Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig y Cabinet: Dlodi Plant

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. 20 Chwefror 2008.

Rhagarweiniad

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwrw ymlaen ag agenda drawsbynciol ar gyfer gwella bywydau plant a phobl ifanc, agenda sy’n seiliedig ar waith partneriaeth ac ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’n ofynnol i’n holl bolisïau a’n rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc gyfrannu at saith nod craidd sy’n crynhoi’r hawliau hyn. Nod Craidd 7 yw ein bod yn sicrhau na fydd plant a phobl ifanc yng Nghymru dan anfantais oherwydd tlodi.

Mae dileu tlodi a gwella’r cyfle a gaiff ein plant mewn bywyd ar frig rhestr o flaenoriaethau Cabinet Llywodraeth y Cynulliad ac yn flaenoriaeth i minnau yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Mae mynd i’r afael â’r holl fathau o dlodi plant yn waith cymhleth a thrawsbynciol. I’w gyflawni mae angen gweithio’n dda mewn partneriaethau allanol, gyda Llywodraeth y DU a gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal ag o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hun.

Targedau Llywodraeth y DU yw haneru tlodi plant erbyn 2010/11 a’i ddileu erbyn 2020. Cymerwyd camau breision yn hyn o beth gan fod 600,000 yn llai o blant yn byw mewn tlodi cymharol yn y DU yn 2005/06 nag yn 1998/99. Bydd y pecyn o ddiwygiadau i’r system dreth a budd-daliadau personol a amlinellwyd yng Nghyllideb y DU yn 2007 yn helpu i godi 200,000 o blant eraill o dlodi erbyn 2008/9. Hefyd, bydd y mesurau a amlinellwyd yn PBR/CSR mis Hydref 2007 yn golygu y bydd nifer y plant mewn tlodi yn gostwng 100,000 arall.

Er bod nifer sylweddol o’r dulliau allweddol o fodloni’r targedau tlodi plant yn gyfyngedig i San Steffan, rwy’n benderfynol bod Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gyrraedd ein hamcanion tlodi plant ar y cyd, fel y gallwn barhau i wneud cyfraniad sylweddol i wella’r cyfleoedd a gaiff ein plant mwyaf difreintiedig mewn bywyd, ac adeiladu fwy fyth ar hynny.

Yr Hyn a Wnaed Hyd Yma

Dengys tystiolaeth ein bod wedi cymryd camau breision yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r cyfraddau tlodi ar gyfer plant wedi gostwng i lefel sy’n is na chyfartaledd Prydain Fawr am y tro cyntaf. O’r dadansoddiad o ystadegau budd-daliadau plant gwelwn fod nifer y plant mewn cartrefi sydd ag incwm sy’n is na 60 y cant o ganolrif incwm 1998/99 (ar ôl costau tai), a arhosodd yn gyson mewn termau real, wedi gostwng tua 100,000 yng Nghymru rhwng 1989 a 2006. Ond nid dyma’r amser i laesu dwylo. Mae 28% o blant Cymru yn dal yn byw mewn cartrefi sydd ag incwm o dan 60 y cant o’r canolrif ac rydym yn gwybod na symudwyd ymlaen gystal yn ddiweddar.


Cafodd polisi Llywodraeth y Cynulliad yn y maes hwn ei lunio yn y blynyddoedd diweddar gan adroddiad y Grŵp Gorchwyl annibynnol ar Dlodi Plant ym mis Mehefin 2004; ein Strategaeth Tlodi Plant, ‘Dyfodol Teg i’n Plant’, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2005 a chan y cynigion yn y Cynllun Cyflawni ar Dlodi Plant, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006. Aethpwyd i’r afael â nifer o’r cynigion. Yn eu plith roedd cyhoeddi cerrig milltir trawsbynciol a thargedau penodol ar dlodi plant, prawfesur polisïau a rhaglenni strategol o ran eu heffaith ar dlodi plant ac adolygu rôl y rhaglen grant Cymorth. Cafodd cynigion eraill eu cynnwys yn ein cytundeb ‘Cymru’n Un’ ac mae’r gwaith yn dal ar y gweill.

Yr wyf i a’m cydweithwyr yn y Cabinet yn llwyr sylweddoli bod angen parhau i adeiladu ar ein hymdrechion yng Nghymru. Yr ydym eisoes wedi sicrhau bod gan Lywodraeth y Cynulliad amrywiaeth o raglenni a pholisïau a anelwyd at fynd i’r afael â thlodi ymysg plant ac mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn parhau’n nodwedd gref o’r drydedd Lywodraeth hon. Serch hynny mae angen i ni wneud yn siŵr bod y polisïau hyn yn gweithio a’u bod yn cael eu prawfesur i gyflawni’r gwelliannau ychwanegol sydd eu hangen.

Cyfeiriad yn y Dyfodol

Bydd gweithredu yn y dyfodol yn canolbwyntio ar dri maes:

  • Maes 1 - Gwella’r cyfleoedd a gaiff plant difreintiedig mewn bywyd;
  • Maes 2 - Mentrau cynhwysiant ariannol; a
  • Maes 3 - Annog mwy i fanteisio ar gymorth Llywodraeth y DU o ran trethi a budd-daliadau.

