Skip to content

Llafar - Grant Ad-dalu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Mae’n bleser gennyf gael y cyfle hwn i roi’r diweddaraf i chi am y trefniadau newydd i ychwanegu at gyfrifon cronfa ymddiriedolaeth plant ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

Bydd Aelodau yn cofio inni gyflwyno cynllun yn 2006 i ad-dalu hyd at £50 y plentyn y flwyddyn i awdurdodau lleol am gyfraniadau y maent yn eu gwneud i gyfrifon y gronfa ymddiriedolaeth plant ar gyfer plant cymwys yn eu gofal. Yr oedd 622 o blant ar eu hennill yn sgîl hyn yn 2007-08. Bu’r cynllun hefyd yn fuddiol o ran annog awdurdodau lleol, yn rhieni corfforaethol, i wneud cyfraniadau ychwanegol at gyfrifon y plant hynny y maent yn gyfrifol am ofalu amdanynt.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, yn dilyn adolygu’r cynllun ar ôl ei weithredu am ddwy flynedd, fy mod wedi penderfynu cynyddu’r cyfraniadau ychwanegol o £50 i £100 y flwyddyn fesul plentyn, ac ymestyn y cyfraniadau ychwanegol i grŵp ehangach o blant sy’n derbyn gofal.

Mae hefyd yn bleser gennyf gyhoeddi fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn rhannol drwy ysbrydoliaeth cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru dros blant mewn gofal, hefyd wedi cyflwyno cynllun i roi cyfraniad ychwanegol o £100 y flwyddyn i gyfrifon plant cymwys sy’n derbyn gofal yn y Deyrnas Unedig.

Bydd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn ariannu’r cynllun hwnnw, yr ydym wedi cytuno i’w weinyddu yng Nghymru ar ran Llywodraeth y DU. Mae hyn yn newydd ardderchog i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, a fydd bellach yn cael cyfraniad ychwanegol o £200 y flwyddyn yn eu cyfrif cronfa ymddiriedolaeth plant am bob blwyddyn y maent mewn gofal o 1 Ebrill 2007. Yr ydym yn amcangyfrif y bydd tua 500 o blant yn elwa o’r trefniadau newydd eleni, ac y bydd y nifer hwnnw’n codi i 640 yn 2009-10, ac i 770 yn 2010-11. Caiff awdurdodau lleol gyfrannu mwy o’u hadnoddau eu hunain ac yr ydym yn eu hannog i wneud hynny. Gall trydydd partïon gyfrannu hyd at yr uchafswm o £1,200 y flwyddyn i bob plentyn.

Mae ymchwil yn dangos bod cael mynediad at gynilion, hyd yn oed os ydynt ar lefel gymharol isel, yn 18 oed yn gwneud gwir wahaniaeth yn y penderfyniadau y mae pobl ifanc yn eu gwneud am eu dyfodol, a’i fod yn hybu ymdeimlad o fuddsoddi yn eu bywyd. Mae gennym gyfrifoldeb arbennig dros blant sydd mewn gofal, ac nid yw’r cynllun hwn ond yn un elfen mewn gwaith ehangach i wella’r canlyniadau ar eu cyfer. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn ymgynghori ar strategaeth ar gyfer plant sy’n agored i niwed, a fydd yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal.

Mae delio â thlodi plant ac anghydraddoldeb ymysg plant a phobl ifanc yn elfen hanfodol yn ein strategaeth ehangach i wella eu hansawdd bywyd a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal i bawb. Mae rôl allweddol i gronfeydd ymddiriedolaeth plant wrth gyflawni’r amcan hwn, drwy roi ased ariannol i bob plentyn ar gyfer y dyfodol. Yr wyf wrth fy modd bod Cymru wedi arwain y ffordd ar hyrwyddo cynilion a buddsoddi ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ledled y DU. Diolchaf eto i Christine Chapman am gychwyn y datblygiad yn 2005, gan ei fod yn gyfraniad pendant at helpu awdurdodau lleol i gryfhau arferion cynilo’r plant y maent yn gofalu amdanynt, ac at ledaenu’r buddion a geir o berchnogaeth ar asedau. Bydd hefyd yn cyfleu negeseuon cadarnhaol i rieni plant sy’n derbyn gofal am yr angen i gynilo er mwyn dyfodol eu plant, i ganiatáu mwy o gyfleoedd iddynt a gwell dewis o ran defnyddio’r arian pan fyddant yn dechrau byw fel oedolion.