Skip to content

Ysgrifenedig - Rheoli Gwastraff Cynaliadwy yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Yr wyf heddiw’n cyhoeddi rhagor o fuddsoddi sylweddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng ngwella rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Yn 2008/09 bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dyrannu £50 miliwn i awdurdodau lleol trwy’r cymhorthdal rheoli gwastraff cynaliadwy, sef cynnydd o £15 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.

Dengys gwybodaeth archwiliedig a ryddhawyd ar gyfer 2007-08 fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi defnyddio’r cymhorthdal rheoli gwastraff cynaliadwy a ddarparwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i gyrraedd nod ailgylchu a chompostio o 33% (fel y’i mesurwyd gan Ddangosyddion Perfformiad LlCC ar gyfer hanner cyntaf 2007-08). Bydd y buddsoddiad sylweddol yng ngwariant awdurdodau lleol a gyhoeddir yn awr yn eu cefnogi wrth iddynt symud tua nodau strategaeth gwastraff Cymru, sef ailgylchu a chompostio 40% erbyn 2010.

Fel ym mlynyddoedd blaenorol, bydd pob awdurdod lleol yn derbyn dyraniad o gymhorthdal rheoli gwastraff cynaliadwy, ar sail ei anghenion gwario deilliedig o’r Asesiad Gwario Safonol. Disgwyliaf, fodd bynnag, i bob awdurdod lleol ddarparu manylion sut y bwriada ddefnyddio’r adnoddau hyn er mwyn sicrhau defnyddio’r arian yn llwyr.