Maes 1 - Gwella'r Cyfleoedd a Gaiff Plant Difreintiedig Mewn Bywyd

Wrth fynd i’r afael â thlodi ymysg plant yr ydym yn cydnabod mai pur anaml y mae plant a phobl ifanc yn ddifreintiedig mewn dim ond un o’u profiadau mewn bywyd. I roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed rhaid i ni fedru adnabod y rhai sydd dan yr anfantais fwyaf ac ymyrryd yn effeithiol ac yn gynnar yn eu bywydau i hyrwyddo’u cyfleoedd ac i liniaru’r rhwystrau i fywyd gwell.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i ddefnyddio popeth sydd ganddi i fynd i’r afael â thlodi plant. Gan ddefnyddio’n pwerau newydd yr ydym eisoes wedi dechrau’r broses o ddiwygio’r gyfraith mewn perthynas â phlant agored i niwed yng Nghymru, gan gynnwys gweithredu ar dlodi plant.

Yn y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2007, gosodwyd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol oedd yn rhoi grym i’r ymrwymiad uchod. Bydd y Gorchymyn yn anelu at ganiatáu i’r Cynulliad gael pwerau eang i wneud Mesurau ar draws ystod eang o les cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd yn rhoi pwerau i ni symud ymlaen â rhai o’n camau cynharaf i fynd i’r afael â thlodi plant ac i ddod â mwy o atebolrwydd ar lefel genedlaethol a lleol i’r agenda hon, gan adeiladu ar y rhaglenni gwrth-dlodi presennol fel Dechrau’n Deg, Cymorth a Chymunedau yn Gyntaf. Bydd y Gorchymyn hefyd yn gyfle i Lywodraeth y Cynulliad symleiddio ac atgyfnerthu’r gyfraith ac i gynnig polisïau cydlynus sy’n addas i Gymru ar gyfer plant mewn gofal, y rhai sy’n ymadael â gofal a phlant eraill sy’n byw mewn teuluoedd agored i niwed.

Mae tystiolaeth yn dangos bod nifer fawr o blant mewn gofal yn dod o deuluoedd difreintiedig sydd ag anghenion cymhleth a lle mae tlodi yn aml iawn yn un o’r ffactorau sy’n achosi anfantais. Gan adeiladu ar y rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf byddwn yn ymgynghori yn nes ymlaen yr haf hwn ar strategaeth ar gyfer plant agored i niwed i roi mwy o gymorth i blant a theuluoedd agored i niwed fel y gall y plant hynny fyw mewn diogelwch yn eu cartrefi a mwynhau iechyd da.

Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg

Anelwyd ein menter ‘Dechrau’n Deg’ at y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan gydnabod y dystiolaeth bod plant mewn ardaloedd lle mae sawl math o anfantais yn dioddef o effeithiau ychwanegol. Mae’n adeiladu ar y gwaith gwerthfawr a wnaed o dan thema Cychwyn Cadarn y cynllun grant Cymorth ac mae’n ategu’r gwaith hwnnw. Mae £31 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer Dechrau’n Deg yn 2007-08. Mae’r Gyllideb yn darparu ar gyfer cynnydd o 10% yng nghwmpas y rhaglen dros y 3 blynedd nesaf. Golyga hyn y bydd 1,600 yn ychwanegol o blant yn cael mantais o’r rhaglen - sef cyfanswm o 17,600 o blant.

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol am ymyriadau sy’n rhoi hwb i blant gael gwell canlyniadau yn y tymor hir ac mae’n cynnwys gofal plant di-dâl o safon uchel, mwy o ymweliadau iechyd, a rhaglenni rhianta. Ar hyn o bryd, anelir y rhaglen at nifer fach o ddalgylchoedd ysgolion. Cyfyngwyd nifer y dalgylchoedd yn bwrpasol er mwyn medru buddsoddi’n ddwys ond mae’n bosibl y caiff y rhaglen ei hehangu yn y dyfodol pan fydd wedi’i gwerthuso.

O fis Medi ymlaen byddwn yn cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen sy’n cydnabod bod pob plentyn yn wahanol a’i bod yn hollbwysig bod y cyfleoedd a roddir iddynt yn meithrin agwedd gadarnhaol tuag at addysg. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn annog plant i ddod yn hunanddibynnol, i fwynhau her ac i feithrin agwedd gadarnhaol at ddysgu. Mae’n golygu datblygu dyheadau, cymhellion a sgiliau cymdeithasol plant. Yn y dyfodol bydd y Cyfnod Sylfaen yn arwain at ostwng dadrithiad a chefnogi’r plant hynny sy’n wynebu anfantais a phrinder cyfle.
Mae codi lefelau cyrhaeddiad addysg, yn enwedig lleihau’r bwlch rhwng cyflawniad plant sy’n dod o deuluoedd incwm isel a’u cyfoedion, yn rhan sylfaenol o’r frwydr i fynd i’r afael â thlodi plant ac i leihau effeithiau’r anfantais. Mae rhaglen Rhagori wedi’i thargedu’n benodol at ddisgyblion difreintiedig er mwyn codi’r lefelau cyflawni. Neilltuwyd £16 miliwn i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng amddifadedd cymdeithasol a thangyflawniad yng Nghymru ym mlynyddoedd 2006/07 a 2007/08, ill dwy. Mae £14.6 miliwn o hwn wedi’i ddyrannu i ysgolion bob blwyddyn a neilltuwyd £1 miliwn i gefnogi addysg Plant sy’n Derbyn Gofal.

Cyflwynwyd ein rhaglen brecwastau am ddim yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf fel mantais ychwanegol i’n plant mwyaf difreintiedig, ac erbyn hyn mae ar gael i bob ysgol sy’n awyddus i gymryd rhan.

