Skip to content

Ysgrifenedig - Gwelliannau i ostyngiadau Trethi Busnes ar gyfer Busnesau Bach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Yr wyf yn ysgrifennu i’ch hysbysu am fy mhenderfyniad i wneud Gorchymyn er mwyn gwella’r ddarpariaeth o ryddhad ardrethi, a fydd yn cael ei ddyddio yn ôl i 1 Ebrill 2008, ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. Mae’r pecyn hwn, sydd hefyd yn cynnwys y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus sy’n rhoi arian i fusnesau er mwyn iddynt allu caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’u toiledau, werth tua £7 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau yn unol â’n hymrwymiad Cymru’n Un. Gall hyd at 10,500 o fusnesau fanteisio ar y rhyddhad ardrethi hwn ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster yn yr atodiad.

Maes o law byddaf yn gwneud Gorchymyn sy’n:

  • Cynyddu’r trothwy gwerth ardrethol presennol o £5000 i £6500 ar gyfer y mwyafrif o hereditamentau busnes yng Nghymru sy’n gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi gwerth 25%.
  • Rhoi rhyddhad ardrethi gwerth 25% i’r mwyafrif o leoliadau manwerthu (siopau, tafarndai, bwytai, a gorsafoedd petrol) sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,501 a £9000 hyd 2012.
  • Rhoi rhyddhad ardrethi gwerth 50% i hereditamentau sydd wedi’u meddiannu’n llwyr gan Undebau Credyd yng Nghymru ac sydd â gwerth ardrethol o hyd at £9000 hyd 2012.
  • Rhoi rhyddhad ardrethi gwerth 50% i hereditamentau sydd wedi’u meddiannu’n llwyr gan fusnesau gofal plant a meithrinfeydd dydd yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 hyd 2012.

Bydd y rhyddhad ardrethi hefyd yn parhau i fod ar gael ar gyfer y busnesau canlynol

  • Rhyddhad ardrethi gwerth 50% ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o £2000 neu lai
  • Rhyddhad ardrethi gwerth 100% ar gyfer swyddfeydd post (a hereditamentau sy’n cynnwys swyddfeydd post) sydd â gwerth ardrethol o £9000 neu lai
  • Rhyddhad ardrethi gwerth 50% ar gyfer swyddfeydd post (a hereditamentau sy’n cynnwys swyddfeydd post) sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 and £12,000.

Bydd gwerth y rhyddhad ardrethi gwell fel a ganlyn:

  • Siopau, tafarndai, bwytai, caffis a gorsafoedd petrol sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,501 a £ 9,000 sy’n derbyn rhyddhad ardrethi gwerth 25% - £757 - £1,049
  • Hereditamentau Busnes sydd â gwerth ardrethol rhwng £5,001 a £6,500 sy’n derbyn rhyddhad ardrethi gwerth 25% - £583 –£757
  • Undebau Credyd - £466.24 i £2,097.00.
  • Darparwyr gofal plant - £466.20 i £2,796.00.

Gall hyd at 10,600 o fusnesau elwa ar y rhyddhad ardrethi ychwanegol hwn.

Mae cynllun grant cyfleusterau cyhoeddus newydd Llywodraeth y Cynulliad sy’n werth £385,000 yn annog busnesau i agor eu toiledau ar gyfer y cyhoedd. Bydd cynghorau lleol yn derbyn hyd at £18,000 y flwyddyn i roi cymorth grant i fusnesau lleol sy’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’u toiledau. Bydd hyn yn annog awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth â’r busnesau i wella’r ddarpariaeth o doiledau diogel, glân ac sy’n hawdd eu cyrraedd.

Atodiad 1: Pwy Sy'n Gymwys i Dderbyn Rhyddhad Ardrethi

  1. Rhaid bod y safleoedd busnes wedi’u meddiannu’n llwyr, a rhaid iddynt beidio â bod yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi ar y sail eu bod yn cael eu defnyddio am resymau elusennol neu oherwydd nad ydynt yn gwneud elw.
  2. Mae rhai safleoedd penodol yn anghymwys gan gynnwys  cytiau ar draethau, gorsafoedd cyfathrebu electronig, gweithfeydd carthffosiaeth, meysydd a mannau parcio. Nid yw hereditamentau’r Goron a hereditamentau sydd wedi’u meddiannu gan awdurdodau bilio neu braeseptio yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi.
  3. Bydd y sawl sy’n berchen ar fwy nag un busnes manwerthu â gwerth ardrethol sy’n fwy na £6500 yng Nghymru yn gallu hawlio rhyddhad ardrethi ar gyfer un eiddo yn unig, a’r perchennog fydd yn penderfynu am ba un y bydd yn gwneud cais.
  4. Dylai’r eiddo gael ei ddefnyddio yn bennaf neu yn gyfan gwbl ar gyfer gwerthu nwyddau, sy’n cynnwys
    1. Prydau bwyd neu luniaeth i’w fwyta neu yfed ar y safle neu oddi ar y safle lle cânt eu gwerthu neu eu paratoi
    2. Diodydd meddwol i’w hyfed ar y safle neu oddi ar y safle lle cânt eu gwerthu
    3. petrol neu danwydd modurol arall ar gyfer cerbydau
  5. Rhaid i safleoedd gofal plant gael eu defnyddio’n llwyr ar gyfer gofalu am blant neu ar gyfer darparu gofal dydd i blant gan berson yng Nghymru sydd wedi’i gofrestru o dan Rhan XA o Ddeddf Plant 1989.
  6. Rhaid i safleoedd Undebau Credyd gael eu defnyddio’n llwyr gan Undeb Credyd sydd wedi’i gofrestru yn unol â Deddf yr Undebau Credyd 1979.