Skip to content

Ysgrifenedig - Alphasteel – Cyhoeddiad gan y Gweinyddwyr ynghylch y Cynigiwr a Ffefrir

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwy’n cyhoeddi’r datganiad ysgrifenedig hwn er mwyn hysbysu’r Aelodau ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o ran Gwaith Alphasteel yng Nghasnewydd, Gwent, a roddwyd yn nwylo’r gweinyddwyr ar 20 Rhagfyr 2007.

Mae Cyd Weinyddwyr Alphasteel wedi cyhoeddi Datganiad i’r Wasg heddiw yn cyhoeddi bod telerau wedi’u cymeradwyo ar gyfer y bwriad i werthu Gwaith Alphasteel a rhai o’i asedau i Libala Ltd, cwmni sy’n gysylltiedig â Mirinvest, sef busnes buddsoddi sydd â buddiannau mewn nifer o weithfeydd dur. Rwy’n falch iawn fod Libala wedi nodi ei fwriad i ailddechrau’r gwaith cynhyrchu yng Ngwaith Casnewydd maes o law.

Dyma newyddion cadarnhaol iawn i bawb sy’n gysylltiedig â Gwaith Alphasteel. Pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Rhagfyr 2007 roedd yn cyflogi tua 380 o bobl ac yn fy Natganiad Llafar i’r Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr nodais y byddwn yn gwneud popeth posibl i helpu i sicrhau bod y gwaith a’r swyddi yng Ngwaith Casnewydd yn ailddechrau. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â phawb perthnasol er mwyn helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Ar ôl i’r broses gaffael gael ei chwblhau, byddaf i a Phrif Weinidog Cymru yn galw cyfarfod brys gyda pherchnogion newydd Alphasteel fel y gallwn drafod eu cynigion ynghylch dyfodol y gwaith.