Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
Mae hyrwyddo cynhwysiant ariannol a mynd i'r afael â thlodi, yn arbennig tlodi plant, yn hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac i iechyd a lles pawb. Mae cynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau a gwella incwm pobl yn gam pwysig yn ein hymdrechion i fodloni ymrwymiad Cymru'n Un i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae hefyd yn ategu ein cynlluniau yn Cymru'n Un i ehangu'r cyngor sy'n cael ei roi ar fudd-daliadau a'n strategaeth cynhwysiant ariannol.
Yn 2006-07, dyrannodd Llywodraeth y Cynulliad £1.5m i awdurdodau lleol i'w cefnogi yn eu hymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy'n hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor (CTB), yn arbennig o blith pensiynwyr. Er bod ffactorau eraill i'w hystyried ac ni allwn gymryd y clod i gyd, cynyddodd nifer y rhai dros 60 sy'n hawlio budd-daliadau yn sylweddol yn ystod y flwyddyn.
Hawliodd tua 7,000 yn fwy o bobl dros 60 oed CTB rhwng Mai 2005 a Chwefror 2007 ar draws Cymru gyfan. Gyda £12 yr wythnos ar gyfartaledd yn cael ei hawlio, mae hynny'n golygu swm ychwanegol o £4.3m y flwyddyn yn cael ei dalu allan mewn budd-dal.
Roedd gwraig 60 oed wedi gwneud cais am Fudd-dal y Dreth Gyngor ddwy flynedd ynghynt, ond dywedwyd wrthi nad oedd yn gymwys gan fod ei hincwm yn rhy uchel. Pan ffoniodd y Tîm oedd yn delio â'r ceisiadau darganfu ei bod, a hithau bellach yn 60 oed, yn gymwys am ostyngiad yn ei Bil Treth Gyngor o bron i hanner.
Ond roedd y darlun yn anghyson, gyda rhai awdurdodau lleol yn gweld cynnydd sylweddol yn y ceisiadau ac eraill yn llai felly. Yn wir, gwelodd ychydig o awdurdodau ostyngiad yn nifer yr hawlwyr.
Gall fod nifer o resymau dros hyn ond pan fydd ymchwil gan yr Adran Gwaith a Phensiynau'n dangos bod tua £100 miliwn o fudd-dal y dreth gyngor heb gael ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, ni allwn fforddio i eistedd yn ôl a dweud ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu - mae llawer i'w wneud o hyd.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun blaenorol, mae'n bwysig ein bod yn cadw'r momentwm. Rydym felly wedi dyrannu £1m y flwyddyn ar gyfer y tair blynedd rhwng 2008-2011 i roi cefnogaeth bellach i Awdurdodau Lleol yn eu hymdrechion i gynyddu'r ceisiadau am Fudd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai (HB), ac i ehangu'r sylw i gynnwys teuluoedd â phlant yn ogystal â phensiynwyr. Mae oddeutu un aelwyd o bob tair yn gymwys, ac nid yw llawer ohonynt yn ymwybodol y gallant gael cymorth gyda biliau.
Cafodd y Tîm Buddiannau hefyd alwad ffôn gan ddyn 28 oed a oedd ar gyflog isel ac yn ei chael hi'n anodd talu bil y Treth Gyngor i gynnal ei bartner a'u tri phlentyn. Nid oedd y dyn yn ymwybodol y gallai pobl mewn gwaith hawlio cymorth i dalu am eu bil Treth Gyngor hyd nes iddo siarad â'r Tîm a oedd yn delio â cheisiadau. Roedd yn gymwys am Fudd-dal llawn y Dreth Gyngor a hefyd Budd-dal Tai i helpu i dalu am ei rent.
