Skip to content

Ysgrifenedig - Y Diweddaraf am Glefyd y Tafod Glas

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig
Ddydd Mercher, 13 Chwefror 2008, cyhoeddodd Defra fod achos newydd o’r Tafod Glas wedi’i ganfod ar fferm yn Poole, Dorset ar ôl i brawf am y Tafod Glas gael ei gynnal ar anifail cyn iddo gael ei symud. Gan fod yr anifail wedi’i eni ar y fferm o dan sylw, daethpwyd i’r casgliad mai ar y safle hwnnw y cafodd ei heintio.

Mewn ymateb i’r achos yn Poole, sefydlodd Defra Barth Gwarchod a oedd yn cynnwys Dorset i gyd. Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd a deddfwriaeth ddomestig, roedd yn ofynnol sefydlu Parth Gwyliadwriaeth 150 km o amgylch y safle lle canfuwyd yr haint. Roedd radiws 150 km y Parth Gwyliadwriaeth yn cynnwys rhan o dde-ddwyrain Cymru. Roedd yn ofynnol dynodi’r rhan o Gymru yr effeithiwyd arni yn Barth dan Gyfyngiadau. (Nid yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu defnyddio’r term "Parth Gwyliadwriaeth"” yn yr achos hwn gan nad yw’r haint yn bresennol yng Nghymru, er, yn ymarferol, yr un fydd y cyfyngiadau). Cytunais y dylai’r Parth y datganwyd ei fod dan Gyfyngiadau gwmpasu’r ardal leiaf yr oedd ei hangen o ystyried y byddai’n ofynnol i’r cyfyngiadau fod yn eu lle am o leiaf 2 flynedd er mwyn dangos nad yw’r clefyd yn dal i fod ar led yn yr ardal yr effeithiwyd arni. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid allweddol ac â Phartneriaid Gweithredol am faint a siâp y Parth yng Nghymru. Mae’r parth yn cynnwys llawer o dde a chanolbarth Cymru, gan gynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Mynwy, Tor-faen, Caerffili, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a de Powys. Mae’r ardal yn estyn i’r gogledd cyn belled â llinell sy’n cynnwys yr A438, yr A470 (i’r de o Aberhonddu), yr A4059 a’r A465.

Bydd bod mewn Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru yn effeithio ar berchenogion da byw. Caniateir symud anifeiliaid rhwng y Parth Gwyliadwriaeth yn Lloegr a’r Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru ac i’r gwrthwyneb. Dichon y bydd hyn o gymorth o ran y gallu i fasnachu, ond bydd yn golygu hefyd fod mwy o risg i’r clefyd ledaenu o ardaloedd sy’n agos i’r mannau yn Lloegr lle mae’r clefyd yn bresennol. Ni chaniateir symud anifeiliaid o’r Parth dan Gyfyngiadau i’r Ardal Ddiglefyd yng Nghymru, Lloegr na’r Alban ac eithrio yn ystod y Cyfnod heb Fector, sef y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd, ac oni bai y cynhelir profion priodol arnynt cyn eu symud neu oni bai yr eir â hwy yn syth i’w cigydda mewn lladd-dy awdurdodedig.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd â’r diwydiant, yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n gyson, a chaiff y Parth dan Gyfyngiadau ei adolygu yn ôl y gofyn.

Byddwch yn gwybod hefyd fod dafad yn Llandysul, Ceredigion, sef un o ddiadell o 14 a symudwyd o’r Iseldiroedd, wedi profi’n bositif am y Tafod Glas. Roedd y profion a gynhaliwyd ar y 13 anifail arall i gyd yn negyddol. Canfuwyd y clefyd drwy’r profion rheolaidd arferol a gynhelir gan y gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid ar ôl i anifeiliaid gael eu symud. Mae’r anifail o dan sylw wedi’i ladd. O dan yr amgylchiadau hyn, nid oes unrhyw iawndal yn daladwy i’r ffermwr am fod yr anifail wedi dod i gysylltiad â’r feirws mewn gwlad arall. Gwaredwyd yr anifail gan y Cwmni Stoc Trig Cenedlaethol.

Nid yw canlyniadau’r profion a gynhaliwyd gan yr awdurdodau yn yr Iseldiroedd ar gael hyd yma. Mae’r gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid yn ymchwilio i’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â mewnforio’r anifail hwn.

Mae 203 o wartheg a thua 200 o ddefaid Texel ar y fferm yn Llandysul. Mae’r safle wedi’i roi o dan gyfyngiadau ac fel rhan o’r ymchwiliad, caiff profion pellach eu cynnal ar yr anifeiliaid sy’n weddill, ac fe’u cedwir dan wyliadwriaeth.

Rydym yn ymdrin â’r achos hwn fel un achos ar ei ben ei hun, ac ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y clefyd ar led yng Nghymru o ganlyniad i’r achos hwn. O’r herwydd, rydym yn medru datgan o hyd bod Cymru’n dal i fod yn rhydd o’r Tafod Glas. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau gan fod y clefyd yn dal i fod yn gryn fygythiad. Mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus, a hoffwn ofyn unwaith eto i ddiwydiant da byw Cymru a oes gwir angen iddo ddod ag anifeiliaid o ardaloedd sydd wedi’u heintio â’r Tafod Glas.