Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad y Comisiwn Etholiadol - Cyfrifo mewn Etholiadau – Etholiadau 2007 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
Cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol heddiw ei adroddiad “Cyfrifo mewn Etholiadau – Etholiadau 2007 Cynulliad Cenedlaethol Cymru”. Llywodraeth y Cynulliad ofynnodd am adroddiad i edrych ar drefniadau cyfrifo'r Swyddogion Canlyniadau yn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2007.

Mae hwn yn waith pwysig. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Etholiadol am ymgymryd â'r gwaith ac i Swyddfa Archwilio Cymru em eu gwaith manwl. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl Swyddogion Canlyniadau a staff eraill sydd wedi helpu gyda'r adroddiad.

Mae'r trefniadau ar gyfer gweinyddu cyllid etholiadol yn flynyddoedd oed erbyn hyn. Fel ag y mae'r Adroddiad yn ei gydnabod, mae'n hen bryd edrych o'r newydd ar rai agweddau ar y trefniadau. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu dau etholiad erbyn hyn ac rydym bellach, mae'n debyg, mewn sefyllfa i allu bwrw barn gytbwys am effeithiolrwydd a phriodoldeb y trefniadau hyn. Mae'r adroddiad felly'n hynod ddefnyddiol ac amserol. Rwy'n awyddus i weithio gyda'n partneriaid i wneud yn siwr bod y trefniadau ariannu yn ateb y gofyn ac yn dâl priodol a digonol i'r rheini sy'n cymryd rhan.

Mae'r Comisiwn Etholiadaol yn gwneud 7 argymhelliad, ac mae tri ohonyn nhw wedi'u hanelu at Lywodraeth y Cynulliad ac un ar ein cyfer ni a Llywodraeth y DU gyda'n gilydd.

Rwy'n croesawu'r casgliad cyffredinol i Swyddogion Canlyniadau gadw ffrwyn effeithiol ar gostau etholiad 2007. Gallwn hefyd deimlo'n ffyddiog bod cyfrifon y Swyddog Canlyniadau a rhai'r awdurdod lleol yn cael eu cadw ar wahân. Hyn oedd un o brif bryderon Sue Essex, y Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, pan ofynnodd am yr Adroddiad. Er hynny, fe welodd y Comisiwn Etholiadol wendidau yn y trefniadau cyfreithiol a gweinyddol sy'n gefn i weinyddiad yr etholiadau.

Rwy'n ddiolchgar i awdurdodau lleol, swyddogion canlyniadau a'u staff am eu gwaith diflino a sicrhaodd fod tri etholiad diwethaf y Cynulliad wedi'u gweinyddu'n llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'r pwerau a dyletswyddau cyfreithiol a'r drefn ar gyfer eu rhannu rhwng nifer o gyrff cyhoeddus yn rhoi fframwaith clir y gall Swyddogion Canlyniadau weithio o'i fewn a chael eu talu ynddo. Er mwyn i'r system allu ennyn parch a ffydd pobl gyffredin, rhaid inni wneud yn siwr bod cyfrifoldebau pawb yn glir, yn hawdd eu deall ac yn ateb gofynion yr 21ain ganrif. Fy mwriad yw cydweithio'n glos â'r Grŵp Cynllunio Etholiadau, y Comisiwn Etholiadol a chyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

Mae etholiadau lleol mis Mai eleni ar drothwy'r drws. Y flaenoriaeth gyntaf wrth gwrs yw sicrhau eu bod yn agored ac yn ddemocrataidd. Wedi cynnal yr etholiadau, byddaf yn ymateb yn fanylach i'r tri argymhelliad i Lywodraeth y Cynulliad ac i'r argymhelliad a rannwyd rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y DU.