Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi Adroddiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Hoffwn groesawu adroddiad hynod arwyddocaol y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r adroddiad yn cyfrannu tystiolaeth bwysig dros ben i’w defnyddio wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am ei waith, ei drylwyredd a’i arbenigedd. Byddwn yn ystyried y dystiolaeth yn ofalus wrth baratoi ein hymateb i’r Ysgrifennydd Gwladol o fewn y tri mis nesaf, yn unol â gofynion Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008.

Mae tri darn mawr o ddeddfwriaeth – y Mesur Newid yn yr Hinsawdd, y Mesur Ynni a’r Mesur Cynllunio – wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 26 Tachwedd. Gyda’i gilydd, bydd y tair Deddf yn ei gwneud yn haws i’r DU drosglwyddo i economi rhad-ar-garbon a sicrhau cyflenwad ynni hirdymor a diogel.

Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn uchelgeisiol a blaengar, a gallwn ymfalchïo yn y ffaith mai’r DU, yn swyddogol, yw’r wlad gyntaf yn y byd i fabwysiadu targedau allyriadau carbon sy’n rhwymo yn gyfreithiol.

Mae’r Ddeddf yn denu cryn dipyn o ddiddordeb yn rhyngwladol, ac mae’n ddatganiad gwerthfawr o’n hymrwymiad domestig ni wrth i’r trafodaethau ynglŷn â phecyn hinsawdd ac ynni 2020 yr UE ddirwyn i ben, ac wrth i drafodaethau hollbwysig cynhadledd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn Poznań y mis nesaf baratoi’r ffordd i Copenhagen yn Rhagfyr 2009.

Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y drafodaeth ryngwladol honno pan fyddaf yn mynd i Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn Poznań yr wythnos nesaf.

Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn rhoi grym statudol i dargedau’r DU ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan 80 y cant o leiaf, trwy weithredu domestig a rhyngwladol, erbyn 2050 a lleihau allyriadau CO² gan 26 y cant o leiaf erbyn 2020, o gymharu â chyfraddau gwaelodlin 1990. Cyflwynir cyllidebau carbon pum mlynedd a fydd yn amlinellu’r dulliau ar gyfer cyrraedd y targedau i leihau nwyon tŷ gwydr.

Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd hefyd yn sefydlu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd fel corff arbenigol newydd a fydd yn asesu, yn annibynnol, y ffordd orau y gall y DU gyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2020 a 2050. Corff ‘cysgodol’ (anstatudol) oedd y Pwyllgor i ddechrau, ond bellach mae ganddo bwerau statudol ffurfiol.

Y Pwyllgor sydd â’r dasg hollbwysig o gynghori Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch y lefel orau posibl y gellir ei phennu ar gyfer y cyllidebau carbon er mwyn cyrraedd targedau 2020 a 2050 a chyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol y DU.

Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei gyngor ynghylch lefel y tair cyllideb carbon gyntaf (2008-12, 2013-17 a 2018-22), sy’n aneli i wneud y cynnydd gorau posibl tuag at gyrraedd targedau 2020 a 2050. Mae’r cyngor hefyd yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng ymdrechion y DU a’r gwledydd tramor i leihau allyriadau, ac yn ymdrin hefyd â’r ymdrech sy’n ofynnol gan y sectorau o’r economi sy’n rhan o’r cynllun capio a masnachu.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys dwy set o gyllidebau carbon – y cyllidebau ‘interim’, sef y sefyllfa cyn cael cytundeb rhyngwladol – a’r cyllidebau ‘arfaethedig’ h.y. y sefyllfa ar ôl cytundeb rhyngwladol. Mae’r rhain yn adlewyrchu ymrwymiad yr UE, a gytunwyd yng Nghyngor Ewropeaidd Gwanwyn 2007, i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yr UE i 20% yn is na lefelau 1990, a chynyddu’r gostyngiad i 30% unwaith y bydd cytundeb rhyngwladol ar yr hinsawdd wedi’i sicrhau.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid newid y targed interim ar gyfer 2020 i leihau’r nwyon tŷ gwydr 34%, ac y dylid pennu targed o 42% ar gyfer y cyfnod ôl-gytundeb.

Dywed y Pwyllgor yn bydd y dasg o gyrraedd targed o 80% neu fwy yn un heriol,  ond dichonadwy, ar sail amrywiaeth o opsiynau ar gyfer lleihau allyriadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a diwydiant, a fydd yn arbennig o bwysig o ran lleihau allyriadau yn y cyfnod hyd at 2020;
  • datgarboneiddio’r sector ynni, gan ddechrau nawr a pharhau trwy’r 2020au;
  • datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth, yn gyntaf trwy wella effeithlonrwydd ynni injanau confensiynol a defnyddio mwy ar fiodanwyddau cynaliadwy cenhedlaeth gyntaf, gan gyflwyno technolegau newydd yn gynyddol; hyrwyddo dewisiadau mwy deallus i gefnogi hyn;
  • datgarboneiddio’r sector gwres trwy ddefnyddio mwy ar fiomas mewn boeleri a gwres a phŵer cyfunedig (CHP), cyfnewid aer a phympiau sy'n codi gwres o'r ddaear, a gwresogyddion stôr trydan modern.
  • datgarboneiddio diwydiant trwy gyflwyno technolegau newydd fel Dal a Storio Carbon mewn sment, haearn a dur. 
  • mae i amaeth botensial sylweddol, gan gynnwys mesurau pridd a rheoli da byw.

Mae’r Ddeddf yn nodi y dylid ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch nifer o benderfyniadau allweddol – gan gynnwys pennu’r cyllidebau carbon. Byddaf yn gofyn i Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ymateb Llywodraeth y Cynulliad i’r cyngor ynghylch lefel y cyllidebau carbon, i’w gyflwyno o fewn tri mis.

Bydd cynrychiolwyr Pwyllgor y DU yn bresennol yn ein cyfarfod â’r Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd ar 4 Rhagfyr i drafod ein hymateb.

Bydd dau gyfarfod nesaf y Comisiwn yn allweddol ar gyfer llunio cynnwys rhaglen Llywodraeth y Cynulliad ar y newid yn yr hinsawdd, yn seiliedig ar adroddiad y Pwyllgor.

Byddaf yn adrodd ar y cynnydd a wneir i’r Cyfarfod Llawn yn y flwyddyn newydd.

Rwy’n edrych ymlaen at groesawu lansiad yr adroddiad yng Nghymru, ar 12 Rhagfyr. Yn y lansiad hwn, bydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn rhoi cyflwyniad manwl ar y bennod sy’n rhoi dadansoddiad wedi’i ddadgyfuno ar gyfer Cymru. Mae’r bennod hon yn dadansoddi potensial nifer o opsiynau ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru. Mae hefyd yn ystyried yr effaith economaidd benodol ar gyfer Cymru, gan ymdrin â chyflogaeth, cystadleurwydd a thlodi tanwydd.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac i chwarae ei rhan i leihau allyriadau.  Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn ein haddewid yn nogfen Cymru’n Un i leihau allyriadau 3% y flwyddyn erbyn 2011 mewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli, a gosod targedau i leihau allyriadau yn y sector preswyl, trafnidiaeth a’r sector cyhoeddus. Mae ein targed wedi’i fwriadu i sicrhau gostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn ac ysgogi lleihau allyriadau’n gynnar.

Bydd yn hanfodol lleihau’r allyriadau’n gynnar er mwyn gosod y trywydd cywir i gyrraedd y targedau uchelgeisiol ar gyfer y tymor hwy sydd wedi’u pennu yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd y DU. Mae Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i darged blynyddol o 3%, ond mae hefyd yn cydnabod y gall fod angen iddo argymell gostyngiadau mwy yn y dyfodol.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi cam cyntaf ei Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd cyn bo hir. Bydd y ddogfen hon yn ehangu ar rai o addewidion Cymru’n Un ac hefyd yn disgrifio ein dull gweithredu ni ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn, yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor. Bydd Cam Dau, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, yn cynnwys camau gweithredu ac amserlenni penodol.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymateb lefel uchel i’r argymhellion ochr yn ochr â Chyllideb 2009, ac mae’n debygol y cyhoeddir y tair cyllideb carbon gyntaf bryd hynny hefyd.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ac awdurdodau cenedlaethol eraill ar y materion hyn, i sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i gyngor y Pwyllgor ac yn ei ddefnyddio i’n helpu i gyrraedd y targedau uchelgeisiol a osodwyd.