Skip to content

Ysgrifenedig - Aelodaeth o Fwrdd Cynllunio’r Coleg Ffederal

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Ym mis Gorffennaf 2008, cyhoeddais ddatganiad a oedd yn nodi’r datblygiadau diweddar ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys gwaith y Rhwydwaith Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Cyhoeddais hefyd sefydlu Bwrdd Cynllunio’r Coleg Ffederal, yn ôl terfyn amser, a oedd i’w gadeirio gan yr Athro Robin Williams.

Mae’r Athro Williams erbyn hyn wedi dewis panel o arbenigwyr i’w gynorthwyo wrth archwilio modelau ar gyfer y Coleg Ffederal, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r aelodau.

Robin Williams                                  Cadeirydd

Rhys Llwyd                                       Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ieuan Wyn                                       Yr Ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg
Ben Gray                                          Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac aelod o’r Grŵp Adolygu Addysg Uwch
Eurig Davies                                     Ysgol Gyfun Ystalyfera
Meri Huws                                        Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Elinor Gwynn                                    Cyngor Cefn Gwlad Cymru
David Blaney/Celia Hunt                     CCAUC

Medwin Hughes                                Pennaeth, Coleg y Drindod, Caerfyrddin
Greg Walker                                    AUC
Aled Jones                                       Prifysgol Aberystwyth
Hefin Jones                                      Prifysgol Caerdydd
Colin Baker                                      Prifysgol Bangor
Huw Morris                                      Prifysgol Abertawe
Llion Jones                                       Canolfan Bedwyr, Bangor



Gorchwyl y Bwrdd Cynllunio yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd i’r Cadeirydd wrth iddo baratoi ei adroddiad. Bwriad yr adroddiad yw cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar sut y gellir datblygu’r ymrwymiad yn nogfen Cymru’n Un i ddarparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gwaith Bwrdd Cynllunio’r Coleg Ffederal hefyd yn cael ei ddatblygu yng nghyd-destun yr Adolygiad ehangach o Addysg Uwch, yn ogystal â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sy’n cael ei datblygu gan fy adran i.

Bydd y Bwrdd yn:

  • casglu tystiolaeth o ystod eang o fodelau, gan gynnwys arferion rhyngwladol mewn perthynas â dwyieithrwydd;
  • archwilio dulliau o hybu gwaith Grŵp y Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, gan adeiladu ar ddatblygiadau presennol ac annog cyfranogiad ehangach yn y dyfodol;
  • archwilio modelau posibl ar gyfer datblygu’r Coleg Ffederal, gan weithio trwy’r holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a chyda hwy i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Cynllunio’r Coleg Ffederal ar 20 Hydref, a bwriedir cynnal tri chyfarfod arall rhwng mis Rhagfyr 2008 a Mawrth 2009. Bydd yr Athro Williams yn cyflwyno ei adroddiad annibynnol i mi erbyn mis Mehefin 2009.