Skip to content

Ysgrifenedig - Penodi Cadeirydd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, ar y cyd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban ac Adran Berthnasol Gogledd Iwerddon, fod yr Arglwydd Adair Turner wedi’i benodi fel Darpar Gadeirydd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (y Pwyllgor).

Mae gan yr Arglwydd Turner gryn brofiad ym myd busnes, fel cyn Gyfarwyddwr Gyffredinol y CBI ac is-gadeirydd Merril Lynch Europe; ac wrth arwain cyrff cynghori proffil uchel i’r Llywodraeth. Ef yw Cadeirydd presennol y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Cymdeithasol a bu’n Gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Bensiynau a’r Comisiwn ar Gyflogau Isel.

Bydd y profiad hwn, ynghyd â’i waith ym maes newid yn yr hinsawdd, yn sicrhau bod y Pwyllgor yn ennyn ei annibyniaeth a hefyd hygrededd o ran ei gyngor o’r dechrau’n deg.

Mae’r Pwyllgor yn agwedd allweddol ar y fframwaith cyfreithiol hirdymor a gynigir yn y Mesur Newid yn yr Hinsawdd.

Bydd y Pwyllgor yn gorff arbenigol, annibynnol ag iddo broffil uchel a fydd yn cynghori Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ynghylch y llwybr gostwng allyriadau er mwyn bodloni targed 2050 ac ynghylch lefel briodol y cyllidebau carbon. Bydd gofyn i’r Pwyllgor hefyd ddarparu cyngor ar ystod o faterion cysylltiedig a grybwyllir yn y Mesur a hefyd gyngor mewn ymateb i geisiadau penodol oddi wrth Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cynulliad Cymru neu’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Mae’r Mesur yn cynnig y dylai’r Pwyllgor gynnwys rhwng 5 ac 8 aelod, ynghyd â’r Cadeirydd, ac y dylai fod ganddo ysgrifenyddiaeth sefydlog o staff a fydd yn dadansoddi’n drylwyr y materion sy’n cael eu hystyried.

Caiff pum aelod cyntaf y Pwyllgor eu penodi ar ôl i’r Cadeirydd gael ei benodi. Penodir yr aelodau hyn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.

Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Arglwydd Turner, a gweddill aelodau’r Pwyllgor ar ôl iddynt gael eu penodi, er mwyn sicrhau bod y camau a gymerir yng Nghymru mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd yn seiliedig ar y cyngor gorau sydd ar gael a’u bod yn cael eu herio’n drylwyr gan arbenigwyr y Pwyllgor.