Skip to content

Ysgrifenedig - Lansio Ail Gynllun Gweithredu Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad ar Gyfer 2008 - 2011

Dolenni perthnasol

Ar 17 Hydref 2008 cyhoeddwyd ail Gynllun Gweithredu er mwyn cyflawni'r Strategaeth Amgylcheddol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddaf yfory, ddydd Gwener 17 Hydref 2008, yn lansio’n ffurfiol ail Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Amgylcheddol.

Mae’r ail Gynllun Gweithredu hwn yn adeiladu ar y gwaith sylweddol a wnaed eisoes i ddatblygu Strategaeth Amgylcheddol Cymru ers iddi gael ei lansio ym mis Mai 2006, a hynny ar sail Cynllun Gweithredu cyntaf y Strategaeth Amgylcheddol, yn ogystal â rhwymedigaethau, polisïau a rhaglenni deddfwriaethol. Mae ein hymrwymiadau yn nogfen ‘’Cymru’n Un’’ yn pennu agenda newydd ar gyfer y Llywodraeth a fydd yn arwain at gymryd camau eglur mewn perthynas â’r amgylchedd.

Rydym yn mynd i’r cyfeiriad cywir mewn nifer o feysydd, ond rhaid i ni wneud mwy. Mae heriau enfawr yn ein hwynebu ni i gyd, ac mae’r rhain yn gofyn am weithio mewn ffordd ymrwymedig ac unedig ar draws pob sector, ac nid ledled Llywodraeth yn unig.

Dyna pam y mae’r ail Gynllun Gweithredu wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n pennu’r cynnydd y bwriedir ei wneud yn achos gwaith sy’n hanfodol i gyflenwi’r Strategaeth Amgylcheddol. Rydym wedi ceisio osgoi materion yr ymdrinnir â nhw gan waith cyfochrog, er enghraifft, yn achos y newid yn yr hinsawdd a gwastraff, neu sy’n cael eu datblygu trwy waith statudol parhaus.

Mae’r Cynllun Gweithredu, a ddatblygwyd yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus, yn canolbwyntio ar ddeg thema, gan gynnwys bioamrywiaeth, materion morol, mynediad a hamdden, a gwasanaethau ecosystemau. Ymysg y themâu eraill ceir meysydd allweddol ‘partneriaeth’ a ‘pobl a’r amgylchedd’. Mae’r themâu hyn oll yn flaenoriaethau allweddol o dan y Strategaeth Amgylcheddol, ac maent yn pennu dull strategol a rhaglen dreigl eglur o weithgareddau a fydd yn ein cynorthwyo i weithredu a chynnwys rhanddeiliaid. Mae nifer o gamau o dan bob thema sy’n nodi’r hyn a wneir i gyflenwi canlyniadau’r Strategaeth. Datblygwyd y camau hyn trwy gydweithio ag ystod eang o bartneriaid, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac i’m Grŵp Cyfeirio Strategaeth Amgylcheddol am gynnig eu harbenigedd annibynnol amhrisiadwy.

Hoffwn bwysleisio bod y Cynllun Gweithredu hwn yn ategu yn hytrach nag yn disodli Cynllun Gweithredu cyntaf y Strategaeth Amgylcheddol, ac y byddwn yn parhau i adrodd ar y cynllun gwreiddiol hwn.