Mae darparu cymorth i blant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn hanfodol. Cyfanswm y gwariant ar y ddarpariaeth AAA gan Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) y cyllidebwyd ar ei gyfer yn 2007-08 yw £307 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 6.5% ar gyllideb y llynedd. Gan gydnabod y cynnydd yn y costau o ddarparu ar gyfer anghenion cymhleth plant ag AAA neilltuwyd £7.7 miliwn arall yn setliad llywodraeth leol eleni. Mae £1.7 miliwn o hwnnw yn benodol ar gyfer darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant ag awtistiaeth. Hefyd, darparwyd cymorth ychwanegol sylweddol i Awdurdodau Lleol drwy nifer o gynlluniau grant penodol y gellir eu defnyddio i gefnogi disgyblion ag AAA a grwpiau dan anfantais.

Yn hytrach na rhoi gorfodaeth ar bobl ifanc dros 16 oed gymryd rhan mewn addysg, ein gweledigaeth, fel y nodir yn Cymru’n Un, yw gweddnewid y ddarpariaeth ddysgu ar gyfer pobl ifanc drwy gynnig opsiynau dysgu deniadol a hyblyg sy’n cael eu hategu gan gymorth a chyfarwyddyd. Bydd ein Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008, os caiff ei wneud yn ddeddf, yn gwneud hyn yn hawl gyfreithlon ar gyfer pob dysgwr. Drwy gynyddu nifer ac ansawdd yr opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc credwn y byddant yn awyddus i barhau i gymryd rhan mewn dysgu a hyfforddi ac y byddant yn gweld gwerth mewn gwneud hynny.

I ategu Llwybrau Dysgu 14-19 mae arnom hefyd angen cyfres gryfach o rwymedigaethau ar ddarparwyr. Mae ein Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008 yn cynnig rhoi dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach i gydweithredu i gyflawni dewislen o opsiynau lleol ar gyfer pobl leol.

Cyn bo hir byddwn hefyd yn cyflwyno dogfen ymgynghori sydd â’r nod o leihau’r gyfran o bobl ifanc y tu allan i’r system – y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Dyma’r cyntaf mewn cyfres o bapurau thematig sy’n gwneud cynigion i fynd i’r afael â materion a glustnodwyd yn Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru – ein strategaeth sgiliau a chyflogaeth ddrafft. Bydd y papur yn cynnig newidiadau fel bod gennym brosesau effeithlon ar gyfer adnabod pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac ailennyn eu diddordeb; amrywiaeth lawn o opsiynau dysgu i fodloni’r galw – i ennyn diddordeb pobl ifanc drwy wneud darpariaeth ddigonol ar bob lefel ac ym mhob steil o ddysgu; darparu dysg mwy penodol a dwys, a chymorth personol yn ogystal â chyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod sut i gael addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ac i’w galluogi i chwalu rhwystrau personol, sydd weithiau’n rhai sylweddol, i gyfranogiad.

Mae gwella sgiliau sylfaenol a sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith yn elfennau pwysig yn ein strategaeth tlodi plant. Nod y polisïau sydd eisoes yn strategaeth sgiliau sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad, ‘Geiriau’n Galw: Rhifau’n Cyfri’ ac yng Nghynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth 2005’ yw gwella’r canlyniadau ar gyfer plant agored i niwed a’u teuluoedd. Yn ddiweddar cyhoeddwyd Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth newydd i Gymru i ymgynghori yn ei chylch.

Cymorth Cyflogaeth

Gan gydnabod y rôl hollbwysig sydd gan gofal plant o ran lleihau anfantais a chynyddu cyfraddau cyflogaeth rydym wedi ymrwymo i symud ymlaen i ddarparu gofal plant cyffredinol a fforddiadwy. Bydd cymorth ychwanegol yn y gyllideb yn ystod y tymor hwn o’r Cynulliad gan gynnwys ehangu gwasanaethau gofal plant di-dâl, o’r radd flaenaf, ar gyfer plant 2 oed yn yr ardaloedd hynny lle mae’r angen mwyaf. Bydd Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fod â digon o lefydd gofal plant ar gyfer rhieni sydd am weithio neu hyfforddi, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol. Cyfeirir yn benodol at rieni plant anabl, y rhai sy’n awyddus i gael darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r rhai sy’n derbyn y Credyd Treth Gwaith.

Mae sicrhau gofal plant fforddiadwy o’r radd flaenaf yn ffactor bwysig, a darperir cymorth drwy’r elfen gofal plant o’r Credyd Treth Gwaith. Ar y cyfan, mae nifer y llefydd gofal plant a gofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi cynyddu 13,000 ers 1999. Cofrestrodd yr Arolygiaeth 795 lleoliad newydd yn 2006-7, o gymharu â 612 lleoliad gofal plant newydd yn 2005-6 a 517 yn 2004-5.

Hefyd, defnyddiodd Genesis Cymru arian gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop i gefnogi 10,000 o fuddiolwyr, gan roi cyngor, meithrin hyder a gwasanaethau gofal plant er mwyn chwalu’r rhwystrau i waith a hyfforddiant. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi prosiect i olynu Genesis Cymru. Os caiff ei gymeradwyo bydd yn seiliedig ar Agenda Lisbon er mwyn cynyddu cyflogaeth a lleihau anweithgarwch economaidd.

Y ffordd orau i’r rhan fwyaf o bobl dlawd godi o’u tlodi yw cael gwaith. Mae cynyddu’r lefelau o weithgarwch economaidd drwy helpu mwy o bobl i gael gwaith yn brif flaenoriaeth. Y dystiolaeth ar gyfer y strategaeth honno yw’r gwaith llwyddiannus a wnaed gennym gyda’r Ganolfan Byd Gwaith i ymchwilio i’r fenter ‘Yn Awyddus i Weithio’ a’i datblygu. Mae rhaglen yn rhoi cymorth i’r bobl hynny sy’n cael budd-daliadau symud o’u gwirfodd i gyflogaeth gynaliadwy ac mae eisoes wedi rhagori ar ei tharged i helpu mil o bobl i gael gwaith eleni; erbyn mis Hydref 2007 roedd y rhaglen eisoes wedi helpu dros 1,750 o bobl i gael gwaith. Ar sail hyn rydym bellach yn gweithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith i ehangu’r fenter ‘Yn Awyddus i Weithio’ a’i chyflwyno i ardaloedd eraill yng Nghymru lle mae cyfraddau uchel o bobl ddifreintiedig sydd am gael cymorth a help i ddod o hyd i waith.

