Heddiw, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyhoeddi ei chynigion ar gyfer mynd â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf rhagddi. Yn 'Cymru’n Un’, rhoesom ymrwymiad i barhau i fuddsoddi yn Cymunedau yn Gyntaf. Drwy wneud hyn, rhaid inni ddathlu ac adeiladu ar y llwyddiannau a wnaethpwyd ledled Cymru dan y rhaglen hyd yn hyn.
Mae nifer o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru wrth galon prosiectau adfywio yn eu cymunedau. Mae enghreifftiau o arfer da yn cynnwys partneriaethau sy’n rheoli asedau cymunedol pwysig, megis canolfannau cymunedol. Efallai eu bod yn ymwneud â datblygu gweithgareddau ieuenctid neu gefnogi polisïau’r Cynulliad, cynnal cynlluniau coginio a bwyta’n iach, trefnu cydweithfeydd bwyd, a threfnu’r cynlluniau Cerdded Llwybr Iechyd. Mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â chynorthwyo pobl i gael budd-daliadau a’u cynghori am ddyled.
Maent yn ymwneud hefyd, mewn nifer o achosion, â hyfforddiant sgiliau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Maent yn ymwneud â bancio-amser, ac yn cynnal prosiectau amgylcheddol, o weithgareddau glanhau lleol, a rhoi sglein ar ganol trefi i gynllun coedwigaeth Cydcoed. Maent yn hyrwyddo hanes lleol ac ymdeimlad o falchder yn y gymuned, ac yn gweithio gyda busnesau lleol i hyrwyddo carnifalau blynyddol yn eu trefi.
Fodd bynnag, rhaid inni hefyd gydnabod bod angen cryfhau rhai agweddau allweddol ar y rhaglen. Gwnaethpwyd hynny’n glir pan gyhoeddwyd y gwerthusiad annibynnol ar y rhaglen 18 mis yn ôl. Yn benodol, barn Llywodraeth Cynulliad Cymru yw bod angen i Gymunedau yn Gyntaf ganolbwyntio’n fwy clir ar fynd i’r afael yn ymarferol ag adfywio cymunedau.
Byddwn yn chwilio am dystiolaeth lwyddiannus o raglenni sy’n gweithio gyda phartneriaid eraill, megis awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a’r heddlu. Bydd yn rhaid i bartneriaethau gytuno ar set o flaenoriaethau strategol ar gyfer eu hardal, gosod allan pa ganlyniadau sy’n ofynnol er mwyn gwella, a sut y byddant yn gweithio gyda phartneriaid lleol. Yn sail i hyn, byddwn yn datblygu ac yn cryfhau fframwaith darparu Cymunedau yn Gyntaf, a elwir ar hyn o bryd yn fframwaith gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf.
Ar hyn o bryd, rhaid i weithgareddau y bydd partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn ymgymryd â hwy fynd i’r afael â chwe maes thematig: swyddi a busnes; yr amgylchedd; iechyd a lles; addysg a hyfforddiant; diogelwch cymunedol; a chymdeithasau byw. Dengys y dystiolaeth, gydag ambell eithriad nodedig, fod partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn llai tebygol o ganolbwyntio gweithgareddau ar greu swyddi, gwneud pobl leol yn fwy cyflogadwy neu gynhyrchu incwm. Bwriadwn ddiwygio’r fframwaith gweledigaeth drwyddo draw.
Byddwn yn disgwyl i weithgareddau a anelir at ddatblygu swyddi a busnes gynhyrchu mwy o incwm yn eu cymunedau. Hefyd, byddwn yn edrych ar beth y gellir ei wneud i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymunedau yn Gyntaf ac adfywio canol trefi. Yn olaf, byddwn yn ychwanegu thema newydd, sef mynd i’r afael â thlodi plant.
Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dibynnu ar gael cymdeithasau byw; felly, dylai’r syniad o gymdeithasau byw fod yn sail i’r rhaglen gyfan, yn hytrach na bod yn thema’i hun. Mae partneriaethau wedi gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn glir beth a ddisgwylir gan Gymunedau yn Gyntaf yn ystod cyfnod nesaf y rhaglen a hefyd sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol eraill, yn enwedig darparwyr gwasanaethau statudol, yn chwarae eu rhan wrth wireddu cydamcanion.
Wrth bwyso a mesur y rhaglen gyntaf, tynnwyd sylw at y ffaith bod llwyddiant Cymunedau yn Gyntaf yn aml yn dibynnu ar fynd ati i feithrin cysylltiad ag adnoddau rhaglenni’r brif ffrwd neu blygu’r adnoddau hynny. Mae’n hanfodol bod prif wasanaethau a rhaglenni Llywodraeth y Cynulliad, ei hasiantaethau ac awdurdodau lleol yn sicrhau adfywio cynaliadwy tymor hir a gwasanaethau cyhoeddus teilwng i bawb.
Er mwyn cefnogi plygu rhaglenni effeithiol a phrif-ffrydio prosiectau llwyddiannus, byddwn yn ceisio sefydlu cronfa canlyniadau newydd. Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf fydd yn arwain ceisiadau i’r gronfa, gan gydweithio â darparwyr gwasanaethau lleol. Byddwn yn disgwyl i’r prosiectau hyn ddangos tystiolaeth wirioneddol eu bod yn meithrin cysylltiad â’r sector statudol er mwyn iddo ddarparu ei wasanaethau’n fwy effeithiol ac yn fwy priodol ar gyfer pobl ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Disgwylir i ddarparwyr gwasanaethau ddangos ymrwymiad i’r rhaglen drwy ddarparu adnoddau ychwanegol a chyfartal drwy gydol y gweithgarwch.
Nid ydym yn bwriadu colli natur hanfodol Cymunedau yn Gyntaf, sef mai rhaglen a arweinir gan y gymuned ydyw, sy’n dibynnu ar gynyddu cyfraniad dinasyddion er mwyn llwyddo. Yn wir, ein barn yw y dylid dal i ddefnyddio’r term 'Cymunedau yn Gyntaf’ ar lefel leol. Nid oes diben meithrin cysylltiad â Dinasyddion er ei fwyn ei hun; ffordd o gael pobl leol i ymwneud â chynllunio a chanfod atebion arloesol lleol i broblemau lleol ydyw. Rhaid i gymunedau gymryd rhan at ryw bwrpas.
Yr ydym am weld mwy o gyfran o gyllideb Cymunedau yn Gyntaf yn mynd yn uniongyrchol i bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Felly, yr ydym yn adolygu’r trefniadau cefnogi eang sydd wedi’u sefydlu ers dechrau’r rhaglen. Wrth i bartneriaethau ddatblygu, dylai fod llai o angen cymorth allanol arnynt a’n bwriad fydd symud y gwariant hwnnw i’r rheng flaen.
yddwn hefyd yn cymryd camau i ddelio â phartneriaethau sy’n methu. Mae’r ddogfen ymgynghori’n awgrymu nifer o ffactorau hanfodol sy’n dangos llwyddiant y gellir eu defnyddio i fesur cynnydd. Ymhlith y rhain, er enghraifft, mae denu arian allanol i gymunedau o’r tu allan i raglen Cymunedau yn Gyntaf.
Bydd partneriaethau llwyddiannus yn wynebu gwahanol heriau a byddant yn aml yn dyheu am ddod yn fentrau cymdeithasol. Yr ydym wedi comisiynu adolygiad o’n strategaeth mentrau cymdeithasol a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu mentrau cymdeithasol diwygiedig yn ddiweddarach eleni. Anogir y partneriaethau mwyaf llwyddiannus i gefnogi ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf eraill. Mae’r ddogfen ymgynghori’n gosod allan ein cynigion yn fwy manwl ac yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol i’w trafod a chynnig eu sylwadau cyn y bwrir ymlaen â’r gwaith. Ar ôl cwblhau’r ymgynghori, gwahoddir partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i gyflwyno ceisiadau am arian yn unol ag egwyddorion Cymunedau Nesaf am y tair blynedd rhwng 2009 a 2012.
Diolchaf i aelodau allanol y grŵp gorchwyl a gorffen, yr Athro Dave Adamson, Barbara Castle, Anne Delaney, Roger Tarling a’r Dr Tim Williams, am eu cyfraniad. Fel y dywedwn yn y ddogfen, yr ydym am weld trosi pŵer a chyfoeth go iawn i bobl yn y cymunedau tlotaf yn benodol. Cymeradwyaf y ddogfen ymgynghori hon i’r Cynulliad.