Skip to content

Ysgrifenedig - Gweinyddwyr Alphasteel yn cyhoeddi eu bod wedi cwblhau’r broses o werthu i Libala Ltd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Rwy'n cyflwyno datganiad ysgrifenedig er mwyn hysbysu'r Aelodau ynghylch y newyddion diweddaraf o ran Gwaith Alphasteel yng Nghasnewydd, Gwent, a roddwyd yn nwylo'r gweinyddwyr ar 20 Rhagfyr 2007.

Ar 16 Gorffennaf cyhoeddodd Begbies Traynor, sef Gweinyddwyr Alphasteel, eu bod wedi cwblhau'r gwaith o werthu Gwaith Casnewydd a rhai o'i asedau i Libala Ltd. Cwmni sy'n gysylltiedig â Mirinvest ydyw, sef busnes buddsoddi sydd â buddiannau mewn nifer o weithfeydd dur.

Rwy'n si?r y bydd y bobl â budd yng Ngwaith Alphasteel ac y mae'r gwaith yn effeithio arnynt yn falch iawn o glywed sylwadau'r Gweinyddwyr, sef y dylai gwerthu'r safle ddiogelu dyfodol Gwaith Casnewydd. 

Mewn datganiadau blaenorol i Aelodau'r Cynulliad ynghylch y mater hwn amlinellais yr holl bosibiliadau y gall Gwaith Alphasteel eu cynnig. Rydym yn edrych ymlaen yn awr at drafod â Libala Ltd eu cynlluniau ynghylch dyfodol y busnes.