Skip to content

Llafar - Arddangos Celf Weledol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, Y Gweinidog Dros Dreftadaeth

Ym mis Ionawr 2006, cyhoeddwyd adroddiad David Clarke Associates ar arddangos celfyddyd yng Nghymru yn y dyfodol, ac, yn sgîl hynny, aeth y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar y pryd ati i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar sefydlu oriel genedlaethol a chanolfan genedlaethol celfyddyd gyfoes.

Ym mis Gorffennaf 2007, aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati yn 'Cymru’n Un’ i amlinellu ei hymrwymiad i ymchwilio i’r ymarferoldeb o greu oriel gelfyddyd genedlaethol i Gymru.

Heddiw, yr wyf yn falch o fedru dweud wrthych fod yr astudiaeth ddichonoldeb ar yr oriel genedlaethol ac ar y ganolfan genedlaethol celfyddyd gyfoes wedi’i chwblhau.

Ers 2000, cafwyd nifer o astudiaethau i ystyried sut i arddangos celfyddyd weledol yng Nghymru yn y dyfodol. Yr oedd rhoi ystyriaeth drwyadl i’r mater hwn yn bwysig am fod Canolfan y Celfyddydau Gweledol yng Nghaerdydd wedi cau yn 2000, ar ôl 18 mis yn unig.

Yr oedd yr adroddiadau cynharach yn gwahaniaethu rhwng anghenion celfyddyd gyfoes ac anghenion casgliadau celfyddyd hanesyddol Cymru, sy’n cael eu cadw gan Amgueddfa Cymru. Daethpwyd i’r casgliad bod rôl a swyddogaeth oriel genedlaethol yn wahanol iawn i rôl a swyddogaeth sefydliad comisiynu, ac o’i herwydd bod angen dwy safle ar wahân ar eu cyfer, sef, yn gyntaf, oriel gelfyddyd genedlaethol, ac, yn ail, canolfan genedlaethol celfyddyd gyfoes.

Mae’r adroddiad yn nodi y byddai goblygiadau sylweddol iawn o ran cost yn gysylltiedig â sefydlu oriel genedlaethol a chanolfan genedlaethol celfyddyd gyfoes, ac y byddai’r naill brosiect a’r llall yn brosiectau mawr a hirdymor.

Yn achos yr oriel genedlaethol, mae’r adroddiad yn argymell y dylid adeiladu adain y gogledd newydd ar safle presennol yr Amgueddfa Genedlaethol ym mharc Cathays. Byddai hyn yn golygu y byddai modd symud yr arddangosfeydd gwyddoniaeth a geir yno ar hyn o bryd i’r adain newydd er mwyn creu amgueddfa wyddoniaeth ym mharc Cathays. Byddai modd wedyn defnyddio safle’r Amgueddfa Genedlaethol yn ei gyfanrwydd i arddangos celfyddyd, gan greu oriel genedlaethol. Yn ôl prisiau 2008, amcangyfrifir y byddai costau cyfalaf y prosiect hwn yn £85.5 miliwn, ac y byddai costau rhedeg o dros £700,000 y flwyddyn yn ychwanegol at hynny.

Yn achos y ganolfan genedlaethol celfyddyd gyfoes, mae’r adroddiad yn argymell y dylid sefydlu canolfan ar raddfa fawr er mwyn creu adeilad nodedig a fyddai’n tystio i statws rhyngwladol Cymru ym myd y celfyddydau cyfoes. Yn ôl prisiau 2008, amcangyfrifir y bydd costau cyfalaf y prosiect yn £38.8 miliwn, y bydd y costau datblygu yn £2.5 miliwn dros chwe blynedd, a’r costau rhedeg yn £1.5 miliwn y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu’r ffaith bod yr astudiaeth ddichonoldeb hon wedi’i chyhoeddi, ac mae’n dal i fod yn ymrwymedig i ffyniant diwylliannol Cymru. Er hynny, nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Amgueddfa Cymru na Chyngor Celfyddydau Cymru yr adnoddau i fwrw ymlaen â’r prosiectau hyn yn y tymor byr na’r tymor canolig. Mae’r ffaith nad oes adnoddau cyfalaf ar gael o’r Loteri Genedlaethol yn gwaethygu’r sefyllfa, ac o’r herwydd, o fod yn realistig, ni fyddai modd ystyried y naill brosiect na’r llall tan rywbryd yn ystod y blynyddoedd ar ôl 2012.

