Skip to content

Ysgrifenedig - Arian Ychwanegol i Urdd Gobaith Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, Y Gweinidog Dros Dreftadaeth

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dod i gytundeb â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gynnig cymorth ariannol hirdymor i Eisteddfod yr Urdd.

O 2009 ymlaen, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig cymorth ariannol o £150,000 y flwyddyn, ac Awdurdodau Lleol Cymru yn cyfrannu yn yr un modd.

Eisteddfod yr Urdd yw’r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop, sy’n denu dros 100,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr. Mae Eisteddfod yr Urdd yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi polisïau ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer diwylliant, yr iaith Gymraeg a phobl ifanc. Mae wedi dod yn anoddach, fodd bynnag, i awdurdodau unigol reoli’r baich ariannol sy’n gysylltiedig â chynnal y digwyddiad blynyddol hwn.

O dan y cytundeb hirdymor â CLlLC, bydd pob awdurdod lleol yn cyfrannu yn flynyddol, yn hytrach na bod yr awdurdod sy’n cynnal yr Eisteddfod yn gwneud un taliad mawr. Byddai hyn yn ychwanegu at y patrwm sydd eisoes wedi’i fabwysiadau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal â lleihau’r baich sydd ar awdurdodau unigol, mae’r trefniant hwn yn ei wneud yn bosibl i Eisteddfod yr Urdd ymweld â phob rhan o Gymru. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith ym mhob rhan o Gymru.

Bydd cyfraniad y Llywodraeth i’r trefniant newydd hwn yn cael ei sianelu trwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd yr arian hwn yn ychwanegol i’r cymorth refeniw y mae’r Urdd eisoes yn ei gael gan y Bwrdd. Bydd Urdd Gobaith Cymru yn derbyn £663,754 gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Bydd angen i CLlLC a’r Bwrdd gytuno ar raglen hirdymor nawr ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Rwy’n falch iawn fodd bynnag y bydd y cytundeb hwn yn golygu y bydd yn bosibl cynnal Eisteddfod 2009 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.