Hinsawdd – prosiectau sy’n cynorthwyo i leihau ein hallyriadau o nwyon tŷ gwydr, a diogelu ein gwlad a’n planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gyda chyfraniadau SCIF hyd at:

  • £4 miliwn ar gyfer rhwydwaith trwy Gymru gyfan o weithfeydd trin gwastraff sy’n treulio’n anaerobeg;
  • £26 miliwn ar gyfer prosiect adeiladau carbon isel ar gyfer Cymru gyfan i hybu effeithiolrwydd ynni a’r defnydd o ynni adnewyddadwy mewn cartrefi a busnesau; a
  • hefyd, bydd cynlluniau ynni coed yn cael eu cynnwys, lle y bo’n briodol, yn y prosiectau yn y tranche cyntaf hwn.    

Trafnidiaeth gynaliadwy – prosiectau sy’n helpu i wella ein rhwydweithiau trafnidiaeth i wella mynediad i gyflogaeth, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus allweddol mewn dull cynaliadwy gyda chyfraniadau SCIF hyd at:

  • £27 miliwn ar gyfer buddsoddiad mawr yn y rhwydwaith rheilffyrdd i wella gwasanaethau rhwng y gogledd â’r de;
  • £20 miliwn i ddyblu y trac rheilffordd rhwng Gŵyr a Chasllwchwr; a  
  • £9 miliwn tuag at gostau datblygu cyn ffordd ddeuol Blaenau’r Cymoedd rhwng Tredegar a Bryn-mawr.  

Cydnerthu – prosiectau sydd wedi’u hanelu at sicrhau fod Cymru wedi paratoi ar gyfer heriau newydd y 21ain ganrif, gyda chyfraniadau SCIF hyd at:

  • £59 miliwn i’r prosiect i baratoi ar gyfer y ffliw pandemig, a fydd yn datblygu ased genedlaethol strategol i helpu Cymru mewn achos o ffliw pandemig;
  • £3 miliwn tuag at greu timau ymateb ardal i beryglon, gan wella gallu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i achosion brys penodol, megis digwyddiadau cemegol neu fiolegol; ac
  • £8 miliwn i sbarduno gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd / arfordirol ledled Cymru.  

Prosiectau datblygu sgiliau a’r economi wybodaeth, sydd wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl a busnesau i oroesi, trwy wella sgiliau a’n sylfaen wybodaeth, gyda chyfraniadau SCIF hyd at:  

  • £5 miliwn ar gyfer paratoadau cychwynnol rhaglen gyfalaf ysgolion newydd hirdymor ar gyfer yr 21ain ganrif, a fydd ymhen amser yn helpu i drawsnewid yr amgylchedd dysgu i blant ledled Cymru;
  • o fewn y rhaglen ysgolion hon, bydd tri phrosiect enghreifftiol yn Wrecsam (£5 miliwn), Casnewydd (£15 miliwn) a Blaenafon (£4 miliwn) yn derbyn cyllid cynnar;
  • mae Campws Addysg a Chymuned Blaenafon yn enghraifft dda o sut yr ydym yn ceisio darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i gymunedau lleol trwy weithio ar draws meysydd polisi traddodiadol i ddarparu gwasanaethau addysgol, iechyd, hamdden a diogelwch cymuned o un safle;

Bydd rhagor o fanylion ar y prosiectau unigol yn cael eu darparu gan Weinidogion arweiniol maes o law.  

Ar y cyfan, mae disgwyl i’r prosiectau hyn gael buddsoddiad o oddeutu  £350 miliwn o’r SCIF, ond bydd y ffigur hwn yn fwy na dwbl unwaith y bydd y buddsoddiad o gyllidebau cyfalaf adrannol presennol, rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, a’r sectorau preifat a gwirfoddol yn cael eu hystyried.  Bydd bron i  £50 miliwn o’r cyllid SCIF yn cael ei fuddsoddi eleni, ac mae disgwyl i oddeutu £30 miliwn ohono roi manteision ar unwaith i’r economi yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Yn ogystal â hyn, byddwn yn sicrhau bod holl raglenni a buddsoddiadau SCIF yn cynnwys cyfeiriadau ehangach tuag at fanteision i’r gymuned ac/neu ofynion cymdeithasol fel a amlinellir ym Mholisi Caffael Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