Nid yw datblygu oriel genedlaethol yn un o flaenoriaethau Amgueddfa Cymru ar hyn o bryd. Mae’r amgueddfa o’r farn bod prosiect o’r fath yn bwysig yn y tymor hir, ond mae’n cydnabod y bydd angen gwneud llawer iawn mwy o waith datblygu a gwneud ymdrechion sylweddol i godi arian cyn y gellir mynd â’r maen i’r wal. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd yr amgueddfa’n mynd ati i adrodd hanes pobl Cymru. Er y bydd yn canolbwyntio ar ddatblygiadau newydd yn Sain Ffagan, bydd yr amgueddfa hefyd yn adrodd yr hanes hwn ym mhob un o’i safleoedd, yn enwedig yn Llanberis, er enghraifft. O fod yn realistig felly, ni fyddai modd datblygu’r oriel gelfyddyd a’r amgueddfa wyddoniaeth tan 2015 i 2020. Yn y tymor byr, mae’r amgueddfa wedi nodi bod datblygu adain y gorllewin yn un o’r blaenoriaethau allweddol er mwyn symud ymlaen at sefydlu oriel genedlaethol. Byddai datblygiad o’r fath yn ehangu mynediad i’r eitemau sydd yn y casgliad cenedlaethol, drwy ddarparu 40 y cant yn fwy o le ar gyfer eu harddangos.

Mae’n dda gennyf gyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn cefnogi’r datblygiad hwn, yn rhoi £1 miliwn i’r amgueddfa yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn iddi fedru bwrw ymlaen â’r prosiect hwn. Unwaith y bydd prosiect adain y gorllewin wedi’i gwblhau, bydd llawr cyntaf yr amgueddfa yn ei gyfanrwydd yn cael ei neilltuo ar gyfer arddangos celfyddyd, gan sicrhau y bydd holl bobl Cymru’n gallu mwynhau’n casgliadau cenedlaethol.

Mae creu canolfan genedlaethol celfyddyd gyfoes yn dal yn un o ddyheadau Cyngor Celfyddydau Cymru yn y tymor hir. Er hynny, mae cyngor y celfyddydau’n cydnabod mai prosiect ar gyfer y tymor hir yw hwn ac y byddai angen meithrin partneriaethau newydd a mynd ati’n ddyfal i godi arian. Unwaith eto, ac ystyried y cyfyngiadau ar gyllid cyfalaf o’r Loteri Genedlaethol, ac o fod yn realistig, ni fyddai modd bwrw ymlaen â’r prosiect hwn tan rywbryd yn ystod y blynyddoedd ar ôl 2012.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, felly, yn parhau i weithio gyda chyngor y celfyddydau i ddatblygu’r sector celfyddyd weledol yng Nghymru. Ers i adroddiad Pratley gael ei gyhoeddi yn 2000, mae cyngor y celfyddydau wedi buddsoddi bron £17.5 miliwn o gyllid cyfalaf yn y celfyddydau gweledol ledled Cymru. Yn y ei strategaeth newydd ar gyfer y celfyddydau gweledol, mae cyngor y celfyddydau yn nodi bod parhau i ddatblygu seilwaith ar gyfer y celfyddydau gweledol yn flaenoriaeth yn y tymor byr a’r tymor canolig. Er mwyn cynorthwyo yn hyn o beth, mae’n dda gennyf gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi £700,000 o gyllid cyfalaf i gyngor y celfyddydau yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn cynorthwyo i ddatblygu’r seilwaith ar gyfer y celfyddydau gweledol.

Caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i wella’r seilwaith ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Oriel Mostyn, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Chanolfan Celfyddydau Chapter. I gloi, mae sefydlu Oriel Genedlaethol a Chanolfan Genedlaethol Celfyddyd Gyfoes yn dal yn ddyheadau ar gyfer y tymor hir, ond, o fod yn realistig, nid oes modd bwrw ymlaen â chynlluniau o’r fath tan rywbryd yn ystod y blynyddoedd ar ôl 2012. Yn y tymor byr a’r tymor canolig, bydd yr arian ychwanegol yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd Amgueddfa Cymru’n gallu symud gam yn nes at greu oriel genedlaethol; ac y bydd cyngor y celfyddydau’n gallu mynd ati i wella mwy ar y seilwaith ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru.