Skip to content

Llafar - Adolygiad Deintyddol—Adroddiad Ymgynghori

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ddiwedd y llynedd cyhoeddais adolygiad o’r contract deintyddol a sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar ystod o faterion i wella’r ffordd y mae’r contract yn gweithio. Cwblhaodd y grŵp adolygu ei waith yn ystod mis Gorffennaf a chyflwynodd ei adroddiad. Daeth i’r casgliad fod y contract deintyddol yn system ymarferol yn gyffredinol ac, o’i diwygio, yn un y gellid gwella ymhellach arni. Yr oedd yn ddefnyddiol imi weld yn union lle yr oedd deintyddion, byrddau iechyd lleol a chleifion yn credu y gellid gwneud gwelliannau i’r contract. Ar sail ei ddadansoddiad, gwnaeth y grŵp 23 o argymhellion wedi eu cynllunio i wella effeithiolrwydd y contract a sicrhau gwelliannau i iechyd y geg. Gwneuthum ddatganiad ar y pryd gan ddweud bod argymhellion y grŵp yn haeddu ystyriaeth mor eang â phosibl. Fel y dywedais ar y pryd, mae’r adroddiad wedi cael ei ddosbarthu i bob ymarferydd deintyddol yng Nghymru sy’n darparu gwasanaeth y GIG, a gwahoddir sylwadau ar ei gynigion. Rhoddwyd copïau o adroddiad grŵp yr adolygiad i Aelodau’r Cynulliad hefyd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar argymhellion yr adroddiad dros yr haf a daeth i ben ddiwedd Medi. Yr wyf wedi fy mhlesio gyda’r ymateb. Gyda’i gilydd, cafwyd 162 o atebion i holiadur yr ymgynghoriad o bob cwr o Gymru, gydag ymarferwyr deintyddol ym mhob ardal bwrdd iechyd lleol yn ymateb. Bydd copïau o grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael i Aelodau’r Cynulliad ac yn cael ei roi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w hystyried yn fwy cyffredinol.

Yr oedd cytundeb amlwg ar y cyfan gyda chanfyddiadau cyffredinol adroddiad y grŵp, ac yr oedd ymhell dros 60 y cant o’r rhai a ymatebodd yn cytuno’n gryf â’i gasgliad bod y contract presennol yn ymarferol, yn amodol ar y newidiadau a argymhellwyd. Cafodd rhai o argymhellion penodol y grŵp gefnogaeth gyffredinol. Yn arbennig, cafwyd cefnogaeth gyffredinol i’r dymuniad i ganiatáu i ymarferwyr deintyddol godi tâl yn ôl disgresiwn ar gleifion nad ydynt yn mynychu apwyntiadau, a sicrhau twf blynyddol dyraniadau cyllid gofal deintyddol sylfaenol BILlau. Yr oedd cefnogaeth gref hefyd am gyfarwyddyd cenedlaethol ar derfynu a throsglwyddo contractau deintyddol, a’r angen am help i ddiweddaru offer deintyddfa i fodloni gofynion statudol newydd.

Gwelwyd yr adolygiad presennol o unedau gweithgaredd deintyddol fel unig sail y contract hefyd fel maes allweddol. Mae is grŵp y prif adolygiad sy’n parhau i weithio ar y materion cymhleth hyn, ac edrychaf ymlaen at weld ei adroddiad terfynol a’i gynigion ar gyfer gweithredu.

Gofynnais i’r Athro Wayne Richards, fel cadeirydd, ailgynnull y grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r ymatebion ymgynghori a chynhyrchu adroddiad arall imi ei ystyried. Cyfarfu grŵp yr adolygiad ar 4 Tachwedd a bydd yn rhoi cyngor ychwanegol imi cyn bo hir ar ei ganfyddiadau. Gan ystyried barn y rhai sy’n ymateb i’r ymgynghoriad, yr wyf wedi gofyn i’r grŵp ystyried yr angen i flaenoriaethau’r argymhellion, a hefyd i nodi unrhyw feysydd yr oedd yr ymatebwyr yn teimlo nad aethpwyd i’r afael â hwy’n ddigonol yn yr adolygiad cychwynnol. Ar ôl imi dderbyn adroddiad grŵp yr adolygiad gan yr Athro Richards, byddaf mewn sefyllfa i gynnig ymateb swyddogol a nodi sut yr hoffwn weithredu ar y newidiadau arfaethedig.

Yn gysylltiedig â gwaith grŵp adolygu’r contract deintyddol mae’r angen i fraenaru’r tir ar gyfer cyfnerthu a chryfhau’r gwasanaeth deintyddol cymunedol fel rhan o’n hymrwymiad yn 'Cymru’n Un’ i roi ffocws o’r newydd ar y ffordd y darperir gwasanaethau deintyddol er mwyn rhoi pwyslais newydd ar iechyd y cyhoedd. Drwy’r broses adolygu, cefais adroddiad yn ystod yr haf ar rôl a strwythur y gwasanaeth deintyddol cymunedol ar gyfer y dyfodol a wnaeth nifer o argymhellion ynghylch gweithrediad y gwasanaeth. Bydd angen edrych ar rai o’r rhain yng nghyd-destun ailstrwythuro ehangach yn GIG Cymru. Fodd bynnag, argymhellodd yr adroddiad hefyd gyfarwyddyd diwygiedig ar rôl y gwasanaeth deintyddol cymunedol a gofal y rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys plant o ardaloedd difreintiedig a phobl a chanddynt anghenion arbennig. Cyhoeddwyd y cyfarwyddyd hwn ddiwedd mis Hydref a bydd yn cryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol ar gyfer y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cefnogi datblygu’r gwasanaeth deintyddol cymunedol.

Mae’r gwasanaeth deintyddol cymunedol hefyd yn darparu’r rhaglen wella genedlaethol ar iechyd y geg i blant, sef Cynllun Gwên, sydd wrth wraidd cynllun gweithredu cenedlaethol ar iechyd y geg Cymru. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi i gam cyntaf y rhaglen Cynllun Gwên ddechrau fis diwethaf, ac mae eisoes yn darparu rhaglenni brwsio dannedd mewn ymhell dros 100 o ysgolion. Caiff y rhaglen hon ei chyflwyno’n raddol ar draws dwy ardal beilot fawr sy’n cwmpasu’r gogledd, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerdydd ac ardaloedd Bro Morgannwg. Mae nifer o ysgolion yn Abertawe hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Er bod yr adolygiad o gontractau deintyddol a’r ymgynghoriad dilynol ar ei ganfyddiadau yn dangos yn glir bod y proffesiwn deintyddol am weithio â’r system bresennol, mae llawer i’w wneud o hyd. Er inni sefydlogi deintyddiaeth y GIG yng Nghymru ac adeiladu sylfaeni ar gyfer y dyfodol, mae angen inni yn awr sicrhau bod y contract deintyddol yn gweithio cystal â phosibl a’i fod yn sicrhau buddiannau i’r cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y proffesiwn deintyddol.