Skip to content

Llafar - Wasanaethau Iechyd Cymunedol yng Ngogledd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wythnos diwethaf yn y Cyfarfod Llawn, dywedais wrth yr Aelodau y byddwn yn rhoi datganiad pellach yr wythnos yma ynglŷn â gwaith y Dr Chris Jones ar wasanaethau cymunedol yn y gogledd. Bydd yr Aelodau wedi cael copi o adroddiad Jones yn gynharach heddiw. Gofynnais i’r Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf, ymgymryd â’r adolygiad oherwydd fy mod yn dymuno cael fy sicrhau, fel rhan o’u cynllun cyffredinol ar gyfer y dyfodol, bod cymunedau iechyd y gogledd wedi cynllunio’n effeithiol ar gyfer eu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn y dyfodol. Mae llawer o Aelodau ac aelodau’r cyhoedd wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond drwy gael sicrwydd o’r fath ynglŷn â gofal sylfaenol y gallwn fod yn hyderus bod cynigion ar gyfer dyfodol gwasanaethau’r ysbytai’n gadarn.

Mae adroddiad Jones yn cydnabod yr ymdrech a wnaethpwyd i gydlynu’r cynllun ar gyfer y gogledd i gyd— 'Cynllun Gogledd Cymru’ —ond ei gasgliad oedd bod y cynllun hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau ysbytai ac ar leihau nifer y gwelyau. Casglodd hefyd fod angen gwneud rhagor o waith yn y gogledd i gynllunio a datblygu gwasanaethau y tu allan i’r ysbytai, cyn y gellir rhoi unrhyw newidiadau mawr ar waith mewn gwasanaethau aciwt.

Mae 'Cynllun Gogledd Cymru’ yn cynnig ailfantoli’r gyllideb iechyd ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond nid yw’n adlewyrchu’n ddigonol ystyriaethau ynglŷn â’r buddsoddi y byddai ei angen i ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn darparu ar gyfer anghenion y boblogaeth wrth i’r anghenion hynny newid.

Gwnaeth proffesiynoldeb, bwriadau da a gwaith caled y staff sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd iechyd sylfaenol a chymunedol argraff fawr ar y Dr Jones. Cydnabu fod cymdogaethau’n trysori eu gwasanaethau cymunedol yn fawr, ond yn meddwl nad oedd rôl y gwasanaethau hyn ar hyn o bryd a’u rôl bosibl yn y dyfodol yn cael eu gwerthfawrogi ddigon gan y cyrff iechyd statudol. Awgrymodd fod angen i’r cyhoedd a’r cymunedau lleol deimlo y gallent gefnogi ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau cymunedol, ac mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid seilio’r rhain ar ddiogelwch, canlyniadau, cynaliadwyedd a mynediad. Cefnogaf y farn honno’n llwyr.

Canfu’r Dr Jones fod gan fyrddau iechyd lleol gynigion i wella a chryfhau gwasanaethau cymunedol, drwy gyfrwng eu fframweithiau gwasanaethau cymunedol a’u strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Rhaid i’r strategaethau hyn fod yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2008. Yr wyf wedi gofyn i’m swyddfeydd rhanbarthol archwilio’r strategaethau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r egwyddorion a amlinellwyd yn adroddiad y Dr Jones.

Mae adroddiad Jones yn gwneud nifer o argymhellion sydd wedi’u hanelu at y gymuned iechyd leol. Mae’r rhain yn cynnwys: bod angen cryfhau a datblygu arweinyddiaeth glinigol, sy’n llinyn cyffredin drwy’r adolygiadau yr wyf wedi’u cyhoeddi; bod angen cynhyrchu dogfen glir neu gynllun clir yn nodi’r gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol y byddaf yn eu rhoi ar waith; bod angen datblygu safleoedd arddangos a hyrwyddwyr gwasanaethau i gynnig esiamplau byw o’r math o wasanaethau sylfaenol a chymunedol a fydd ar gael yn y dyfodol; a bod angen penodi bwrdd iechyd lleol arweiniol i reoli’r ystâd gofal sylfaenol ac i fwrw ymlaen ag ef, gyda chymorth Comisiwn Dylunio Cymru ac Ystadau Iechyd Cymru.

Ceir nifer o argymhellion hefyd ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. Awgrymir y dylai: gynnig eglurder ynglŷn â threfniadau llywodraethu ar gyfer ysbytai cymunedol, gan gynnwys y ddarpariaeth y tu allan i oriau a gwasanaethau meddygon teulu; cynnwys targedau sy’n canolbwyntio ar y gymuned fel rhan o drefn rheoli perfformiad cyrff y GIG; nodi lefelau buddsoddi cyfredol mewn gwasanaethau cymunedol ledled Cymru; gweithio gyda Hysbysu Gofal Iechyd er mwyn gwella technoleg yn y maes; meithrin cysylltiad â’r cyhoedd drwy ddatblygu a gwella rôl cynghorau iechyd cymuned; meithrin cysylltiad â Chymdeithas Feddygol Prydain ac â Choleg Brenhinol y Nyrsys o ran datblygu staff gwasanaethau cymunedol ac edrych ar rolau arloesol ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol; ac, fel rhan o’r gwaith ar y cynllun iechyd gwledig, ystyried rôl y gwasanaeth y tu allan i oriau mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r Dr Jones wedi darparu cyfuniad o weledigaeth strategol a chynigion ymarferol. I mi, mae ei gasgliad cyffredinol bod angen gwneud mwy i ddatblygu arweinyddiaeth a chynigion ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn un nad oes modd dadlau yn ei gylch. Yng nghyswllt y cynigion hynny sy’n gyfrifoldeb i mi fel Gweinidog, ymatebaf cyn gynted ag y bo modd dros yr wythnosau nesaf, gan ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth a rheolaeth, yn ogystal ag ar bryderon penodol am y gwasanaethau. Yng nghyswllt y camau y bydd sefydliadau lleol y GIG yn gyfrifol amdanynt, mae’n hollbwysig iddynt afael yn yr awenau gan ddefnyddio’r adroddiad yn gyfrwng ar gyfer gwella a newid. Disgwyliaf i bawb sy’n ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn y gogledd hyrwyddo’r cysylltiad mwyaf posibl â’r agenda a bennir yn adroddiad Jones.

I gloi, Lywydd, yr wyf yn ddiolchgar iawn i’r Dr Jones am ei ymdrech sylweddol ac am dreulio cymaint o amser ar y gwaith hwn. Yn y datganiad hwn, yr wyf wedi canolbwyntio ar y negeseuon allweddol a chyffredinol a geir yn ei adroddiad. Mae’r ddogfen lawn yn cynnwys cyfoeth o fanylion. Mae’n anochel nad wyf ond wedi llwyddo i gyffwrdd â’r rheini y prynhawn yma. Gan fod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi bellach, gobeithiaf y caiff yr Aelodau gyfle i’w ystyried yn ei gyfanrwydd.