Ar wahân i’r prosiect i baratoi ar gyfer y ffliw pandemig, ni wnaethpwyd dyraniadau penodol i brosiectau unigol ar hyn o bryd, ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y dyraniadau adrannol yn y Gyllideb Derfynol.  Mae cael eu cynnwys yn y tranche cyntaf yn golygu y bydd yn bosibl bwrw ymlaen â’r prosiectau yn gyflym hyd at achos busnes llawn.  Bydd dyraniadau i brosiectau ac adrannau yn cael eu gwneud o ganlyniad i arfarnu a chymeradwyo yr achosion busnes llawn, a’u ffurfioli trwy Gyllidebau Atodol ar yr amser priodol.  

Bydd cyhoeddi tranche cyntaf y prosiectau sydd i gael eu datblygu o fewn y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol yn garreg filltir o bwys, gan roi manteision i bobl ledled Cymru.  Bydd cyhoeddiadau yn cael eu gwneud maes o law ar tranches yn y dyfodol.  

Yn dilyn y cyhoeddiadau ar y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol, rwyf hefyd yn rhoi manylion y gyfres gyntaf o brosiectau sy’n cael cynnig cyllid gan y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu’r Gronfa hon i ddarparu cyllid cyfatebol canolog, pan fetha popeth arall, i brosiectau sy’n ceisio cael cymorth gan Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-13.  Yn ogystal â rhoi cymorth i brosiectau o’r rhaglenni diwethaf, rwyf wedi paratoi’r cynigion canlynol o ran cyllid, cyfanswm o dros £23 miliwn, i brosiectau newydd:

  • £10 miliwn i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer dau brosiect a fydd o gymorth i bobl symud o sefyllfa o anweithgarwch economaidd i gyflogaeth;
  • £5 miliwn i gefnogi grwpiau cymunedol, sefydliadau’r sector gwirfoddol a mentrau cymdeithasol fynd i’r afael â’r gyfran sylweddol o’r boblogaeth sydd heb fynediad i dechnoleg newydd;  
  • £4. 2miliwn i Chwarae Teg i gefnogi prosiect newydd a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb y rhywiau yn y gweithle ledled Cymru; 
  • £2.6 miliwn i Ganolfan Gydweithredol Cymru i gynorthwyo gyda phrosiect a fydd yn helpu i greu mentrau cymdeithasol mwy cynaliadwy ledled Cymru;
  • £1.1 miliwn i Ganolfan Rhagoriaeth Bwyd Fferm Furnace yn Nyffryn Conwy, i ddatblygu cyfleuster i arddangos bwyd o Gymru; a  
  • £0.6 miliwn i Ganolfan Iaith Gymraeg Nant Gwrtheyrn yng Ngwynedd i gynorthwyo gyda phrosiect i ddiweddaru cyfleusterau dysgu preswyl.  

Trwy ganolbwyntio ar brosiectau sylweddol ac arloesol, rwy’n hyderus y bydd y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir o gymorth i alluogi Cronfeydd Strwythurol y DU i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ledled Cymru.  

Ffrwyth yw’r Gyllideb Derfynol a’r cyhoeddiadau cysylltiedig a wnaethpwyd heddiw rhai penderfyniadau anodd, gan adlewyrchu’r cyfnod heriol yr ydym ynddo ar hyn o bryd.  Ond bydd y Gyllideb Derfynol yn rhoi’r buddsoddiad y mae ei angen i barhau i weithredu agenda uchelgeisiol a blaengar Cymru’n Un, gan ganolbwyntio ar wella iechyd pobl Cymru; mynd i’r afael â thlodi; bodloni anghenion ym maes tai; gwella gwasanaethau cyhoeddus; cynyddu cyflogaeth a gwella sgiliau; ac adfywio cymunedau difreintiedig.  Bydd hefyd yn cefnogi’r amcanion ar y cyd y cytunwyd arnynt yn yr Uwchgynadleddau Economaidd, gan gynorthwyo pobl a chwmnïau trwy’r amodau anodd sy’n codi o ganlyniad i’r dirywiad byd-eang.  

Bydd ein dull o weithio yn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i ddefnyddio ein hadnoddau mewn dull strategol, llawn dychymyg, a’n bod yn manteisio i’r eithaf ar bob punt o Gymru i helpu pobl lle y mae yr angen mwyaf.