Roedd dyn arall, a oedd wedi'i wneud yn ddi-waith yn ddiweddar ar ôl 20 mlynedd mewn gwaith, yn pryderu ynghylch hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor, gan nad oedd am gael ei weld fel rhywun a oedd yn byw ar gefn pobl eraill. Ar ôl siarad â'r Adran Dreth Gyngor a'r Tîm Budd-daliadau cafodd help i ddeall bod ganddo bob hawl i wneud cais am fudd-daliadau gan ei fod wedi talu tuag at y taliadau hyn yn yr ugain mlynedd diwethaf. Ar ddiwedd yr alwad dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi'r cymorth a'r ddealltwriaeth a gafodd a dywedodd ei fod bellach yn teimlo'n fwy positif ynghylch hawlio'r cymorth yr oedd ei angen arno. Roedd ganddo bob hawl i Fudd-dal y Dreth Gyngor.
Yn ogystal â'r cyllid hwn sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru weithgor i ymchwilio i'r rhwystrau i hawlio CTB yng Nghymru ac i dynnu sylw at arfer gorau a'i hyrwyddo, yn seiliedig ar brofiad yr awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i gynyddu nifer y ceisiadau am CTB yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod hyn wedi'i wneud ar lefel y DU, mae angen inni edrych arno o safbwynt Cymru a nodi'r hyn y gallwn ei wneud
Roedd aelodau'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o swyddfeydd budd-daliadau llywodraeth leol (Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg), y Gwasanaeth Pensiwn ( Yr Adran Gwaith a Phensiynau), Cyngor ar Bopeth Cymru, Tenovus, Gofal Henoed Cymru ac Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru - yr Is-adrannau Cymunedau'n Gyntaf a Chyllid Llywodraeth Leol.
Cylch gwaith y gweithgor oedd nodi:
- y rhwystrau i hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor a'r Budd-dal Tai yng Nghymru;
- beth yw graddfa a natur y rhesymau dros beidio â hawlio;
- pa mor bwysig yw hyn o safbwynt ariannol i wahanol fathau o aelwydydd; a
- beth y gellir ei wneud ar lefel leol neu genedlaethol i oresgyn y rhwystrau.
Mae'r gweithgor wedi llunio adroddiad, sy'n nodi'r rhwystrau ac yn gwneud awgrymiadau ymarferol o ran sut y gall awdurdodau lleol oresgyn y rhwystrau hyn a chyrraedd mwy o'r bobl nad ydynt yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt.
Dyma rai o argymhellion allweddol yr adroddiad hwnnw:
- symleiddio’r ffurflenni cais am fudd-dal
- ei gwneud yn hawdd cael hyd i wybodaeth ar wefannau awdurdodau lleol
- sicrhau cefnogaeth wleidyddol trwy gael yr awdurdodau lleol i’w hymgorffori yn eu cynlluniau busnes gyda’r nod o gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau
- meithrin cysylltiadau â’r sector gwirfoddol er mwyn cydweithio â hwy.
Nod yr adroddiad hwn, yw tynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â hawlio CTB a Budd-dal Tai (HB) a helpu awdurdodau i wneud y defnydd gorau o'r arian sydd ar gael iddynt. Sylweddolwn na fydd yr holl argymhellion yn briodol i bob awdurdod ond bwriad yr adroddiad hwn yw helpu awdurdodau a'u sefydliadau partner i gael cymaint o bobl â phosibl i hawlio CTB a HB.
Nid yn unig gallai hyn olygu cynnydd sylweddol i incwm aelwydydd a gwella ansawdd bywyd unigolion, ond gallai hefyd olygu mwy o effaith ar yr economi leol. Yn ôl pob tebyg mae'r ffaith fod mwy o incwm ar gael i'w wario yn golygu y bydd o leiaf peth ohono'n cael ei wario mewn ardaloedd lleol, gan felly gefnogi siopau a busnesau lleol.
Nododd y grŵp hefyd rai rhwystrau nad oeddent o fewn gallu awdurdodau lleol i ymdrin â hwy. Mae'r rhain yn cynnwys trothwyon enillion ac arbedion; y derminoleg a ddefnyddir yn y system fudd-daliadau; rhannu gwybodaeth; a'r terfyn amser arfaethedig o 3 mis o ran ôl-ddyddio CTB a HB. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU yn ddiweddar i fynegi fy mhryderon am y materion hyn.