Skip to content

Llafar - Hynt y gwaith sy’n mynd rhagddo i nodi a mynd i’r afael ag anghenion Ardaloedd Gwledig Anghysbell

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Diben fy natganiad heddiw yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynt y gwaith a wneir mewn perthynas â’r ymrwymiad a geir yn 'Cymru’n Un’ i gydweithio ag awdurdodau lleol er mwyn nodi a mynd i’r afael ag anghenion ardaloedd gwledig anghysbell.

Yn fy marn i, mae gweithredu ar yr ymrwymiad hwn yn gyfle i fynd i’r afael â’r pryderon bod cymunedau gwledig diarffordd o dan anfantais am eu bod yn bellach o lawer oddi wrth wasanaethau allweddol na mannau eraill yng Nghymru. O’r herwydd, yr wyf wedi comisiynu ymchwil er mwyn rhoi prawf ar ragdybiaethau cyffredin ac fel bod modd ystyried yr amryfal faterion sy’n gysylltiedig â mynediad at wasanaethau ac â darparu gwasanaethau mewn cymunedau gwledig anghysbell. Yr wyf am i ganlyniadau’r ymchwil hwn fod ar gael cyn toriad yr haf yn 2009.

Yr oedd yn glir o’r cychwyn cyntaf nad oedd diffiniad safonol ar gael o 'ardaloedd gwledig anghysbell’, felly, er mwyn inni bennu mewn modd clir a chyson yr hyn a olygir wrth ardaloedd o’r fath, rhoddais gyfarwyddyd i fy swyddogion ddatblygu set syml o feini prawf a fyddai’n seiliedig ar y gwasanaethau a ddarperir ac ar fynediad at y gwasanaethau hynny.

Nid oedd y dasg hon mor hawdd ag yr ymddangosai ar yr olwg gyntaf, gan fod yn rhaid edrych yn fanwl ar nodweddion penodol ardaloedd gwledig anghysbell, a’u cymharu â’r hyn a ddeellir wrth ardaloedd gwledig yn fwy cyffredinol.

Daethpwyd i’r casgliad mai’r diffiniad o ardaloedd gwledig anghysbell yw mannau y mae’n cymryd mwy na hanner awr ar gyfartaledd i yrru yno o dref ac ynddi 10,000 o bobl. Fel arfer, mewn trefi sydd â thua 10,000 o bobl, mae darpariaeth dda o ran gwasanaethau iechyd, gwasanaethau ariannol, gwasanaethau hamdden a gwasanaethau eraill, ond nid oes gan gymunedau llai, mwy anghysbell, amrediad mor gynhwysfawr o wasanaethau, neu mae angen i bobl deithio er mwyn manteisio ar y gwasanaethau hynny.

At ddibenion yr astudiaeth hon, mae diffinio ardal wledig anghysbell yn ardal y mae’n cymryd hanner awr i yrru iddi o dref sydd â 10,000 o bobl yn crisialu’r ymdeimlad ymhlith trigolion yr ardaloedd hynny eu bod ar yr ymylon ac wedi’u hynysu o’r prif ganolfannau lle darperir gwasanaethau. Yr wyf wedi ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n cytuno â’r diffiniad hwn ac sy’n cefnogi fy mwriad i gynnal ymchwil i anghenion ardaloedd gwledig anghysbell o’r fath.

Yn ôl y diffiniad hwn, mae ardaloedd gwledig anghysbell yn rhannau gwledig gogledd-ddwyrain Ynys Môn, yng Ngwynedd, yng Nghonwy, yn sir Ddinbych, ym Mhowys, yng ngorllewin bro Gŵyr yn Abertawe, yng Ngheredigion, yn sir Gaerfyrddin ac yng ngogledd sir Benfro. Er mwyn llywio’r gwaith, mae fy swyddogion wedi gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i bennu cymunedau gwledig mwy anghysbell lle gellid mynd ati i wneud gwaith ymchwil manwl.
Arsyllfa Wledig Cymru, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, fydd yn cynnal yr ymchwil yn yr ardaloedd a fydd yn cael eu hastudio. Mae’r arsyllfa wedi ennill ei phlwyf ym maes darparu tystiolaeth am faterion gwledig, a hynny er mwyn helpu i lywio gwaith datblygu polisi.

Yr ydym wedi nodi pedair cymuned addas ar gyfer yr astudiaeth, sef un yng ngogledd Powys yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa ger Llanfyllin, a’r llall yn ne Powys yn ardal Llangamarch. Y ddwy gymuned arall a fydd yn cael eu hastudio fydd ardal Tegryn yng ngogledd sir Benfro ac Aberdaron ym mhenrhyn Llŷn.

Dewiswyd yr ardaloedd hyn ar gyfer yr astudiaeth am eu bod yn cydymffurfio â’r diffiniad, sef ei bod yn cymryd tua hanner awr i yrru yno o dref ac ynddi 10,000 o bobl. Rheswm arall dros eu dewis oedd am fod ynddynt rhwng 180 a 500 o aelwydydd, sef y niferoedd sydd eu hangen er mwyn cynnal arolygon llwyddiannus. Ystyriaeth arall wrth ddewis yr ardaloedd hyn oedd y ffaith nad oedd y cymunedau hynny yn gallu manteisio ar ystod o wasanaethau pwysig, a gafodd eu nodi drwy waith dadansoddi cyfrifiadurol gan ddefnyddio system wybodaeth ddaearyddol.

Mae Arsyllfa Wledig Cymru wrthi’n penderfynu ar ffurf derfynol yr astudiaeth gan ymgynghori â’r awdurdodau lleol dan sylw. Bydd gofyn i drigolion ardaloedd gwledig anghysbell a darparwyr gwasanaethau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ymateb i holiadur ar nifer o themâu sy’n ymwneud â gwasanaethau. Bwriedir gofyn hefyd i gyfran o’r rheini a fydd yn ymateb i’r holiadur gymryd rhan mewn cyfweliadau ategol.

Byddaf hefyd, o fewn y portffolio sydd gennyf fel Gweinidog, yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio’r wybodaeth a ddaw i law drwy’r gwaith hwn i gefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy ac i ategu mesurau sy’n bodoli eisoes dan echelau 3 a 4 y cynllun datblygu gwledig.

Caiff canlyniadau’r ymchwil eu rhannu â holl awdurdodau lleol Cymru. Yr wyf yn argyhoeddedig y bydd ein hymrwymiad i’r prosiect hwn yn annog pob sector i ystyried a datblygu modelau arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau, ac y bydd y prosiect yn darparu tystiolaeth a fydd yn dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisïau a fydd yn anelu at sicrhau bod ein holl gymunedau gwledig yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Yr wyf wedi cyfeirio at yr heriau, a chredaf ei bod hefyd yn briodol i mi atgoffa Aelodau ein bod eisoes wedi rhoi bron £50 miliwn i helpu cymunedau gwledig dan echelau 3 a 4 y cynllun datblygu gwledig. Yr ydym yn cydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn symleiddio pethau ar gyfer y cylch nesaf o lunio cynlluniau busnes. Y pwynt pwysig yw y bydd y gwaith hwn ar ardaloedd gwledig anghysbell yn gyfle i ni roi ffocws mwy penodol i echelau 3 a 4 y tro nesaf a sicrhau manteision gwirioneddol i’r ardaloedd lle mae’r anghenion mwyaf.