Skip to content

Ysgrifenedig - Dod â Gwariant Cyfalaf Ymlaen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Ar 2 Rhagfyr cyhoeddais Gyllideb Derfynol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2009/10 a chyhoeddais yr haen gyntaf o brosiectau i'w datblygu o dan y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF).

Bryd hynny, amlinellais hefyd fwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddod â gwariant cyfalaf ymlaen i gefnogi economi Cymru yn y cyfnod anodd hwn, a dywedais y byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn yr Uwch-gynhadledd Economaidd heddiw.

Yn unol â hyn, rwyf heddiw'n cyhoeddi bwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddod â gwariant cyfalaf o £23 miliwn ymlaen ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon. Caiff yr arian ei ganolbwyntio ar gynigion buddsoddi sy'n creu swyddi. Mae hyn yn cyd-fynd â'n trafodaethau â'n partneriaid yn Uwch-gynadleddau Economaidd Cymru Gyfan. Cynigir fod y gwariant cyfalaf ychwanegol eleni yn cynnwys: 

  • £9 miliwn o'r rhaglenni gwaith cyfalaf bach ac adfywio a gynhelir gan Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Addysg Bellach a Sefydliadau Addysg Uwch i'w ddefnyddio ar brosiectau i wella'r adeiladau addysgu ysgolion, colegau a phrifysgolion. Bydd hyn hefyd yn eu galluogi i gwblhau unrhyw waith cynnal a chadw sy'n aros i'w wneud ar gyfer 2009-10 yn gynt; 
  • £10 miliwn o'r Grant Tai Cymdeithasol i'w ddefnyddio i sbarduno rhaglenni tai cymdeithasol i helpu i leihau effeithiau'r wasgfa gredyd yn y sector adeiladu, yn ogystal â bodloni'r angen am dai a gweithio i fodloni ymrwymiad Cymru'n Un i godi 6,500 o dai fforddiadwy. Bydd £2m ar gael i addasiadau ffisegol i dai ar gyfer pobl sy'n agored i niwed;
  • £2 miliwn ar gyfer gwaith pellach ar raglen economi carbon isel Blaenau'r Cymoedd.

Caiff y buddsoddiad hwn ei ariannu drwy danwariant yn y flwyddyn ariannol gyfredol, ynghyd â dod ag adnoddau ymlaen o'r blynyddoedd nesaf. Caiff y newidiadau cyllidebol angenrheidiol ar gyfer 2008/09 eu gweithredu drwy Gyllideb Atodol.

Mae'r gwariant cyfalaf a gyhoeddir heddiw yn dod ar ben buddsoddiad o oddeutu £50 miliwn a ddisgwylir yn y flwyddyn ariannol hon o'r SCIF. Bydd oddeutu £30 miliwn o hyn yn cael effaith economaidd uniongyrchol yn 2008/09 drwy brosiectau i godi tai fforddiadwy, buddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion a rhaglenni cyfalaf eraill.

Bydd yr ystod o fesurau y darperir ar eu cyfer yn y Gyllideb Derfynol, y buddsoddiad sy'n deillio o'r SCIF, a'r cyhoeddiad heddiw ar ddod â gwariant cyfalaf ymlaen, yn rhoi mwy o arian i economi Cymru ac yn fodd o helpu pobl a chwmnïau drwy'r amgylchiadau economaidd yn sgil y dirywiad byd-eang.  Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio mewn partneriaeth – yn unol â'r nodau cyffredinol y cytunwyd arnynt mewn Uwch-gynadleddau Economaidd blaenorol – i fanteisio i'r eithaf ar bob punt Gymreig, ac felly helpu pobl lle mae'r angen mwyaf.