Gan fod cynifer o’r plant sy’n byw mewn tlodi yn dod o deuluoedd unig riant, mae’n hollbwysig y caiff unig rieni eu helpu a’u cefnogi wrth iddynt symud i gyflogaeth a hyfforddiant. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Byd Gwaith, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol sy’n cynnig cymorth sy’n berthnasol i waith, cymhellion ariannol a chyngor a darpariaeth gofal plant. Rhaid i’r amgylchedd hwn o help a chymorth barhau wrth i ni ymdrechu i gyrraedd ein targedau ar gyfer cyflogi unig rieni ac wrth i raglen Llywodraeth y DU i ddiwygio llesiant gael ei gweithredu yng Nghymru.


Hefyd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar brosiect i fynd i’r afael â diweithdra mewn rhai o’r wardiau lle mae’r amddifadedd mwyaf yn y DU. Nod y Prosiect Dinasoedd yw sicrhau gwelliant sylweddol yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl o oed gweithio, yn enwedig ymhlith grwpiau difreintiedig. Bydd yn rhoi’r help sydd ei angen ar y bobl hyn i ganfod gwaith a’i gadw, ac i wella’u sgiliau fel y gallant symud ymlaen mewn cyflogaeth. Ardaloedd braenaru’r Strategaeth Ddinasoedd yng Nghymru yw Blaenau’r Cymoedd a’r Rhyl sydd ill dwy bellach yn cyflawni ar sail y targedau heriol a bennwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i leihau diweithdra, y ddibyniaeth ar fudd-daliadau a thlodi plant.

Ymyrraeth ym Maes Iechyd

Mae'r cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd gwael wedi'i hen sefydlu. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi ein plant ar y trywydd iawn i iechyd yw rhoi cyfle iddynt gael sylfaen faeth gref at y dyfodol. Llaeth y fron yw'r bwyd cyntaf gorau posibl ar gyfer babanod. Mae ymchwil yn dangos mai menywod sy'n gadael addysg gynharaf ac sydd ar yr incwm isaf sydd leiaf tebygol o fwydo eu babanod ar y fron. Mae Strategaeth Bwydo ar y Fron Llywodraeth y Cynulliad, "Buddsoddi mewn Gwell Cychwyn", wedi'i sefydlu er mwyn codi'r cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru. Rydym wedi cyllido 22 o Gynlluniau Cymorth Bwydo ar y Fron i ganolbwyntio ar anghenion y mamau ifancaf ledled Cymru ac mae gweithwyr iechyd proffesiynol a gwirfoddolwyr yn cydweithio yn yr ardaloedd sydd fwyaf anghenus yn gymdeithasol.

Bydd y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant yn ein helpu i gyrraedd saith nod craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc drwy wella ansawdd a lleihau anghysondeb yn y gwasanaethau a ddarperir drwy bennu safonau cenedlaethol. Nid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn unig y pennwyd y safonau hyn, ond hefyd ar gyfer gwasanaethau eraill llywodraeth leol sy'n dylanwadu'n fawr ar iechyd a lles plant.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio'n agos â'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i geisio gweld pa gamau a fydd yn ein helpu i gyrraedd y cerrig milltir a'r targedau iechyd yn 'Cael Gwared ar Dlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant'. Mae cynlluniau gweithredu ar y gweill i'r Gweinidog eu hystyried. Cynlluniau yw'r rhain sy'n ymwneud â phwysau geni isel/marwolaethau babanod a beichiogi yn yr arddegau.

Rydym yn gwybod bod cryn amrywiaeth yn yr achosion o bydredd dannedd ledled Cymru ond mae'r sefyllfa yn waeth ac yn dirywio mewn ardaloedd o amddifadedd. Ar 13 Tachwedd 2006, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Iechyd y Geg yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Bydd hwn yn cynnig cynllun hirdymor gyda'r nod o wella iechyd y geg, a chamau i gyrraedd y nod hwnnw. Bydd yn annog unigolion i reoli iechyd eu ceg yn well, bydd yn rhoi arweiniad i ddeintyddfeydd ganolbwyntio'n fwy ar ofal ataliol a bydd yn galluogi comisiynwyr i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sy'n bodoli ers tro ym maes iechyd y geg. Wrth wneud hynny, bydd hefyd yn gweithio i gyrraedd targedau Llywodraeth y Cynulliad o ran tlodi plant.

Ymhlith grwpiau difreintiedig y mae'r cyfraddau smygu uchaf a dyma un o'r prif ffactorau sy'n gyfrifol am anghydraddoldebau iechyd. Felly, rydym wedi sefydlu rhaglen o fentrau i atal smygu. Rydym yn cyllido 'Dim Smygu Cymru', menter sy'n rhoi cyngor a chymorth i smygwyr sydd eisiau rhoi'r gorau iddi ac sy'n canolbwyntio'n benodol ar anghenion grwpiau difreintiedig wrth ddatblygu a darparu ei gwasanaethau. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn helpu i gyflwyno rhaglen gymorth Treial Rhoi'r Gorau i Ysmygu mewn Ysgolion (ASSIST) ledled Cymru, sy'n ceisio addysgu pobl ifanc ym Mlwyddyn 8 am beryglon smygu a'u hannog i beidio â gwneud. I ddechrau, mae'r rhaglen yn targedu ysgolion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yn ogystal, mae clwb Bygiau Baco i blant 9-11 oed sy'n ymrwymo i beidio â smygu ac mae'r Gystadleuaeth Dosbarth Di-fwg yn targedu plant 11-13 oed yn holl ysgolion uwchradd Cymru.

