Skip to content

Ysgrifenedig - Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Mae nifer o Aelodau wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i holi ynglŷn â’r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) ac i fynegi pryderon ynglŷn ag oedi wrth dalu rhai myfyrwyr.

 

Gallaf gadarnhau bod oedi wedi digwydd wrth brosesu nifer o geisiadau, ac nad yw’r broses o ymdrin â’r ceisiadau wedi bod mor gyflym ag y bu dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Gallaf hefyd gadarnhau bod y ceisiadau a oedd yn aros i’w prosesu wedi’u clirio ar 16 Tachwedd.

 

Digwyddodd yr oedi cyffredinol hwn eleni o ganlyniad i brosesau newydd a gyflwynwyd gan weinyddwyr y cynllun, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy’n mynnu bod yr ymgeiswyr yn cyflwyno dogfennau gwreiddiol yn dystiolaeth ategol gyda’u ceisiadau. Cyflwynwyd y gofynion newydd hyn i gryfhau mesurau atal twyll ac i gydymffurfio â rheolau Hawlfraint y Goron sy’n gwahardd copïo dogfennau’r Goron, megis pasportau a thystysgrifau geni.

 

Mae angen amser ychwanegol i ddelio â dogfennau gwreiddiol (o gymharu â chopïau) oherwydd bod rhaid cael aelod cyfyngedig o staff i ymdrin â hwy mewn lleoliad diogel. Yn ogystal, daeth nifer fawr o geisiadau i law ar ôl i’r tymor ddechrau ac achosodd hynny beth oedi hefyd.

 

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi defnyddio adnoddau ychwanegol er mwyn clirio’r ceisiadau oedd heb eu prosesu; serch hynny, rwyf wedi gofyn am addewid y byddant yn cyflwyno mesurau i sicrhau bod dogfennau gwreiddiol yn cael eu rheoli’n llawer mwy effeithiol yn y dyfodol, er mwyn osgoi’r broblem a gafwyd eleni.

 

Mae’r oedi gyda cheisiadau rhai myfyrwyr EMA yng Nghymru yn llawer llai difrifol, a heb fod yn gysylltiedig o gwbl, â’r problemau a gafwyd yn Lloegr, a arweiniodd at derfynu’r contract rhwng y Cyngor Dysgu a Sgiliau a’u hasiant cyflenwi. Bu’n rhaid i Linell Gymorth EMA-Cymru ymdopi gyda chynnydd sylweddol yn nifer eu galwadau ffôn, wrth i fyfyrwyr o Loegr ffonio EMA-Cymru ar gamgymeriad i holi ynglŷn â’u taliadau hwyr. 

 

Pan fo ceisiadau am EMA wedi’u cymeradwyo, anfonir lythyr dyfarniad at y myfyrwyr ar unwaith. Unwaith y bydd ysgol neu goleg y myfyriwr yn cadarnhau, trwy’r system fewnrwyd, bod gan y myfyriwr gytundeb dysgu a’r presenoldeb gofynnol, bydd y taliadau’n dechrau ac yn cael eu hôl-ddyddio fel y bo’n briodol. Gwneir taliadau bob pythefnos. Hyderaf y bydd hyn yn sicrhau bod cynllun cadarn ac effeithiol bellach yn weithredol.