Skip to content

Ysgrifenedig - Clostridium difficile

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae nifer o Aelodau’r Cynulliad wedi mynegi pryder yn ddiweddar am Clostridium difficile (C.difficile) yn GIG Cymru. Sbardunwyd hyn gan y rhaglen Week in Week Out a’r newyddion bod C.difficile yn uniongyrchol gyfrifol am farwolaeth tri o gleifion yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr yn ystod mis Ebrill.

Hoffwn eich sicrhau fy mod yn cymryd y mater hwn o ddifrif a bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i fynd i’r afael â C.difficile a hynny fel agwedd ganolog ar ein strategaeth ehangach yn erbyn pob Haint sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd. Mae gennym eisoes ystod o fentrau sydd ar waith neu sydd wrthi’n cael eu datblygu a fydd o gymorth i ni yn y frwydr honno. Amgaeaf grynodeb o’r rhain yn yr atodiad i’r llythyr hwn. Sylwch ein bod bob amser wedi casglu data labordy ar gyfer grŵp y rheini sydd dan 65 mlwydd oed ond bod hwn yn wahanol iawn i’n system arolygu orfodol ar gyfer y rheini sydd dros 65 mlwydd oed. Byddwn yn ehangu’r system oruchwylio hon a’i dull o adrodd i gynnwys y rheini sydd dros 2 flwydd oed yn y dyfodol.

Fis Hydref y llynedd, bydd yr aelodau’n cofio, i mi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried ail-rymuso prif nyrsys wardiau yn GIG Cymru ac i ddatblygu cynllun i sicrhau bod yr awdurdod, yr wybodaeth a’r sgiliau i wella’r amgylchedd a safonau gofal mewn ysbytai. Caiff yr adroddiad, sy’n cynnwys 35 o argymhellion ar agweddau fel glanhau amgylchedd wardiau ac atebolrwydd a chyfrifoldeb am lanhau, ei lansio’n swyddogol ar 26 Mehefin. Yn ogystal, byddaf yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol ar Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd ar 19 Mehefin.

O ran Ysbyty Tywysog Siarl, mae uwch swyddogion Adran y Prif Swyddog Meddygol wedi’u bodloni i’r Ymddiriedolaeth ymateb yn gyflym i reoli’r lledaeniad o’r haint. Bellach mae angen i mi fod yn sicr i’r Ymddiriedolaeth roi mesurau ar waith i leihau’r perygl o heintio pellach, a phan fydd achosion o heintiau, bod mesurau yn eu lle i atal yr haint rhag lledu. I’r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal adolygiad annibynnol ar unwaith o’r pryderon a godwyd ynghylch nifer yr achosion o C.difficile yn Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr.

Wrth reswm mae’r cyhoedd yn poeni am heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ond hoffwn eu sicrhau bod gennym y polisïau a’r canllawiau yn eu lle ar sail y dystiolaeth orau. Rwyf wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal rhaglen o adolygiadau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf sy’n canolbwyntio ar faint o lwyddiant y mae pob Ymddiriedolaeth yn ei gael wrth ymdrin â C.difficile. Bydd hefyd yn parhau i gynnal gwiriadau dirybudd yn y fan a’r lle ac yn ymchwilio ymhellach i bryderon sydd wedi eu nodi. Caiff Arolygiaeth Iechyd Cymru ei chynorthwyo yn hyn o beth gan staff y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ac Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Proffesiynau Iechyd.