Gwella Cyfleoedd Bywyd

Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth i wella'r gwasanaethau a ddarperir a'r canlyniadau i blant ag anableddau. Mae aelodau o Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri ac uwch swyddogion newydd sefydlu Gweithgor i roi cyngor i Weinidogion a datblygu'r gwaith yn y maes pwysig hwn. Yn ogystal, bydd Pwyllgor y Cabinet ar Blant a Phobl Ifanc yn chwarae rôl hanfodol o ran cydgysylltu polisi a rhaglenni i blant anabl a bydd yn helpu i fynd i'r afael â materion gwasanaethau darniog a chymhlethdod eu darparu, sy'n gallu bod yn arbennig o anodd i deuluoedd plant anabl.

Mae gofalwyr ifanc yn wynebu mwy o anfanteision na'r cyffredin ac mae angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol arnynt. Dyma un o'r pum maes blaenoriaeth yn Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth y Cynulliad. Mae ein polisïau o ran gofalwyr ifanc yn seiliedig ar yr egwyddor gyffredinol na ddylid disgwyl i ofalwyr ifanc ymgymryd â lefelau amhriodol o ofal sy'n effeithio'n andwyol ar eu datblygiad personol. Ers sefydlu strwythur newydd yn 2006, mae Llywodraeth y Cynulliad yn medru gwrando ar ofalwyr ifanc ac mae ganddynt lais o ran yr hyn ddylai fod yn flaenoriaeth. Mae'n sicrhau hefyd y gallant gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu polisïau sy'n effeithio arnynt. Mae prosiectau gofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n cael eu gweithredu gan fudiadau'r sector gwirfoddol, gyda llefydd i fwy na 1,500 o ofalwyr ifanc. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n adolygu ein hadnodd hyfforddi "Gofalu am Ofalwyr Ifanc" ar gyfer ysgolion a byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn y gwanwyn.

Mae ei gwneud yn haws i blant difreintiedig allu gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn allweddol ac rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cyfleusterau chwarae addas ar gael. Mae ein rhwydwaith newydd o ganolfannau plant integredig yn golygu bod cyfleusterau chwarae mynediad agored ar gael am ddim yn ystod y tymor ysgol, a hynny ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ceisio gwarchod caeau chwarae rhag cael eu datblygu, ac eithrio lle byddai hyn yn gwella'r ddarpariaeth bresennol, lle gellir creu darpariaeth amgenach, neu lle mae gormod o ddarpariaeth mewn ardal benodol. Dylai awdurdodau lleol nodi eu polisïau ar gyfer chwaraeon a hamdden yn eu cynlluniau datblygu lleol. Rhaid iddynt hefyd ymgynghori â Chyngor Chwaraeon Cymru cyn rhoi caniatâd cynllunio lle bydd datblygiad yn effeithio ar gae chwarae, neu dir a ddefnyddiwyd fel cae chwarae yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Rydym yn gweithio i gryfhau'r trefniadau sydd eisoes yn eu lle i warchod tir.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn parhau i fuddsoddi £5 miliwn y flwyddyn i roi mynediad am ddim i blant a phobl ifanc i byllau nofio awdurdodau lleol yn ystod gwyliau ysgol a bydd yn ystyried ehangu'r cynllun i weithgareddau eraill a’i gwneud yn haws gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar benwythnosau.

Gan gydnabod y cysylltiad rhwng damweiniau sy'n digwydd i blant wrth gerdded a thlodi, rydym wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol weithredu cynlluniau sy'n helpu plant i gerdded a beicio i'r ysgol ac yn ôl yn ddiogel. Yn 2007-08 dyrannwyd £5.1 miliwn i brosiectau ledled y wlad. Mae hyn yn dod â'r cymorth rydym wedi'i roi i'r rhaglen i £27 miliwn ers iddi ddechrau ym 1999-2000. O fis Ebrill, rhoddir rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar waith, gan helpu i wneud y ffyrdd yn fwy diogel a datblygu llwybrau cerdded a beicio mewn cymunedau lleol.

Rhoi Rhan i Blant a Phobl Ifanc

Mae agwedd Llywodraeth y Cynulliad at roi rhan i blant a phobl ifanc yn y materion hyn yn seiliedig ar yr egwyddorion yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Erthygl 12 yn nodi hawl pob plentyn a pherson ifanc i fynegi barn ac i'r farn honno gael ei hystyried mewn unrhyw fater neu weithdrefn sy'n effeithio arnynt. Mae "Gweithredu'r Hawliau" yn sôn yn fanylach am safbwynt Llywodraeth y Cynulliad.

Er mwyn hybu cyfranogiad ar lefel genedlaethol yng Nghymru, rydym yn cefnogi Consortiwm Cyfranogiad sy'n cael ei hwyluso gan Achub y Plant Cymru. Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau ambarél plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae llawer o fentrau yn cael eu cynnal hefyd i godi ymwybyddiaeth o gyfranogiad yn adrannau Llywodraeth y Cynulliad ac i hyfforddi plant a phobl ifanc ar sut i gymryd rhan yn ein gwaith.

