Skip to content

Ysgrifenedig - Y Cynllun Peilot Teithio Rhatach ar y Rheilffyrdd

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Yr wyf wedi penderfynu parhau â’r cynllun peilot teithio rhatach ar y rheilffyrdd ar linell Calon Cymru ac ar linell Dyffryn Conwy am flwyddyn arall, gan gyflwyno ychydig o newidiadau. Yr wyf wedi penderfynu hefyd ehangu’r cynllun peilot i gynnwys rheilffordd Arfordir Cambria yn y gaeaf, a’i gyflwyno gydol y flwyddyn ar y rhan o linell rheilffordd Wrecsam -­ Bidston sydd yng Nghymru.

Bydd deiliaid cardiau yng Ngwynedd yn gymwys i gael teithio am ddim rhwng Machynlleth a Phwllheli rhwng mis Hydref a mis Ebrill, gan gynnwys y misoedd hynny, ond bydd rhai cyfyngiadau ar y trenau prysur sy’n cludo plant i’r ysgol. Bydd cynllun Wrecsam - Bidston ar gael i ddeiliaid cardiau yn Sir y Fflint ac yn Wrecsam o 18 Mai ymlaen, ond ni fydd ar gael ar y trên sy’n teithio i Wrecsam yn ystod oriau brig prysur y bore.

Gwnaed y penderfyniad gennyf ar ôl i mi ystyried adroddiad gwerthuso a gyflwynwyd gan Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg ac adroddiad a gyflwynwyd gan weithgor ad hoc a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, y partneriaethau rheilffordd cymunedol ar gyfer yr ardaloedd lle cynhaliwyd y cynllun peilot, Trenau Arriva Cymru a Thîm Rheilffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Daethpwyd i’r casgliad yn y naill adroddiad a’r llall bod y cynllun peilot wedi bod yn fuddiol mewn sawl ffordd. Un o’r manteision oedd ehangu’r cynllun teithio am ddim ar fysiau i gynnwys trenau. Roedd y cynllun peilot o fudd hefyd i’r economi leol ac yn fanteisiol o ran hygyrchedd cymdeithasol. Arweiniodd at rywfaint o newid yn y modd y mae pobl yn mynd ati i deithio ac at lai o deithio mewn ceir, a bu’n fodd i wella lles.

Er hynny, gwelwyd yn ystod yr adolygiad bod yn rhaid darparu mwy o gerbydau trên ar reilffordd Calon Cymru er mwyn bodloni’r galw yn ystod yr haf, a oedd yn uwch na’r disgwyl. Ychydig o weithiau yn ystod yr haf, er bod cerbydau ychwanegol wedi’u darparu, roedd y trenau’n rhy llawn ac nid oedd pobl yn gallu mynd i mewn iddynt mewn mannau ar hyd y rheilffordd. Roedd tuedd i bobl deithio dros bellter hir at ddibenion yn gysylltiedig â thwristiaeth - yn enwedig i’r Amwythig - er mai’r bwriad gwreiddiol oedd hwyluso siwrneiau lleol at ddibenion cymdeithasol. Cafodd deiliaid cardiau a oedd am deithio at ddibenion cymdeithasol lleol, a chwsmeriaid a oedd yn talu, eu rhwystro rhag teithio.

Aeth y gweithgor ati i ystyried nifer o ddewisiadau er mwyn cyfyngu ar y cynllun, gan anelu at leihau’r galw yn ystod yr haf a lleihau problemau gorlenwi ar reilffordd Calon Cymru. Er iddo ystyried y mater yn drwyadl, nid oedd modd iddo ddod i’r casgliad y byddai unrhyw newidiadau’n gallu cyfyngu ar y galw i’r fath raddau fel y byddai modd osgoi cost cerbydau ychwanegol a gwarantu y byddai modd osgoi gorlenwi.

Roedd yr effaith y byddai’r galw am deithio am ddim yn ei chael ar allu cyfyngedig y trenau i ymdopi â’r galw yn ystyriaeth bwysig pan aed ati i ddyfeisio’r cynllun peilot. Mae Trenau Arriva Cymru yn cael cymhorthdal sylweddol eisoes ar gyfer ei wasanaethau cyffredinol.

Yr wyf wedi cytuno gyda Threnau Arriva Cymru na fyddem yn cael y gwerth gorau am ein harian pe baem yn parhau i dalu’r costau uchel sy’n gysylltiedig â darparu cerbydau trên ychwanegol er mwyn galluogi pobl i deithio am ddim ar reilffordd Calon Cymru yn ystod yr haf, pan fo teithwyr sy’n talu yn wynebu problemau mewn mannau eraill o safbwynt gorlenwi.

Un o’r blaenoriaethau yn ystod yr haf, a hynny ers tro, yw anfon cerbydau trên o ardaloedd cymudo prysur - lle mae llawer yn llai o alw yn ystod prif wyliau’r ysgol- i Orllewin Cymru ac Arfordir Cambria yn ystod yr haf. Nid oes adnoddau dihysbydd ar gael o ran y fflyd trenau a phe bawn yn neilltuo cerbydau trên ar gyfer teithio am ddim ar reilffordd Calon Cymru yn ystod yr haf, byddai problemau gorlenwi’n codi mewn ardaloedd twristiaeth eraill.

O’r herwydd, bydd y cynllun peilot ar reilffordd Calon Cymru yn parhau am ail flwyddyn beilot yn unig yn ystod misoedd y gaeaf – rhwng mis Hydref a mis Ebrill.

Yr un rhesymau sydd i gyfrif am fy mhenderfyniad i gynnig y cynllun peilot ar gyfer Arfordir Cambria yn ystod misoedd y gaeaf - rhwng mis Hydref a mis Ebrill.

Ni fydd unrhyw gyfyngiadau tymhorol ar reilffordd Dyffryn Conwy na’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston, lle bydd y cynllun yn dechrau ar 18 Mai.

Yr wyf yn sylweddoli y bydd hyn yn siom i reilffordd Calon Cymru, ond mae’n rhaid i mi fod yn realistig wrth weithredu’r ymrwymiad yn Cymru’n Un i ehangu’r cynllun teithio rhatach ar y rheilffyrdd i ddeiliaid Cerdyn Cymru.

Hoffwn bwysleisio mai cynllun peilot a gynigir yn ystod yr ail flwyddyn hon, a chaiff y cynllun hwnnw ei werthuso’n ffurfiol. Yr wyf yn cadw’r hawl i adolygu’r cynllun a’i newid neu ei gwtogi os gwelir, yng ngoleuni profiad, bod angen gwneud hynny, yn enwedig o safbwynt lefel y galw. Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n agos ar y cyd â Threnau Arriva Cymru.