Skip to content

Ysgrifenedig - Papur Gwyn Cyfrifiad 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i’r Aelodau fod Papur Gwyn Cyfrifiad 2011 ‘Helpu i lunio’r dyfodol’ wedi cael ei gyhoeddi heddiw, 11 Rhagfyr 2008. Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys cynigion Awdurdod Ystadegau’r DU ar gyfer Cyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n cael ei gyhoeddi’n ddwyieithog am y tro cyntaf.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys gwybodaeth am gynnwys arfaethedig holiadur Cyfrifiad 2011.  Yr wyf, yn enwedig, yn croesawu’r cynigion i ofyn cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol am y tro cyntaf.  Bydd hyn yn gyfle i bobl nodi eu hunaniaeth Gymreig yn ymyl eu tras ethnig.

Mae cwestiynau newydd ar y gweill gyda’r nod o wella’r dull o fesur y lefelau mudo yn enwedig patrymau mudo economaidd byr dymor.  Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth am ddinasyddiaeth ac, ar gyfer y rhai hynny a anwyd y tu allan i’r DU, y dyddiad y daethant i’r DU ac am ba hyn y maent yn bwriadu aros.  Mae cwestiynau newydd ar y gweill hefyd am ail gartrefi er mwyn cael gwell dealltwriaeth o grwpiau o bobl mwy symudol.

Caiff holiaduron y Cyfrifiad eu postio i’r mwyafrif (tua 95 y cant) o gartrefi a bydd y cyfrifwyr yn dosbarthu’r gweddill â llaw.  Yr wyf yn croesawu’r cynigion i sicrhau y bydd pob cartref yng Nghymru yn cael copi Saesneg a Chymraeg o’r holiadur.  Mae datblygu a phrofi’r holiadur Cymraeg law yn llaw â’r fersiwn Saesneg am y tro cyntaf hefyd yn gam pwysig ymlaen.

Hefyd, bydd deiliaid cartrefi yn medru dychwelyd eu ffurflen ar-lein, drwy gysylltiad Rhyngrwyd diogel am y tro cyntaf.

Bydd Gweinidogion Cymru, yn unol â’r swyddogaethau a drosglwyddwyd yn ddiweddar, yn gyfrifol am wneud Rheoliadau’r Cyfrifiad yng Nghymru yn 2010.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau fod Rheoliadau’r Cyfrifiad yng Nghymru yn cael eu paratoi a’u datblygu ar y cyd â Rheoliadau Lloegr.  Hefyd, ymgynghorir â Gweinidogion Cymru ar Orchymyn y Cyfrifiad yn ystod 2009.

Mae’r Papur Gwyn wedi cael ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae ar gael yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm

Mae’r Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi nawr er mwyn medru cael trafodaeth gyhoeddus am y cynigion ar gyfer cynnwys Cyfrifiad 2011 a’r modd y caiff ei weithredu, oherwydd bydd yn effeithio ar bob person a chartref yn y wlad.