Mae Ymestyn Hawliau yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc ledled Cymru yn manteisio'n fwy ar eu 10 hawl. Mae pob Hawl sydd gan bobl ifanc o fewn yr agenda hon yn ceisio sicrhau bod amrywiaeth o gymorth ar gael i bobl ifanc 11-25 oed a'u bod yn gallu defnyddio amrywiaeth o wasanaethau yn ôl yr angen er mwyn gwneud dewisiadau sy'n seiliedig ar wybodaeth. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, drwy gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae partneriaid ledled Cymru wedi gwneud gwaith ychwanegol gyda dros 40,000 o bobl ifanc er mwyn eu helpu i fanteisio'n fwy ar eu hawliau a gwella eu sgiliau.

Ar lefel genedlaethol, prosiect Clic yw'r prosiect gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc 11-25 oed, ac mae wedi rhoi gwybodaeth i bobl ifanc ar amrywiaeth o bynciau sydd o ddiddordeb iddynt, a dolenni i adnoddau ehangach. Ymhlith pynciau eraill, rhoddwyd gwybodaeth am arian ac mae'n cynnig dolenni i ffynonellau cyngor a gwybodaeth eraill.

Ymyrraeth yn y Gymuned

Ni ellir anwybyddu'r elfen ofodol na gwerth targedu adnoddau. I'r perwyl hwnnw, mynd i'r afael â thlodi plant yw un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf wrth i'r Rhaglen symud ymlaen i Cymunedau Nesaf. Rydym nawr yn ymgynghori ar ein gweledigaeth ar gyfer Cymunedau Nesaf a byddwn yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod mentrau i fynd i'r afael â thlodi plant yn gweithio ar y cyd â Phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf a thrwy'r partneriaethau hynny gymaint â phosibl. Mae Cymunedau Nesaf hefyd yn rhagweld mwy o bwyslais ar greu incwm a gwella'r rhagolygon o ran swyddi. Bydd hyn yn gyfraniad pwysig yn y frwydr yn erbyn tlodi plant; cydnabyddir mai gwella'r amgylchiadau hyn i deuluoedd yw'r ffordd fwyaf effeithiol o godi plant allan o dlodi.

Fel gyda'n holl ddinasyddion, mae anghenion llety ein plant a'n pobl ifanc yn rhan annatod o'n Strategaeth Dai Genedlaethol, 'Cartrefi Gwell i Bobl Cymru', ac mae elfennau o'r Strategaeth yn canolbwyntio'n benodol ar anghenion llety plant a phobl ifanc. O ran ansawdd ac addasrwydd cartrefi, mae'r cysylltiad â chyrhaeddiad academaidd a lles ein plant yn cael eu cydnabod ac eir i'r afael â ffactorau dylanwadol fel cartrefi gorlawn ac anaddasrwydd drwy'r mesurau a gyflwynwyd gan y System Mesur Iechyd a Diogelwch.

Mae ein hagenda i atal digartrefedd a gwella amodau pobl sy'n byw mewn llety dros dro, sydd wedi'i nodi yn ein Strategaeth Ddigartrefedd, wedi cwtogi’n ddramatig ar niferoedd y teuluoedd sy'n byw mewn sefydliadau Gwely a Brecwast. O fis Medi 2006 i fis Medi 2007, gwelwyd gostyngiad o 76% yn niferoedd y teuluoedd mewn sefydliadau Gwely a Brecwast, o 134 i 32.

Yn ogystal, mae ein rhaglen Cefnogi Pobl yn rhoi cymorth i fynd i'r afael ag anghenion llety a chymorth grwpiau sy'n agored i niwed fel pobl sengl ifanc sy’n ddigartref a throseddwyr ifanc. Yn 2001 cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad y Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) a oedd yn ehangu'r ddeddfwriaeth a oedd yn diogelu pobl ddigartref i gynnwys pobl ifanc 18-20 oed ac a fu mewn gofal ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Mae'r Gorchymyn hefyd yn ymrwymo awdurdodau lleol i ddarparu tai ar gyfer pobl yn y grŵp oedran hwn sydd mewn perygl y bydd rhywrai'n camfanteisio'n rhywiol neu'n ariannol arnynt, yn ogystal â phob person ifanc 16 ac 17 oed.

Mae'r ymrwymiad i fynd i'r afael â chartrefi gorlawn lle mae yna blant dibynnol yn rhan o'n targedau tlodi plant sydd wedi'u nodi yn 'Cael Gwared ar Dlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant' ac yn ddiweddar buom yn ymgynghori ar broblem cartrefi gorlawn yng Nghymru, gan ofyn i bobl am eu barn am sut y gellid newid y safonau cyfredol o ran gofod ac ystafelloedd gwely. Ers hyn, targedwyd awdurdodau unigol yn benodol. Mae cefnogi teuluoedd sy'n ymdopi ag anabledd yn hollbwysig a diddymodd Llywodraeth y Cynulliad y prawf modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i blant anabl ym Medi 2005 er mwyn gwella'r broses gais a'i gwneud yn haws manteisio ar y grantiau hyn.

Meysydd 2 a 3: Cynhwysiant Ariannol a Manteisio ar Gymorth Llywodraeth y DU

Mae'n hollbwysig gwneud y mwyaf o incwm y teulu. Mae'n wir nad yw llawer o'r materion sy'n gysylltiedig â gorddyled a'r atebion posibl i'r problemau hyn wedi'u datganoli, ond byddwn yn parhau i weithio ym mhob un o feysydd y Llywodraeth i sicrhau bod Cymru'n elwa ar adnoddau a mentrau'r DU. Cadarnhaodd yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a gyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd £130 miliwn yn y Gronfa Cynhwysiant Ariannol ar gyfer 2008-11. Yn y gorffennol, mae Cymru wedi derbyn bron £4.4 miliwn o'r Gronfa, a byddwn yn sicrhau ein bod yn derbyn y gyfran briodol o'r cyllid hwn i fynd i'r afael ag allgáu ariannol ledled Cymru.

Gall Llywodraeth y Cynulliad wneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael ag allgáu ariannol a byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Cynhwysiant Ariannol gynhwysfawr yn nes ymlaen eleni i ddod â'r holl waith at ei gilydd. Byddwn yn adeiladu ar seiliau'r Adolygiad o Orddyled a byddwn yn cynnwys camau i wella llythrennedd ariannol mewn ysgolion, cefnogi'r mudiad undebau credyd, ei gwneud yn haws i weld cynghorwyr dyledion a herio benthyca anghyfreithlon.

Mae ‘Cymru'n Un’ yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod cyngor cynhwysfawr am fudd-daliadau ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae gwaith ar nodi'r bylchau yn y ddarpariaeth gyngor wedi dechrau a bydd hyn hefyd yn ystyried y ffordd y darperir gwasanaethau cyngor yn y dyfodol, fel yr amlinellir yn nogfen bolisi'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol/Llywodraeth y Cynulliad “Gwneud Hawliau Cyfreithiol yn Realaeth yng Nghymru”.

Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru a'r Trydydd Sector o ran llwyddo i annog mwy o bobl i gymryd Budd-dal y Dreth Gyngor. Bydd hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys y Budd-dal Tai. Byddwn yn sicrhau dull integredig o wneud y mwyaf o incwm i sicrhau bod pobl, gan gynnwys teuluoedd ar incwm isel â phlant, yn cymryd y budd-daliadau y mae ganddynt hawl eu cael. Byddwn yn datblygu cysylltiadau cryfach a systemau cyfeirio mwy eglur rhwng awdurdodau lleol a'r Ganolfan Byd Gwaith drwy adeiladu ar arferion da mentrau cyfredol fel Cysyllt-oed a Cyngor Da: Iechyd Da. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod cynyddu’r nifer sy'n cymryd budd-daliadau yn flaenoriaeth i bob rhaglen sy'n gweithio gyda theuluoedd agored i niwed.

Mae cydnabod pa mor bwysig yw ymyrryd yn gynnar a gwella addysg mewn llythrennedd ariannol mewn ysgolion yn flaenoriaeth. Bydd y newidiadau rydym yn bwriadu'u gwneud i'r cwricwlwm yng Nghymru yn mynd ymhellach na'r rheini a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU. Bydd plant yn cael gwersi llythrennedd ariannol erbyn mis Medi 2008 o dan y fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol i blant rhwng 7 ac 19 oed, a'r fframwaith mathemateg i blant rhwng 7 ac 16 oed.


Mae undebau credyd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran ei gwneud yn haws i grwpiau cymdeithasol difreintiedig gael gwasanaethau ariannol. Rydym wedi ymrwymo i sefydlu'r math hwn o fenter gymdeithasol ledled Cymru. Rydym eisoes wedi buddsoddi £1.75 miliwn yn y mudiad undebau credyd yng Nghymru, gan gynnwys £250,000 yn 2007-2008. Mae undebau credyd bellach yn gweithredu mewn 21 o'n 22 awdurdod lleol. Wrth gwrs, mae gwaith i'w wneud o hyd i ddatblygu gallu'r undebau credyd i ehangu'r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu a'u symud tuag at gynaliadwyedd ariannol.

Mae llawer o undebau credyd yng Nghymru eisoes wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolion lleol ac maent yn cyfrannu at ddarparu'r rhan hanfodol hon o'r cwricwlwm. Mae pob undeb credyd yn cynnig aelodaeth i bobl iau er mwyn iddynt gael cyfrifon cynilo diogel a chyngor ar reoli'u harian. Rydym wedi ymrwymo i ymestyn hyn, a byddwn yn buddsoddi £1.25 miliwn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu undebau credyd a'u galluogi i gynnig cyfrifon undeb credyd i bob disgybl ysgol uwchradd erbyn 2011.

Mae'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn ased gwerthfawr i bob plentyn. Mae angen amryw wahanol fathau o gyfrifon i annog cynifer o rieni a gwarcheidwaid â phosibl i dalu'r daleb i gyfrif. Ar y cyd ag awdurdodau lleol, rydym eisoes yn cynnig Cynllun Ad-dalu'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i blant sy'n derbyn gofal, sy'n ad-dalu £50 y plentyn i awdurdodau am bob plentyn sydd yn eu gofal. Hefyd, o 2009/10 ymlaen, byddwn yn buddsoddi £2.5 miliwn drwy’r Premiwm Cymreig i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant a fydd yn rhoi taliad ychwanegol o £50 i bob plentyn, gan godi i £100 i'r rhai mwyaf difreintiedig, wrth iddynt ddechrau addysg amser llawn. Rydym hefyd yn bwriadu adeiladu ar waith cynlluniau peilot a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad i annog cynifer o undebau credyd â phosibl i ddechrau cynnig cyfrifon y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Newid Pethau

Er mwyn cydnabod pa mor bwysig yw datblygu a chyflwyno polisïau mewn modd cydlynus, rydym wedi cymryd camau ar lefel genedlaethol drwy sefydlu Pwyllgor y Cabinet ar Blant a Phobl Ifanc, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog dros Blant, i sicrhau bod cyfrifoldebau trawsbynciol ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys tlodi plant, yn cael eu cydlynu'n effeithiol ym mhob un o feysydd gwaith y Llywodraeth.

Mae grŵp cymorth o uwch swyddogion o'r adrannau polisi perthnasol gyda Chadeirydd Gweinidogol wedi cael ei sefydlu i gefnogi gwaith Pwyllgor y Cabinet. Bydd hyn yn sicrhau bod camau gweithredu'r Llywodraeth ar dlodi yn canolbwyntio ar y meysydd cywir a'u bod yn cael eu cydlynu'n addas. Mae hyn yn ymateb i sylwadau'r Dirprwy Gomisiynydd Plant yn ei hadroddiad diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, lle'r oedd yn annog gweithredu llawn a chydlynus ar draws ein holl raglenni sy'n canolbwyntio ar dlodi plant.

Mae sicrhau mai mynd i'r afael â thlodi plant yw un o brif flaenoriaethau sector cyhoeddus Cymru hefyd yn allweddol. Pan fydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Blant sy'n Agored i Niwed a Thlodi Plant yn dod i rym, byddwn yn ceisio cyflwyno Mesur i roi dyletswydd ar asiantaethau cyhoeddus i gyfrannu at roi terfyn ar dlodi plant, a dangos y cyfraniad hwnnw, drwy gyfuno'r ddeddfwriaeth bresennol a sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu o dan ddyletswyddau statudol cyson.

Rwy'n ymwybodol bod y broses ddeddfwriaethol newydd yn hirfaith, felly bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio yn y tymor byr i ddatblygu cytundeb gwirfoddol, gan ymgynghori'n llawn â'r sectorau perthnasol, i gadarnhau'r gofynion statudol cyfredol ac amlygu meysydd lle mae nifer o sefydliadau yn mynd i'r afael â thlodi plant. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod asiantaethau cyhoeddus yn blaenoriaethu tlodi plant. Mae nifer o asiantaethau cyhoeddus eisoes yn gweithio i weithredu ar dlodi plant. Er enghraifft, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y Cynulliad, mae dau awdurdod lleol – Rhondda Cynon Taf a Gwynedd – yn cymryd rhan mewn prosiect peilot dwy flynedd sy'n cael ei arwain gan Achub y Plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod gweithredu ar dlodi plant ar frig y rhestr flaenoriaethau i lywodraeth leol.

Mae angen cymryd camau ar lefel genedlaethol a lefel leol. O dan Ddeddf Plant 2004, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc mewn Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc lleol. Mae'r cynlluniau strategol tair blynedd hyn yn nodi'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella canlyniadau, sy'n cyfarwyddo gwaith yr holl bartneriaid, gan gynnwys gwaith mewn perthynas â thlodi plant.

Gall awdurdodau lleol chwarae rôl arwyddocaol o ran mynd i'r afael â thlodi plant drwy weithio â'u partneriaid. Gall camau i ddarparu cyngor ar fudd-daliadau, tai fforddiadwy, gwasanaethau i deuluoedd digartref a chymorth effeithiol i blant sy'n agored i niwed wella ansawdd bywyd y rhai mwyaf difreintiedig.

Yn ogystal â'r trefniadau mewnol hyn, rwyf wedi cytuno i sefydlu Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant, i'w gadeirio gan Huw Lewis AC. Bydd gofyn i'r Grŵp roi cyngor i mi ar sail tystiolaeth ar y gofynion polisi ehangach sy'n angenrheidiol i gyrraedd ein targed tlodi plant ar gyfer 2010 a 2020. Mae'r Grŵp hwn yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn unol â'r rheolau ar benodiadau cyhoeddus a bydd ei waith yn dechrau ym mis Ebrill 2008.

O ystyried y goblygiadau arwyddocaol i Gymru ynghylch y materion hynny sydd heb eu datganoli, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw mewn cysylltiad agos â'r Uned Tlodi Plant newydd yn Whitehall. Cynhaliwyd cyfarfod o swyddogion allweddol ar 22 Ionawr, lle cytunwyd y bydd Fforwm swyddogol newydd y Pedair Gwlad ar Dlodi Plant yn cwrdd bob chwarter i gryfhau'r cysylltiadau yn Llywodraeth y DU wrth i ni ymdrechu i gyrraedd y targedau tlodi plant.

Monitro a Gwerthuso

Mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad UNICEF yn gynharach eleni, rydym o'r farn y dylid rhoi tlodi plant yng nghyd-destun ehangach lles plant. Mae adolygiad diweddar o ddata Cymru, i weld a yw'r darlun yng Nghymru yn wahanol i'r darlun a ddisgrifir yn yr adroddiad am y DU gyfan, wedi dangos pa mor bwysig yw iddi fod yn hawdd i ni gael gafael ar ddata cyfoes a dibynadwy ar les plant yng Nghymru. Felly, o fis Medi 2008 ymlaen, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn creu Monitor Lles Plant bob tair blynedd i olrhain ansawdd bywyd plant a phobl ifanc ar draws ystod o ddimensiynau, gan gynnwys tlodi plant. Y Monitor fydd y cyfrwng i fesur cynnydd yn erbyn ein targedau trawsbynciol ar dlodi plant.

Mae mynd i'r afael â thrallod tlodi plant yn un o elfennau sylfaenol agenda cyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad. Mae ein rhaglen newydd o lywodraeth drwy bartneriaeth, a amlinellir yng nghytundeb 'Cymru'n Un', yn pwysleisio'n hymrwymiad i wneud popeth o fewn gallu Llywodraeth y Cynulliad i helpu i gyrraedd y nod o ddileu tlodi plant erbyn 2020.